- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 7
1. Cig amrwd nad ychwanegwyd cynhwysyn ato ac eithrio ensymau proteolytig.
2. Cyw iâr wedi ei rewi ac wedi ei rewi’n gyflym y mae Erthygl 15 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 yn nodi rheolau manwl ynglŷn â chymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata cig dofednod(1) yn gymwys iddo ac nad yw ei gynhwysiad dŵr yn fwy na’r gwerthoedd sy’n dechnegol anochel a bennir yn unol â’r hyn y darperir ar ei gyfer yn yr Erthygl honno.
3. Toriadau cig dofednod ffres, wedi eu rhewi ac wedi eu rhewi’n gyflym y mae Erthygl 20 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 yn gymwys iddynt ac nad yw eu cynhwysiad dŵr yn fwy na’r gwerthoedd sy’n dechnegol anochel a bennir yn unol â’r hyn y darperir ar ei gyfer yn yr Erthygl honno.
4. Brechdanau, rholion wedi eu llenwi a chynhyrchion wedi eu llenwi sy’n debyg o ran eu natur i frechdanau a rholion wedi eu llenwi, sy’n barod i’w bwyta heb ragor o brosesu, ac eithrio cynhyrchion sy’n cynnwys cig a werthir o dan yr enw “byrgyr”, “byrgyr rhad” neu “hambyrgyr” (p’un a oleddfir hwy gan eiriau eraill neu beidio).
5. Pitsas a chynhyrchion tebyg sydd â thopin.
6. Unrhyw fwyd o’r enw “potes”, “grefi” neu “cawl”, p’un a oleddfir hwy gan eiriau eraill neu beidio.
7. Bwyd sy’n gydosodiad o ddau neu ragor o gynhwysion na fu’n destun unrhyw broses neu driniaeth ar ôl cael ei gydosod, ac a werthir i’r defnyddiwr terfynol ar ffurf cyfran unigol y bwriedir iddi gael ei bwyta heb ragor o drin neu brosesu.
OJ Rhif L 157, 17.6.2008, t 46, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t 671).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: