- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
24.—(1) Pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn rhoi hysbysiad o benderfyniad neu ddyfarniad ar gais am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, a chaniatâd neu gymeradwyaeth naill ai'n cael ei roi neu'i rhoi yn ddarostyngedig i amodau, neu'r cais yn cael ei wrthod, rhaid i'r hysbysiad—
(a)datgan yn eglur a manwl y rhesymau llawn am y gwrthodiad neu am unrhyw amod a osodir, gan bennu'r holl bolisïau a chynigion yn y cynllun datblygu sy'n berthnasol i'r penderfyniad; a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sy'n cyfyngu ar roi caniatâd ar gyfer y datblygiad y gwneir cais amdano, neu pan fo Gweinidogion Cymru neu Adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynegi'r farn na ddylid rhoi'r caniatâd (naill ai'n gyfangwbl neu'n rhannol) neu y dylid ei roi yn ddarostyngedig i amodau, rhoi manylion o'r cyfarwyddyd a roddwyd neu'r farn a fynegwyd; ac
(c)cael ei gyflwyno ynghyd â hysbysiad yn y termau a bennir yn Atodlen 5 (neu mewn termau o'r un sylwedd).
(2) Os yw—
(a)y ceisydd am ganiatâd cynllunio wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol; a
(b)yr awdurdod cynllunio lleol (ar ôl cymryd gwybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth) wedi penderfynu rhoi caniatâd (pa un ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i amodau),
rhaid i'r hysbysiad a roddir i'r ceisydd yn unol ag erthygl 22(1) gynnwys datganiad bod gwybodaeth amgylcheddol wedi ei chymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: