- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
25.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i’r offeryn llywodraethu ar gyfer ffederasiwn bennu maint aelodaeth ar gyfer corff llywodraethu’r ffederasiwn, na chaiff fod yn llai na 15 llywodraethwr nac yn fwy na 27.
(2) Wrth benderfynu maint aelodaeth corff llywodraethu ffederasiwn, rhaid peidio â chynnwys y llywodraethwyr a ganlyn—
(a)unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt a benodir yn unol â rheoliadau 26 i 30;
(b)unrhyw lywodraethwyr ychwanegol a benodir yn rhinwedd adran 6 o Ddeddf 2013 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol); ac
(c)unrhyw lywodraethwyr ychwanegol a benodir yn rhinwedd adran 13 o Ddeddf 2013 (pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol).
(3) Wrth benderfynu maint aelodaeth corff llywodraethu ffederasiwn rhaid cynnwys unrhyw lywodraethwyr cymunedol ychwanegol a benodir yn unol â rheoliad 31.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliadau 26 i 30, rhaid i’r offeryn llywodraethu bennu’r niferoedd o lywodraethwyr sydd i’w hethol neu eu penodi o bob un o’r categorïau o lywodraethwyr canlynol—
(a)rhiant-lywodraethwyr;
(b)athro-lywodraethwyr;
(c)staff-lywodraethwyr;
(d)llywodraethwyr awdurdod lleol;
(e)llywodraethwyr cymunedol;
(f)llywodraethwyr sefydledig;
(g)llywodraethwyr partneriaeth;
(h)noddwr-lywodraethwyr;
(i)llywodraethwyr cynrychiadol; a
(j)llywodraethwyr cymunedol ychwanegol.
(5) Pan fo cymhwyso’r rheoliad hwn a rheoliadau 26 i 30 yn cynhyrchu rhif nad yw’n gyfanrif, rhaid i’r corff llywodraethu bennu naill ai’r cyfanrif nesaf uwchlaw neu’r cyfanrif nesaf islaw (yn ôl dewis y corff llywodraethu) ar yr amod na chaiff cyfanswm nifer y llywodraethwyr fod yn uwch na’r terfyn a bennir yn y rheoliad hwn.
26.—(1) Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys unrhyw gyfuniad o ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir(1) (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol) i gynnwys y canlynol—
(a)o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;
(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;
(c)o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;
(d)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol;
(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (f), o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol; ac
(f)un llywodraethwr cynrychiadol pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol, i gymryd lle un llywodraethwr cymunedol sy’n ofynnol o dan is-baragraff (e).
(2) Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn gynnwys—
(a)pennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu
(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.
(3) Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn—
(a)penodi un noddwr-lywodraethwr; a
(b)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.
27.—(1) Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys ysgolion sefydledig(2) yn unig i gynnwys y canlynol—
(a)o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;
(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;
(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;
(d)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol;
(e)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol; ac
(f)o leiaf ddau ond dim mwy na phum llywodraethwr sefydledig (neu lywodraethwr partneriaeth, fel y bo’n briodol mewn cysylltiad ag unrhyw ysgol heb sefydliad).
(2) Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn gynnwys—
(a)pennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu
(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.
(3) Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn—
(a)penodi un noddwr-lywodraethwr; a
(b)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.
28.—(1) Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys ysgolion gwirfoddol a reolir(3) yn unig i gynnwys y canlynol—
(a)o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;
(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;
(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;
(d)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol;
(e)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol; ac
(f)o leiaf ddau ond dim mwy na phum llywodraethwr sefydledig.
(2) Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn gynnwys—
(a)pennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu
(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.
(3) Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn—
(a)penodi un noddwr-lywodraethwr; a
(b)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.
29.—(1) Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir(4) yn unig i gynnwys y canlynol—
(a)o leiaf un rhiant-lywodraethwr a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2;
(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;
(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;
(d)o leiaf un ond dim mwy na dau lywodraethwr awdurdod lleol; ac
(e)y nifer o lywodraethwyr sefydledig a fydd yn eu gwneud yn fwy niferus na’r holl lywodraethwyr eraill a grybwyllwyd yn is-baragraffau (a) i (d), paragraff (2) a rheoliad 31 o ddim mwy nag un.
(2) Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn gynnwys—
(a)y pennaeth oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu
(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.
(3) Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn benodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.
30.—(1) Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys unrhyw gyfuniad o ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol) i gynnwys y canlynol—
(a)o leiaf un rhiant-lywodraethwr a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2;
(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;
(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;
(d)o leiaf un ond dim mwy na dau lywodraethwr awdurdod lleol;
(e)o leiaf un ond dim mwy na dau lywodraethwr cymunedol; ac
(f)y nifer o lywodraethwyr sefydledig a fydd yn eu gwneud yn fwy niferus na’r holl lywodraethwyr eraill a grybwyllwyd yn is-baragraffau (a) i (e), paragraff (2) a rheoliad 31 o ddim mwy nag un.
(2) Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn gynnwys—
(a)pennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu
(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.
(3) Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn benodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.
31.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gorff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys un neu ragor o’r canlynol—
(a)unrhyw ysgol gymunedol, wirfoddol neu sefydledig sy’n ysgol gynradd; a
(b)unrhyw ysgol feithrin a gynhelir;
(c)sy’n gwasanaethu ardal sydd ag un neu ragor o gynghorau cymuned.
(2) Rhaid i’r offeryn llywodraethu ar gyfer ysgol ddarparu bod corff llywodraethu ffederasiwn i gynnwys (yn ychwanegol at y llywodraethwyr sy’n ofynnol yn rhinwedd rheoliadau 26 i 30 yn ôl y digwydd) un llywodraethwr cymunedol ychwanegol a enwebir gan y cyngor cymuned.
(3) Os yw ysgol yn gwasanaethu ardal sydd â dau neu ragor o gynghorau cymuned, caiff y corff llywodraethu geisio enwebiadau gan un neu ragor o’r cynghorau hynny ar gyfer yr un llywodraethwr cymunedol ychwanegol y cyfeirir ato ym mharagraff (2).
32.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo swydd aelod a benodwyd i’r corff llywodraethu yn mynd yn wag, rhaid i glerc y corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad ysgrifenedig o’r ffaith honno i’r person sydd â’r hawl i benodi neu enwebu person i’r swydd honno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i glerc y corff llywodraethu, ddau fis o leiaf cyn y dyddiad y daw cyfnod swydd aelod a benodwyd i ben, roi hysbysiad ysgrifenedig o’r ffaith honno i’r person sydd â’r hawl i benodi neu enwebu person i’r swydd honno.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys os yw’r person sydd â’r hawl i benodi person i’r swydd dan sylw eisoes wedi hysbysu clerc y corff llywodraethu mewn ysgrifen ynghylch y person a benodir neu a enwebir.
(4) Pan fo unrhyw berson ac eithrio corff llywodraethu yn gwneud penodiad neu’n enwebu person i’w benodi i’r corff llywodraethu, rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o’r penodiad neu’r enwebiad i glerc y corff llywodraethu, gan nodi enw a phreswylfa arferol y person a benodir neu a enwebir felly.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “aelod a benodwyd” (“appointed member”) yw—
(a)llywodraethwr sefydledig;
(b)llywodraethwr awdurdod lleol;
(c)llywodraethwr cymunedol (gan gynnwys llywodraethwr cymunedol ychwanegol);
(d)llywodraethwr cynrychiadol;
(e)noddwr-lywodraethwr; ac
(f)llywodraethwr partneriaeth.
33. Os yw—
(a)offeryn llywodraethu ysgol yn darparu bod un neu ragor o’r llywodraethwyr i’w penodi gan bersonau sy’n gweithredu ar y cyd; a
(b)y personau hynny yn methu â chytuno ar benodiad;
rhaid i’r penodiad gael ei wneud gan Weinidogion Cymru neu’n unol â chyfarwyddyd a roddir ganddynt.
34.—(1) Pan fo gan ffederasiwn ragor o lywodraethwyr mewn categori penodol nag y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol, rhaid i ba bynnag nifer o lywodraethwyr yn y categori hwnnw sy’n ofynnol er mwyn dileu’r gormodedd beidio â dal swydd, yn unol â pharagraffau (2) a (3), oni fydd nifer digonol yn ymddiswyddo.
(2) Penderfynir pa lywodraethwyr sydd i beidio â dal swydd ar sail hyd eu gwasanaeth, a’r llywodraethwyr sydd â’r cyfnodau mewn swydd cyfredol byrraf fel llywodraethwyr mewn unrhyw gategori yn yr ysgol fydd y cyntaf i beidio â dal swydd.
(3) Pan fo angen, at ddibenion paragraff (2), dewis un neu ragor o lywodraethwyr allan o grŵp sy’n gyfartal o ran hyd gwasanaeth, rhaid gwneud hynny drwy fwrw coelbren.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, trinnir llywodraethwyr cymunedol ychwanegol fel pe baent yn gategori o lywodraethwyr ar wahân.
O fewn yr ystyr yn adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, ac adran 39(1) o Ddeddf 2002.
O fewn yr ystyr yn adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
O fewn yr ystyr yn adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
O fewn ystyr adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: