- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
18 Tachwedd 2014
Yn dod i rym
19 Tachwedd 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 9 ac 16 o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012(1).
Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 21(4) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
2.—(1) Mae Tabl 1 yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 19 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964, mewnosoder—
“Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg 1973 | Ymgymeriadau gwresogi | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol” |
(3) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mewnosoder—
“Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985 | Canolfannau hamdden | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol |
Adran 42 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985 | Adeileddau dros dro | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol” |
(4) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Tai 1985, mewnosoder—
“Adran 53 o Ddeddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986 | Yr afon uwchlaw | Cyngor sir (Abertawe) |
Adran 31 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987 | Harbwr Porthcawl | Cyngor bwrdeistref sirol (Pen-y-bont ar Ogwr) |
Adran 14 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 | Canolfannau hamdden | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol |
Adran 36 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 | Plismona a rheoli ffyrdd i gerddwyr | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref siro |
Adran 41 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 | Adeileddau dros dro | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol |
Adran 63 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 | Marchnad Abertawe | Cyngor sir (Abertawe) |
Adran 45 o Ddeddf Dyfed 1987 | Adeileddau dros dro | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol” |
(5) Yn y rhes sy’n dechrau “Adran 2 o’r Ddeddf hon”, ar ôl “Rheolaeth dda a llywodraeth” mewnosoder “a rhwystro ac atal niwsansau”.
3.—(1) Mae Tabl 2 yn Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mewnosoder—
“Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985 | Canolfannau hamdden | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol |
Adran 42 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985 | Adeileddau dros dro | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol” |
(3) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Tai 1985, mewnosoder—
“Adran 53 o Ddeddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986 | Yr afon uwchlaw | Cyngor sir (Abertawe) |
Adran 31 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987 | Harbwr Porthcawl | Cyngor bwrdeistref sirol (Pen-y-bont ar Ogwr) |
Adran 14 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 | Canolfannau hamdden | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol |
Adran 36 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 | Plismona a rheoli ffyrdd i gerddwyr | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol |
Adran 41 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 | Adeileddau dros dro | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol |
Adran 63 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 | Marchnad Abertawe | Cyngor sir (Abertawe) |
Adran 45 o Ddeddf Dyfed 1987 | Adeileddau dros dro | Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol” |
(4) Yn y rhes sy’n dechrau “Adran 2 o’r Ddeddf hon”, ar ôl “Rheolaeth dda a llywodraeth” mewnosoder “a rhwystro ac atal niwsansau”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (“y Ddeddf”), a gwnaed y Gorchymyn hwn o dan adrannau 9 ac 16 o’r Ddeddf.
Mae adran 9 o’r Ddeddf yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff wneud is-ddeddfau heb iddynt gael eu cadarnhau.
Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr o is-ddeddfau y caiff y mathau perthnasol o awdurdodau eu gwneud heb eu cadarnhau. Mae erthygl 2 yn diwygio Tabl 1 yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
Mae adran 16 o’r Ddeddf yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff gynnig hysbysiadau cosbau penodedig.
Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau y caiff is-ddeddfau oddi tanynt ddarparu ar gyfer hysbysiadau cosbau penodedig. Mae erthygl 3 yn diwygio Tabl 2 yn Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Democratiaeth, Moeseg a Phartneriaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: