- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r gorchymyn cychwyn cyntaf i Weinidogion Cymru ei wneud o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae’n cychwyn darpariaethau penodol yn y Ddeddf at wahanol ddibenion ar 1 Rhagfyr 2014.
Mae erthygl 2(a) yn cychwyn, at bob diben, ddarpariaethau penodol yn Rhannau 4, 5, 6, 8 a 9 o’r Ddeddf, a Rhannau 3 a 5 o Atodlen 3 iddi.
Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru bennu safonau ar gyfer tai cymdeithasol. Mae hefyd yn cyflwyno Rhan 3 o Atodlen 3 sy’n cynnwys diwygiadau canlyniadol i Ran 4. Caiff y Rhan hon ei chychwyn yn llawn, ac eithrio adran 129 (cymhwyso dyletswyddau sy’n ymwneud â ffioedd gwasanaeth i denantiaethau awdurdod lleol).
Mae Rhan 5 o’r Ddeddf yn diddymu cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai; fodd bynnag, ni chychwynnir ond adran 131(4)(c) o Ran 5 yn awr. Mae hyn yn diddymu paragraff 2, Rhan 3 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42). (balans credyd pan nad yw cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai yn daladwy).
Mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn diwygio Deddf Tai 1988 (p. 50) (Tenantiaethau Sicr - tenantiaethau na allant fod yn denantiaethau sicr). Cychwynnir adran 137 yn llawn er mwyn caniatáu i gymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol roi tenantiaethau sicr.
Mae Rhan 8 o’r Ddeddf yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (Landlord a Thenant). Mae hefyd yn diddymu, mewn perthynas â Chymru, Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Diwygio) Cymru 2014. Mae’r diwygiadau yn caniatáu i hysbysiadau gael eu llofnodi ar ran tenantiaid.
Mae Rhan 9 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau amrywiol. Mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn y darpariaethau nad ydynt eisoes mewn grym. Mae adran 141 yn cyflwyno Rhan 5 o Atodlen 3 i’r Ddeddf. Mae hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dccc 6). Mae adran 144 yn cynnwys pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaethau canlyniadol a throsiannol etc.
Mae erthygl 2(b) yn cychwyn darpariaethau penodol yn Rhannau 1 a 2 o’r Ddeddf, ac Atodlen 2 iddi, ond at ddibenion gwneud gorchmynion a rheoliadau, a rhoi cyfarwyddiadau yn unig.
Mae erthygl 2(c) yn cychwyn darpariaethau penodol yn Rhannau 1, 2 a 3 o’r Ddeddf, ond at ddibenion rhoi, adolygu neu ddirymu canllawiau statudol a dyroddi, diwygio neu dynnu’n ôl god ymarfer yn unig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: