- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn at ddibenion—
(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person gydymffurfio—
(i)ag unrhyw un neu ragor o Erthyglau 3 i 6 ac 8; neu
(ii)â rheoliad 5; a
(b)ei gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).
(2) Mae adran 32 o’r Ddeddf (pwerau mynediad)(1) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn, at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig—
(a)i arfer pŵer mynediad i ddarganfod a oes neu a oedd unrhyw un neu ragor o Erthyglau 3 i 6 ac 8 wedi eu torri;
(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaeth o’r fath wedi ei thorri; ac
(c)wrth arfer pŵer mynediad o dan ddarpariaethau adran 32 fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn, i arfer y pwerau yn is-adrannau (5) a (6) ynglŷn â chofnodion.
(3) Mae adran 37(1) a (6) o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn at ddiben galluogi apêl yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(4) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 4 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(5) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Rhan 5 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn gymwys gyda’r addasiadau a bennir yn yr ail golofn o’r tabl hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Diwygiwyd adran 32(5) a (6) gan adran 70 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (p. 16) a pharagraff 18 o Atodlen 2 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: