- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i awdurdod lleol, o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl cael unrhyw gais a dderbynnir fel un dilys o dan reoliad 9, anfon at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd ddatganiad sy’n nodi—
(a)y dyddiad y cafwyd y cais;
(b)natur y cais;
(c)os nad yw’r ceisydd eisoes wedi penodi cynrychiolydd, y caiff y ceisydd benodi cynrychiolydd i’w gynorthwyo ac i weithredu ar ei ran yn ystod y cyfan neu ran o’r cyfnod adolygu;
(d)y modd y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal yr adolygiad;
(e)nad oes raid i’r ceisydd dalu’r ffi, neu’r rhan o’r ffi, sy’n destun yr adolygiad, yn ystod y cyfnod adolygu;
(f)os yw’r ceisydd yn penderfynu peidio â thalu’r ffi, neu’r rhan o’r ffi, sy’n destun yr adolygiad, yn ystod y cyfnod adolygu, bod rhaid i’r ceisydd neu unrhyw gynrychiolydd hysbysu’r awdurdod lleol o’r penderfyniad hwnnw, naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen;
(g)pa un a fydd yr awdurdod lleol, os digwydd i’r ceisydd beidio â thalu’r ffi yn ystod y cyfnod adolygu, yn ceisio adennill, ar ôl y cyfnod adolygu, unrhyw swm a fydd wedi cronni a heb ei dalu yn ystod y cyfnod adolygu;
(h)os yw’r ceisydd—
(i)wedi gofyn am adolygu dyfarniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 53(1) o’r Ddeddf, y dylai’r ceisydd dalu cyfraniad tuag at daliadau uniongyrchol, a
(ii)wedi hysbysu’r awdurdod lleol na fydd yn talu’r cyfraniad yn ystod y cyfnod adolygu,
y bydd yr awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol gros;
(i)pa wybodaeth neu ddogfennaeth bellach, os oes rhai, y mae’r awdurdod lleol yn gofyn amdanynt yn rhesymol gan y ceisydd er mwyn cynnal yr adolygiad, a’r terfyn amser ar gyfer cyflenwi’r cyfryw wybodaeth neu ddogfennaeth, a bennir yn rheoliad 12;
(j)os yw’r ceisydd yn drosglwyddai atebol—
(i)pa un a yw’r awdurdod lleol yn bwriadu gofyn ai peidio am wybodaeth neu ddogfennaeth gan berson ac eithrio’r ceisydd yn unol â rheoliad 13, a
(ii)pa wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan y person hwnnw ;
(k)y bydd swyddog priodol o’r awdurdod lleol ar gael i wneud ymweliad â’r cartref at y diben o gasglu’r wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol;
(l)y weithdrefn ar gyfer gofyn am ymweliad â’r cartref;
(m)enw a manylion cyswllt y person penodedig a fydd yn gyfrifol am ymateb i unrhyw ymholiadau a wneir gan y ceisydd ynglŷn â’r adolygiad;
(n)manylion cyswllt unrhyw sefydliad a allai fod o gymorth i’r ceisydd yn ystod y cyfnod adolygu.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn anfon ei benderfyniad ar yr adolygiad at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl cael y cais.
(3) Pan fo’r datganiad o dan baragraff (1) yn cynnwys cais am wybodaeth a dogfennaeth o dan baragraff (1)(j), rhaid i’r awdurdod lleol anfon datganiad at y person (“P”) y gofynnir am yr wybodaeth a dogfennaeth ganddo, sy’n nodi—
(i)natur y cais, i’r graddau y mae’n ymwneud â throsglwyddo ased gan P sy’n bodloni’r amodau yn adran 72(1) o’r Ddeddf;
(ii)pa wybodaeth a dogfennaeth y gofynnir amdanynt gan P er mwyn cynnal yr adolygiad, a’r terfyn amser ar gyfer cyflenwi’r cyfryw wybodaeth neu ddogfennaeth, a bennir yn rheoliad 12;
(iii)y byddai swyddog o’r awdurdod lleol ar gael i wneud ymweliad â’r cartref at y diben o gasglu’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth ychwanegol;
(iv)y weithdrefn ar gyfer gofyn am ymweliad â’r cartref; a
(v)enw a manylion cyswllt y person penodedig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: