- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
7 Gorffennaf 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym
31 Gorffennaf 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(2)(b), 5(5)(b), 55(2) a 58(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” yr ystyr a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002(2);
ystyr “cwrs addysg uwch” (“course of higher education”) yw cwrs sy’n dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(3);
mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o’r fath sy’n arwain at radd gyntaf;
ystyr “cwrs blaenorol” (“preceding course”) yw cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015 [F1, cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2017] neu gwrs ar gyfer gradd sylfaen neu gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y mae person (gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn peidio â’i fynychu yn union cyn dechrau mynychu cwrs penben;
mae i “cwrs penben” (“end-on course”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2015 [F2 neu reoliad 2(1) o Reoliadau 2017];
[F3ystyr “cwrs sengl” (“single course”) yw cwrs—
y mae rheoliad 5(6) o Reoliadau 2015 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn y rheoliad hwnnw;
y mae rheoliad 5(6) o Reoliadau 2017 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn y rheoliad hwnnw; neu
y mae rheoliad 6(4) o Reoliadau 2018 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn rheoliad 6(3) o Reoliadau 2018.]
ystyr “cymhwyster cyfwerth neu is” (“equivalent or lower qualification”) yw cymhwyster y penderfynir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) ei fod yn gymhwyster cyfwerth neu is;
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004(4);
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015; ac
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015(5).
[F4ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017;]
[F4ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018;]
[F5ystyr “yn cael ei gyllido’n gyhoeddus” (“publicly-funded”) yw yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o gronfeydd cyhoeddus;]
(2) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfwerth neu is—
(a)os oes gan y person gymhwyster addysg uwch o sefydliad yn y Deyrnas Unedig; a
(b)os yw’r cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ar lefel academaidd sy’n gyfwerth i gymhwyster y mae’r cwrs cyfredol yn arwain ato neu’n uwch na’r cymhwyster hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 47(c)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 47(b)
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 47(d)
F4Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 47(a)
F5Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (26.3.2016) gan Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/276), rhlau. 1(1), 3
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs cymhwysol mewn perthynas â chynllun o dan Ddeddf 2004 at ddibenion y cyfnod trosiannol:
(a)yn gwrs addysg uwch;
(b)wedi ei ddynodi at ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012; ac
(c)yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Nghymru.
(2) Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os nad oedd y sefydliad a oedd yn darparu’r cwrs, ar yr adeg y cafodd y person cymhwysol gynnig lle ar y cwrs hwnnw, yn cael ei gyllido’n gyhoeddus.
Diwygiadau Testunol
F6Rhlau. 3-3B wedi eu hamnewid ar gyfer rhl. 3 (26.3.2016) gan Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/276), rhlau. 1(1), 4
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
3A.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), cwrs cymhwysol at ddiben cynllun ffioedd a mynediad nad yw’n gynllun o dan Ddeddf 2004 yw cwrs addysg uwch sy’n gallu cael ei ddynodi drwy reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998 (ni waeth pa un a yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn cael ei gyllido’n gyhoeddus).
(2) Pan fo cwrs yn cael ei ddarparu gan berson ar ran sefydliad, nid yw’r cwrs hwnnw yn gwrs cymhwysol os nad yw’r person hwnnw yn elusen.
Diwygiadau Testunol
F6Rhlau. 3-3B wedi eu hamnewid ar gyfer rhl. 3 (26.3.2016) gan Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/276), rhlau. 1(1), 4
3B. At ddibenion rheoliadau 3 a 3A, nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol:
(a)os dechreuodd blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cyn 1 Medi 2012;
(b)os yw’n gwrs penben ac os nad oedd y cwrs blaenorol yn gwrs cymhwysol oherwydd paragraff (a); neu
(c)os yw’n gwrs rhan-amser.]
Diwygiadau Testunol
F6Rhlau. 3-3B wedi eu hamnewid ar gyfer rhl. 3 (26.3.2016) gan Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/276), rhlau. 1(1), 4
4.—[F7(1) Mae person cymhwysol a ragnodir at ddibenion adran 5(5) o Ddeddf 2015 yn berson sy’n dod o fewn yr Atodlen ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd, ac eithrio—
(a)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2015 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (d), (e) neu (f) o’r Rheoliadau hynny;
(b)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2017 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (d), (e) neu (f) o’r Rheoliadau hynny;
(c)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2018 oherwydd ei fod yn berson y mae Eithriad 3, paragraff (a), Eithriad 4, Eithriad 5 neu Eithriad 6 a restrir yn rheoliad 10(1) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo; neu
(d)person a grybwyllir ym mharagraffau (2), (3), neu (8).]
(2) Yn ddarostyngedig i’r eithriadau ym mharagraffau (4), (5), (6) a (7), nid yw person yn berson cymhwysol—
(a)os oes gan y person gymhwyster addysg uwch; a
(b)os yw’r cwrs cymhwysol yn arwain at gymhwyster sy’n gymhwyster cyfwerth neu is.
(3) Nid yw person yn berson cymhwysol—
(a)os yw’r person yn rhoi’r gorau i gwrs (“y cwrs cyntaf”) nad yw’n gwrs cymhwysol;
(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, os yw’r person yn mynychu ar unwaith gwrs arall sy’n gwrs cymhwysol; ac
(c)os nad oedd y cwrs cyntaf yn gwrs cymhwysol oherwydd rheoliad 3(2).
(4) Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’r cwrs cymhwysol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
(b)pan na fo hyd y cwrs yn hwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan-amser fel hyd y cwrs llawnamser cyfatebol); ac
(c)pan na fo’r person cymhwysol yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig.
(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw ran o gwrs sengl—
(a)pan fo’r cwrs sengl yn arwain at radd anrhydedd yn cael ei rhoi i’r person cymhwysol gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig cyn y radd derfynol neu gymhwyster cyfatebol; a
(b)pan fo’r unig radd anrhydedd sydd gan y person cymhwysol wedi ei chael fel rhan o’r cwrs sengl hwnnw.
(6) Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r cwrs cymhwysol yn radd sylfaen.
(7) Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r cwrs cymhwysol yn arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer.
(8) Pan fo person, o ganlyniad i ddigwyddiad yn ystod blwyddyn academaidd, yn dod o fewn yr Atodlen yn ystod blwyddyn academaidd, nid yw’r person hwnnw yn berson cymhwysol mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi neu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn academaidd flaenorol.
Diwygiadau Testunol
F7Rhl. 4(1) wedi ei amnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 48
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
5.—(1) Mae’r geiriau “a ddarperir yng Nghymru” yn adran 5(2)(b) o Ddeddf 2015 yn cael effaith er mwyn cynnwys llunio, yng Nghymru, y deunyddiau sy’n angenrheidiol i gyflwyno cwrs cymhwysol penodol, ni waeth pa un a yw’n ofynnol i fyfyrwyr fynychu’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs.
(2) Mae’r geiriau “a ddarperir yng Nghymru” yn adran 17(1) o Ddeddf 2015 yn cael effaith er mwyn cynnwys llunio, yng Nghymru, y deunyddiau sy’n angenrheidiol i ddarparu addysg, ni waeth pa un a yw’n ofynnol i fyfyrwyr fynychu sefydliad i gael yr addysg honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
6. At ddibenion paragraff 29(3) o’r Atodlen i Ddeddf 2015, mae cynllun o dan Ddeddf 2004 yn cynnwys cynllun arfaethedig y mae CCAUC yn ei gael fel awdurdod perthnasol(6) o dan adran 34 o Ddeddf 2004 cyn 1 Awst 2015 ond nad yw’n cael ei gymeradwyo gan CCAUC tan ar ôl y dyddiad hwnnw yn dilyn adolygiad o dan reoliadau 11 i 18 o Reoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011(7).
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2015
Rheoliad 4
1.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon—LL+C
ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw—
mewn perthynas â gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o’r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o’r AEE—
priod neu bartner sifil y person hwnnw;
disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person—
sydd o dan 21 oed; neu
sy’n ddibynyddion i’r person neu’n ddibynyddion i briod neu bartner sifil y person; neu
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;
mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—
priod neu bartner sifil y person; neu
plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;
mewn perthynas â gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—
priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn—
sydd o dan 21 oed; neu
sy’n ddibynyddion i’r gwladolyn neu’n ddibynyddion i briod neu bartner sifil y gwladolyn;
mewn perthynas â gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—
priod neu bartner sifil y gwladolyn;
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn—
sydd o dan 21 oed; neu
sy’n ddibynyddion i’r gwladolyn neu’n ddibynyddion i briod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;
mewn perthynas â gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—
priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn—
sydd o dan 21 oed; neu
sy’n ddibynyddion i’r gwladolyn neu’n ddibynyddion i briod neu bartner sifil y gwladolyn;
ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw’r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl pa un a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teulu i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(8);
ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth lawnamser neu ran-amser;
[F8mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;]
[F8mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;]
ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a’r Cydffederasiwn Swisaidd, o’r llall, ar Rydd Symudiad Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(9) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr “ffoadur” yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr “refugee” yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(10) fel y’i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(11);
ystyr “gweithiwr” (“worker”) yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;
ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o’r AEE—
sy’n weithiwr yn y Deyrnas Unedig; a
sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F9... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “gweithiwr mudol o’r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd—
sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig; a
sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gwladolyn o’r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE F9...;
ystyr “gwladolyn o’r UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;
[F10ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi caffael hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;]
ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
sy’n berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F9... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—
mewn perthynas â gwladolyn o’r AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu
mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE—
ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
sy’n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F9... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig o’r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
[F11ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;]
[F12ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—
y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; a
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;]
ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“P”)—
[F13sydd—
wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
[F14wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;]
wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu
wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat [F15neu deuluol] o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;]
y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(13) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; a
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan roddwyd caniatâd i P ddod i mewn neu aros;
[F11ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;]
[F8mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;]
ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Aruba; Bermwda; Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; [F16Gibraltar;] Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Montserrat; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius a Sint Maarten); Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St-Barthélemy; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan de Cunha); St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Ynysoedd Turks a Caicos a Wallis a Futuna;
ystyr “yr Undeb Ewropeaidd” (“European Union”) yw’r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd fel y’i cyfansoddir o bryd i’w gilydd;
mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(14); ac
ystyr “yr Ynysoedd” (“the Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny.
(3) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P” yn y diffiniad hwn) i gael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, yn [F17y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir], yn [F18y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor], neu yn [F19y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor] pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith—
(a)bod P;
(b)bod priod neu bartner sifil P;
(c)bod rhiant P; neu
(d)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, fod plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,
yn cael, neu wedi cael, ei gyflogi dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.
(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae cyflogaeth dros dro yn cynnwys—
(a)yn achos aelodau o lynges, byddin neu awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r [F20Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; ac
(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r [F21Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.
(5) At ddibenion yr Atodlen hon, mae ardal [F22ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar]—
(a)nad oedd gynt yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
(b)sydd, ar unrhyw adeg cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym neu ar ôl hynny, wedi dod yn rhan o’r naill neu’r llall neu’r ddwy o’r ardaloedd hyn,
i gael ei hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
(6) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, am ei fod wedi symud o un o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—
(a)y cwrs presennol; neu
(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol,
i gael ei ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.
Diwygiadau Testunol
F8Geiriau yn Atod. para. 1(1) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(2)(a)(ii)
F9Geiriau yn Atod. para. 1(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(2)(a)(i)
F10Geiriau yn Atod. para. 1(1) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(2)(a)(iv)
F11Geiriau yn Atod. para. 1(1) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 49(a)(i)
F12Geiriau yn Atod. para. 1(1) wedi eu mewnosod (8.3.2019 gyda chymhwysiad unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 13(a)
F13Geiriau yn Atod. para. 1(1) wedi eu hamnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 49(a)(ii)
F14Geiriau yn Atod. para. 1(1) wedi eu mewnosod (9.9.2019) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1192), rhlau. 1(2), 4(2)(a)
F15Geiriau yn Atod. para. 1(1) wedi eu mewnosod (9.9.2019) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1192), rhlau. 1(2), 4(2)(b)
F16Gair yn Atod. para. 1(1) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(2)(a)(iii)
F17Geiriau yn Atod. para. 1(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(2)(b)(i)
F18Geiriau yn Atod. para. 1(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(2)(b)(ii)
F19Geiriau yn Atod. para. 1(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(2)(b)(iii)
F20Geiriau yn Atod. para. 1(4)(b) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(2)(c)
F21Geiriau yn Atod. para. 1(4)(c) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(2)(c)
F22Geiriau yn Atod. para. 1(5) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(2)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. para. 1 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Person sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio drwy fod wedi caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;
(b)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;
(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu ei breswyliad yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. para. 2 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
3. Person—
[F23(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs, naill ai—
(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd caffael yr hawl i breswylio’n barhaol; neu
(ii)yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi caffael yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;]
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)a oedd, mewn achos pan oedd y preswyliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F24Deyrnas Unedig, yr] Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn union cyn y cyfnod o breswylio y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
Diwygiadau Testunol
F23Atod. para. 3(a) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(3)(a)
F24Geiriau yn Atod. para. 3(d) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. para. 3 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
4.—(1) Person—
(a)sy’n ffoadur;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd y person ei gydnabod yn ffoadur; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i ffoadur;
(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur gais am loches;
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd y ffoadur ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a
(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu bartner sifil ffoadur;
(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur gais am loches, yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;
(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur gais am loches;
(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd y ffoadur ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac
(e)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. para. 4 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
4A.—[F26(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.]
(2) Person—
(a)(i)y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; [F27a]
(b)sy’n preswylio fel arfer [F28yn y Deyrnas Unedig] ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs[F29.]
F30(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3) Person—
(a)(i)y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; [F31ac]
(c)sy’n preswylio fel arfer [F28yn y Deyrnas Unedig] ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs[F32.]
F33(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.]
Diwygiadau Testunol
F25Atod. para. 4A wedi ei fewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 49(b)
F26Atod. para. 4A(1) wedi ei amnewid (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 13(a)
F27Gair yn Atod. para. 4A(2)(a)(ii) wedi ei fewnosod (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 13(b)
F28Geiriau yn Atod. para. 4A wedi eu hamnewid (8.3.2019) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(2), 13(b)
F29Atod. para. 4A(2)(b): atalnod llawn wedi ei amnewid ar gyfer gair (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 13(c)
F30Atod. para. 4A(2)(c) wedi ei hepgor (28.1.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 13(d)
F31Gair yn Atod. para. 4A(3)(b) wedi ei fewnosod (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 13(e)
F32Atod. para. 4A(3)(c): atalnod llawn wedi ei amnewid ar gyfer gair (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 13(f)
F33Atod. para. 4A(3)(d) wedi ei hepgor (28.1.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 13(g)
5.—(1) Person—
(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros; a
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
[F34(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; ac]
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i briod neu bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
[F35(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;]
[F36(c)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; a]
(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
[F37(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.]
Diwygiadau Testunol
F34Atod. para. 5(2)(b) wedi ei amnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 49(c)(i)
F35Atod. para. 5(3)(b) wedi ei amnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 49(c)(ii)
F36Atod. para. 5(3)(c) wedi ei amnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 49(c)(iii)
F37Atod. para. 5(4) wedi ei fewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 49(c)(iv)
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. para. 5 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
5A.—(1) Person—
(a)sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67; [F39a]
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs[F40.]
F41(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(2) Person—
(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67; [F42ac]
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs[F43.]
F44(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3) Yn y paragraff hwn—
ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.]
Diwygiadau Testunol
F38Atod. para. 5A wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 13(c)
F39Gair yn Atod. para. 5A(1)(a) wedi ei fewnosod (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 14(a)
F40Atod. para. 5A(1)(b): atalnod llawn wedi ei amnewid ar gyfer gair (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 14(b)
F41Atod. para. 5A(1)(c) wedi ei hepgor (28.1.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 14(c)
F42Gair yn Atod. para. 5A(2)(b) wedi ei fewnosod (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 14(d)
F43Atod. para. 5A(2)(c): atalnod llawn wedi ei amnewid ar gyfer gair (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 14(e)
F44Atod. para. 5A(2)(d) wedi ei hepgor (28.1.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 14(f)
6.—(1) Person—
(a)sydd—
(i)yn weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE;
(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;
(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);
(iv)yn weithiwr ffin yr AEE neu’n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;
(v)yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu’n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu
(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);
(b)sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F45Deyrnas Unedig, yr] Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o’r is-baragraff hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F45Geiriau yn Atod. para. 6(1)(c) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. para. 6 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
7.— [F46(1)] Person—
(a)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F47Deyrnas Unedig, yr] Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb(15), fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.
[F48(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]
Diwygiadau Testunol
F46Atod. para. 7(1): Atod. para. 7 wedi ei ailrifo fel atod. para. 7(1) (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(5)(a)
F47Geiriau yn Atod. para. 7(1)(b) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(5)(b)
F48Atod. para. 7(2) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(5)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. para. 7 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
8.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b)sydd wedi ymadael â’r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio [F49cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu] ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fo tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau;
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F50Deyrnas Unedig, yr] Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(e)a oedd, mewn achos pan oedd y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F51Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (d).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) wedi arfer hawl i breswylio—
(a)pan fo A yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson [F52yr oedd ganddo’r hawl] i breswylio’n barhaol, bod A wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig; neu
(b)pan fo A wedi setlo yn y Deyrnas Unedig [F53ac yr oedd ganddo’r hawl] i breswylio’n barhaol, bod A [F54wedi mynd] i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae A yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae A yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.
[F55(3) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.]
Diwygiadau Testunol
F49Geiriau yn Atod. para. 8(1)(b) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(6)(a)
F50Geiriau yn Atod. para. 8(1)(d) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(6)(b)
F51Geiriau yn Atod. para. 8(1)(e) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(6)(c)
F52Geiriau yn Atod. para. 8(2)(a) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(6)(d)(i)
F53Geiriau yn Atod. para. 8(2)(b) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(6)(d)(ii)(aa)
F54Geiriau yn Atod. para. 8(2)(b) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(6)(d)(ii)(bb)
F55Atod. para. 8(3) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(6)(e)
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. para. 8 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
9.—(1) Person—
(a)sydd naill ai—
(i)yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd ar y cwrs; neu
(ii)yn aelod o deulu person o’r fath;
(b)sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig;
(c)sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F56Deyrnas Unedig, yr] Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth berthnasol yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
[F57(2) Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38; neu
(ii)yn wladolyn o’r UE; a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.]
(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth berthnasol yn unol â pharagraff 1(3).
[F58(4) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]
Diwygiadau Testunol
F56Geiriau yn Atod. para. 9(1)(c) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(7)(a)
F57Atod. para. 9(2) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(7)(b)
F58Atod. para. 9(4) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(7)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. para. 9 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
10.—(1) Person—
(a)sy’n wladolyn o’r UE F59... ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)a oedd, mewn achos pan oedd y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F60Deyrnas Unedig, yr] Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1), sef bod rhaid bod yn wladolyn o’r UE F61... ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, fel pe bai wedi ei fodloni.
Diwygiadau Testunol
F59Geiriau yn Atod. para. 10(1)(a) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(8)(a)
F60Geiriau yn Atod. para. 10(1)(d) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(8)(b)
F61Geiriau yn Atod. para. 10(2) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(8)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. para. 10 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
[F6211.—(1) Person—
(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd ac sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)mewn achos pan oedd y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi dod o fewn y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i’w drin fel pe bai’n dod o fewn y paragraff hwn ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]
Diwygiadau Testunol
F62Atod. para. 11 wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(9)
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. para. 11 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
12. Person—
(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F63Deyrnas Unedig, yr] Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Diwygiadau Testunol
F63Geiriau yn Atod. para. 12(c) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 9(10)
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. para. 12 mewn grym ar 31.7.2015, gweler rhl. 1(1)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion adran 5 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) sy’n nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad bennu terfynau ffioedd (neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd) mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol bob blwyddyn academaidd.
Terfynau ffioedd yw’r uchafswm y bydd rhaid i berson cymhwysol ei dalu i sefydliad am ymgymryd â chwrs cymhwysol.
Mae adran 5(2)(b) o Ddeddf 2015 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi disgrifiad o gyrsiau cymhwysol, ac mae adran 5(5)(b) yn eu galluogi i ragnodi dosbarthiadau o bersonau yn bersonau cymhwysol.
Y cyrsiau cymhwysol a ragnodir gan reoliad 3 yw’r cyrsiau hynny sy’n gallu cael eu dynodi drwy reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 pan fo blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Mae dynodi o dan y rheoliadau hynny yn golygu y caiff myfyrwyr wneud cais am gymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs. Mae eithriad ar gyfer “cyrsiau penben” pan ddechreuodd y cwrs gwreiddiol cyn 1 Medi 2012.
Y personau cymhwysol a ragnodir gan reoliad 4 yw’r personau hynny sydd, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd berthnasol, yn dod o fewn yr Atodlen, ac eithrio’r personau hynny nad ydynt yn gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 oherwydd paragraffau penodol yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau hynny, neu y mae ganddynt eisoes radd anrhydedd o sefydliad yn y DU.
Mae eithriad i’r myfyrwyr hynny sy’n trosglwyddo i gwrs cymhwysol o gwrs a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012. Mae eithriadau mewn cysylltiad â gradd anrhydedd flaenorol i bersonau sy’n ymgymryd â chyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon, nad ydynt ond wedi cael y radd anrhydedd fel rhan o gwrs sengl y maent yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd neu pan fo’r cwrs yn arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer.
Mae rheoliadau 5 a 6 yn gwneud darpariaeth atodol.
Mae rheoliad 5 yn egluro bod y geiriau ‘a ddarperir yng Nghymru’ mewn cysylltiad ag adrannau 5 a 17 o Ddeddf 2015 yn cynnwys llunio yng Nghymru y deunyddiau sy’n angenrheidiol i gyflwyno cwrs penodol neu i ddarparu addysg, hyd yn oed os nad yw’n ofynnol i fyfyrwyr fynychu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r cwrs neu sy’n darparu’r addysg, er enghraifft cwrs dysgu o bell. Mae rheoliad 6 yn darparu bod y term “cynllun o dan Ddeddf 2004” ym mharagraff 29(3) o’r Atodlen i Ddeddf 2015 yn cynnwys cynllun arfaethedig y mae CCAUC yn ei gael o dan adran 34 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 cyn 1 Awst 2015 (y dyddiad y daw’r paragraff hwnnw i rym) ond sy’n cael ei gymeradwyo gan CCAUC ar ôl y dyddiad hwnnw yn dilyn adolygiad o dan reoliadau 11 i 18 o Reoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae Rheoliadau Deddf Addysg Uwch 2004 (Awdurdod Perthnasol) (Dynodi) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/658 (Cy. 96)) yn cyfeirio at hyn.
OJ L158, 30.04.2004, tt. 77-123.
Gorch. 4904 ac OJ Rhif L114, 30.04.02, t. 6.
Gorchmn. 9171.
Gorchmn. 3906, (allan o brint; mae llungopïau ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth yr Is-adran Cymorth i Fyfyrwyr, yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).
Diffinnir “EEA State” yn Neddf Dehongli 1978 (p. 30).
Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc.) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4; gan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), a chan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau’r Tribiwnlys Lloches a Mewnfudo 2010 (O.S. 2010/21), Atodlen 1.
Mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).
OJ Rhif L141, 27.05.2011, t. 1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: