- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Landlord A Thenant, Cymru
Gwnaed
2 Ebrill 2014
Yn dod i rym
4 Ebrill 2014
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Ebrill 2014.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru.
2. Yn yr Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 1997 (Ffurflenni a ragnodir at ddibenion Rhan I o Ddeddf Tai 1988)(3)—
(a)ym mharagraff 2 o destun Cymraeg y Canllawiau i Ffurflen 4D (hysbysiad landlord yn cynnig rhent newydd ar gyfer tenantiaeth gyfnodol sicr mangreoedd yng Nghymru)(4) hepgorer o “Dylech hefyd hysbysu” i “yn hawlio budd-dal” ac yn ei le rhodder—
“Mae’n ofynnol i chi hefyd hysbysu’r swyddfa Budd-daliadau Tai yn eich awdurdod lleol os ydych yn hawlio Budd-dal neu’r Adran Gwaith a Phensiynau os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol. Mae gwefan Gov.UK yn rhoi cyngor pellach: https://www.gov.uk”; a
(b)ym mharagraff 2 o destun Cymraeg y Canllawiau i Ffurflen 4E (hysbysiad landlord neu drwyddedwr yn cynnig rhent neu ffi’r drwydded newydd ar gyfer meddiannaeth amaethyddol sicr mangreoedd yng Nghymru)(5) hepgorer o “Dylech hefyd hysbysu” i “yn hawlio budd-dal” ac yn ei le rhodder—
“Mae’n ofynnol i chi hefyd hysbysu’r swyddfa Budd-daliadau Tai yn eich awdurdod lleol os ydych yn hawlio Budd-dal neu’r Adran Gwaith a Phensiynau os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol. Mae gwefan Gov.UK yn rhoi cyngor pellach: https://www.gov.uk”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio,
un o Weinidogion Cymru
2 Ebrill 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio ffurflenni Cymraeg penodol a ragnodir yn Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 1997(6), fel y’u diwygiwyd(7).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ganlyniad i Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5) ac yn mewnosod cyfeiriadau yn y ffurflenni hynny at gredyd cynhwysol.
1988 p. 50. I gael diffiniad o “prescribed”, gweler adran 45(1). Ar gyfer darpariaeth ynghylch meddianaethau amaethyddol, gweler adran 24.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 13, i’r graddau eu bod yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cendlaethol Cymru (Trosgwlyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddi. Mae’r swyddogaethau hyn bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Mewnosodwyd ffurflen 4D gan O.S. 2003/307 (Cy. 46)
Mewnosodwyd ffurflen 4E gan O.S. 2003/307 (Cy. 46).
Gweler O.S. 2003/307 (Cy. 46).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: