- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
23.—(1) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, gosodiad neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol.
(2) Yn achos stynio syml, ni chaiff neb stynio anifail onid oes modd lladd yr anifail heb oedi.
24.—(1) Ni chaiff neb ddefnyddio dyfais bollt gaeth dreiddiol i stynio anifail oni bai—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), y lleolir ac y defnyddir y ddyfais er mwyn sicrhau bod y bollt yn treiddio i mewn i gortecs yr ymennydd; a
(b)y defnyddir cetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.
(2) Ni chaiff neb saethu anifail buchol y tu ôl i’r pen.
(3) Ni chaiff neb saethu dafad neu afr y tu ôl i’r pen, oni fydd presenoldeb cyrn yn rhwystro defnyddio’r rhan uchaf neu ran flaen y pen, ac os felly caniateir ei saethu y tu ôl i’r pen, ar yr amod—
(a)y lleolir yr ergyd yn union y tu ôl i waelod y cyrn, gan anelu tuag at y geg; a
(b)y cychwynnir gwaedu o fewn 15 eiliad ar ôl saethu, neu y lleddir y ddafad neu’r afr drwy weithdrefn arall o fewn 15 eiliad ar ôl saethu.
(4) Rhaid i berson sy’n defnyddio dyfais bollt gaeth wirio bod y follt wedi dychwelyd i’w lle yr holl ffordd ar ôl pob ergyd ac os nad yw’r follt wedi dychwelyd felly, rhaid iddo sicrhau na ddefnyddir y ddyfais honno drachefn hyd nes bo’r ddyfais wedi ei hatgyweirio.
25. Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio bollt gaeth anhreiddiol ac eithrio gydag offeryn a leolir yn y man priodol ac a ddefnyddir gyda chetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.
26.—(1) Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio ergyd tarawol anfecanyddol i’r pen.
(2) Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i gwningod, ar yr amod y cyflawnir y gweithrediad mewn ffordd sy’n peri bod y gwningen yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.
27. Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail oni bai—
(a)y cymerir camau priodol i sicrhau cyswllt trydanol da; a
(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod yr anifail yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.
28. Ni chaiff neb ddefnyddio styniwr bath dŵr i stynio dofednod oni bai—
(a)bod lefel y dŵr yn y bath dŵr wedi ei addasu i sicrhau cyswllt da â phen pob un o’r adar;
(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod y dofednod yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes byddant farw;
(c)os stynir grwpiau o ddofednod mewn bath dŵr, y cynhelir foltedd sy’n ddigonol i gynhyrchu cerrynt digon cryf i sicrhau y stynir pob un o’r adar;
(d)y cymerir camau priodol i sicrhau bod y cerrynt yn llifo’n effeithlon, sef yn benodol, bod cysylltiadau trydanol da;
(e)bod y styniwr bath dŵr yn ddigonol, o ran ei faint a’i ddyfnder, ar gyfer y math o ddofednod a stynir; ac
(f)bod person ar gael a fydd yn canfod a yw’r styniwr bath dŵr wedi stynio’r dofednod yn effeithiol ai peidio, ac os na fu’n effeithiol, a fydd naill ai’n stynio neu’n lladd y dofednod yn ddi-oed.
29.—(1) Ni chaiff neb stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy oni roddir pob mochyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y lleddir y mochyn.
(2) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy sicrhau—
(a)bod y styniwr nwy, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo mochyn drwy’r cymysgedd nwyon, wedi ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal er mwyn—
(i)osgoi cywasgu brest y mochyn;
(ii)galluogi mochyn i barhau i sefyll hyd nes â’n anymwybodol; a
(iii)galluogi mochyn i weld moch eraill wrth iddo gael ei gludo yn y styniwr nwy;
(b)bod y styniwr nwy a’r mecanwaith cludo wedi eu goleuo’n ddigonol, er mwyn caniatáu i foch weld moch eraill neu eu hamgylchoedd;
(c)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);
(d)bod modd monitro’r moch sydd yn y styniwr nwy yn weledol;
(e)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(f)bod modd cyrraedd at unrhyw fochyn gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd; ac
(g)na chaniateir i unrhyw fochyn fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy.
(3) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad uniongyrchol â chymysgedd nwyon 1 (“carbon deuocsid mewn crynodiad uchel”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I sicrhau—
(a)nad oes yr un mochyn yn mynd i mewn i’r styniwr nwy os yw’r crynodiad a ddangosir o garbon deuocsid yn ôl cyfaint yn y cymysgedd nwyon yn gostwng islaw 80%; a
(b)unwaith yr â mochyn i mewn i’r styniwr nwy, y caiff ei gludo i’r pwynt yn y styniwr nwy sydd â’r crynodiad uchaf o’r cymysgedd nwyon o fewn 30 eiliad fan hwyaf.
30.—(1) Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy oni roddir pob aderyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y lleddir yr aderyn.
(2) Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad ag—
(a)cymysgedd nwyon 3 (“carbon deuocsid ynghyd â nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I, oni fydd y crynodiad o garbon deuocsid yn 30% yn ôl cyfaint neu’n is a’r crynodiad o ocsigen yn 2% yn ôl cyfaint neu’n is; neu
(b)cymysgedd nwyon 4 (“nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I oni fydd y crynodiad o ocsigen yn 2% yn ôl cyfaint neu’n is.
(3) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy sicrhau—
(a)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I a’r Atodlen hon);
(b)bod modd monitro’r dofednod sydd yn y styniwr nwy yn weledol;
(c)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(d)bod modd cyrraedd at unrhyw ddofednod gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(e)na chaniateir i unrhyw ddofednod fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy; ac
(f)na roddir unrhyw ddofednod mewn gefynnau cyn eu bod yn farw.
(4) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â chymysgedd nwyon 3 (“carbon deuocsid ynghyd â nwyon anadweithiol”) neu gymysgedd nwyon 4 (“nwyon adweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I, sicrhau, fel y bo’n briodol, na chaiff unrhyw aderyn fynd i mewn i’r styniwr nwy—
(a)os yw’r crynodiad o ocsigen a ddangosir yn uwch na 2% yn ôl cyfaint, ac eithrio y caiff y crynodiad o ocsigen godi yn achlysurol i grynodiad o ddim mwy na 5% yn ôl cyfaint am ddim mwy na 30 eiliad; neu
(b)os yw’r crynodiad o garbon deuocsid a ddangosir yn uwch na 30% yn ôl cyfaint.
31.—(1) Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu neu bithio anifail a styniwyd yn syml sicrhau y caiff yr anifail ei waedu neu’i bithio yn ddi-oed ar ôl ei stynio yn syml.
(2) Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu anifail a styniwyd yn syml sicrhau bod y gwaedu—
(a)yn gyflym, yn helaeth ac yn gyflawn; a
(b)wedi ei gwblhau cyn i’r anifail ddod yn ymwybodol drachefn.
(3) Heb leihau cyffredinolrwydd paragraff 3.2 o Atodiad III, pan fo anifail yn cael ei waedu ar ôl ei stynio yn syml, ni chaiff neb beri na chaniatáu cyflawni unrhyw weithdrefn ddresio ychwanegol ar yr anifail na rhoi unrhyw ysgogiad trydanol iddo cyn bo’r gwaedu wedi dod i ben, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—
(a)yn achos twrci neu ŵydd, cyfnod o ddim llai na 2 funud;
(b)yn achos unrhyw aderyn arall, cyfnod o ddim llai na 90 eiliad;
(c)yn achos anifeiliaid buchol, cyfnod o ddim llai na 30 eiliad; neu
(d)yn achos defaid, geifr, moch a cheirw, cyfnod o ddim llai nag 20 eiliad.
(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i anifail sydd wedi ei bithio.
32. Ni chaiff neb ladd ceffyl—
(a)ac eithrio mewn ystafell neu gilfach a ddarparwyd ar gyfer lladd ceffylau yn unol â pharagraff 9(a);
(b)mewn ystafell neu gilfach sy’n cynnwys gweddillion ceffyl neu anifail arall; neu
(c)yng ngolwg unrhyw geffyl arall.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: