- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(1) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 41 o Ddeddf 2004 yn erbyn penderfyniad ATLl i gymryd camau gweithredu adferol brys).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo); a
(b)y datganiad o resymau.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
10.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(2) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gorchymyn gwahardd brys).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r hysbysiad o orchymyn gwahardd brys a wnaed o dan adran 43 o Ddeddf 2004 (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo); a
(b)y datganiad o resymau.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
11.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—
(a)paragraff 14 o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn i adennill treuliau a llog oddi wrth berson sy'n elwa o weithredu heb gytundeb); a
(b)y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gydag addasiadau gan adran 42 o Ddeddf 2004 (adennill treuliau am weithredu adferol brys)).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r hysbysiad gwella neu, yn ôl fel y digwydd, yr hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau;
(c)copi o'r galwad am dreuliau a gyflwynwyd o dan baragraff 9 o'r Atodlen honno;
(ch)copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 12 o'r Atodlen honno; a
(d)prawf bod yr hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r person dan sylw fel y crybwyllir ym mharagraff 14(2) o'r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person y mae'r ATLl yn ceisio adennill treuliau a llog oddi wrtho.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: