- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gymraeg
Gwnaed
23 Mehefin 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 10) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Mesur” (“Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur i rym ar 6 Gorffennaf 2015 i’r graddau y maent yn rhychwantu’r Alban a Gogledd Iwerddon—
(a)adran 144(3)(a) (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a
(b)adran 145(2) (Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur i rym ar 7 Gorffennaf 2015—
(a)Rhan 2 (Comisiynydd y Gymraeg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)Rhan 4 (Safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c)Rhan 5 (Gorfodi safonau);
(d)Rhan 8 (Cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e)adran 144(1), (2) a (3)(a) o Ran 9 (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(f)Atodlen 2 (Ymholiadau gan y Comisiynydd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(g)Atodlen 3 (Diwygiadau ynglŷn â gweithio ar y cyd a gweithio’n gyfochrog); a
(h)Atodlen 10 (Ymchwiliad y Comisiynydd i fethiant i gydymffurfio â safonau etc).
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
23 Mehefin 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Mesur o 6 Gorffennaf 2015 i’r graddau y maent yn rhychwantu’r Alban a Gogledd Iwerddon—
(a)adran 144(3)(a) (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a
(b)adran 145(2) (Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Mesur o 7 Gorffennaf 2015—
(a)Rhan 2 (Comisiynydd y Gymraeg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)Rhan 4 (Safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c)Rhan 5 (Gorfodi safonau);
(d)Rhan 8 (Cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e)adran 144(1), (2) a (3)(a) o Ran 9 (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(f)Atodlen 2 (Ymholiadau gan y Comisiynydd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(g)Atodlen 3 (Diwygiadau ynglŷn â gweithio ar y cyd a gweithio’n gyfochrog); a
(h)Atodlen 10 (Ymchwiliad y Comisiynydd i fethiant i gydymffurfio â safonau etc).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
| Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
| adran 2(2) (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
| adran 2(3) (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
| adran 2 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 3 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 4 | 1 Mehefin 2012 | 2012/1423 (Cy. 176) |
| adrannau 5 a 6 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 176) |
| adran 7 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adrannau 8 i 10 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 11 | 1 Mehefin 2012 | 2012/1423 (Cy. 176) |
| adrannau 12 i 15 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 16(yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adrannau 17 i 19 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 22 (yn rhannol) | 17 Ebrill 2012 | 2012/1096 (Cy. 135) |
| adran 23(1) (yn rhannol) | 10 Ionawr 2012 | 2012/46 (Cy. 10) |
| adran 23(4) | 10 Ionawr 2012 | 2012/46 (Cy. 10) |
| adran 23 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 24 | 17 Ebrill 2012 | 2012/1096 (Cy. 135) |
| adrannau 26 i 43 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 44 | 17 Ebrill 2012 | 2012/1096 (Cy. 135) |
| adrannau 61 i 66 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adrannau 67 ac 68 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 108 | 25 Mawrth 2015 | 2015/985 (Cy. 66) |
| adran 70 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adrannau 111 i 119 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 120(1) | 30 Ebrill 2015 | 2015/1217 (Cy. 80) |
| adran 120(2) a (3) | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
| adran 120(4) (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 120(4) (yn llawn) | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
| adrannau 123 i 125 | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
| adran 126 | 30 Ebrill 2015 | 2015/1217 (Cy. 80) |
| adrannau 127 a 128 | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
| adrannau 129 a 130 | 30 Ebrill 2015 | 2015/1217 (Cy. 80) |
| adran 131 | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
| adran 132 | 30 Ebrill 2015 | 2015/1217 (Cy. 80) |
| adran 133 | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
| adrannau 134 i 137 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adrannau 138 a 139 (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
| adrannau 138 a 139 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 140 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 141 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adrannau 142 a 143 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 144 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 144 (yn rhannol) | 1 Mehefin 2012 | 2012/1423 (Cy. 176) |
| adran 146 (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
| adran 146 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adran 147 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| adrannau 148 a 149 | 5 Chwefror 2012 | 2012/223 (Cy. 37) |
| Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
| Atodlen 1 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| Atodlen 4, paragraffau 1, 5, 10 ac 11 | 10 Ionawr 2012 | 2012/46 (Cy. 10) |
| Atodlen 4 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| Atodlenni 5 i 9 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| Atodlen 11 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
| Atodlen 11 (yn llawn) | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
| Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 6 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
| Atodlen 12 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: