- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Pan fo tribiwnlys—
(a)yn arfer unrhyw bŵer o dan y Rheoliadau hyn; neu
(b)yn dehongli unrhyw reoliad,
rhaid i'r tribiwnlys geisio rhoi effaith i'r prif amcan o ymdrin yn deg a chyfiawn â'r ceisiadau sydd i'w penderfynu ganddo.
(2) Mae ymdrin yn deg a chyfiawn â chais yn cynnwys—
(a)ymdrin â'r cais mewn ffyrdd sy'n gymesur â chymhlethdod y materion sy'n codi ynddo ac ag adnoddau'r partïon;
(b)sicrhau, hyd y bo'n ymarferol, fod y partïon ar yr un gwastad â'i gilydd o safbwynt y weithdrefn ac y gallant gymryd rhan gyflawn yn yr achos;
(c)cynorthwyo unrhyw barti gyda chyflwyno achos y parti hwnnw heb argymell pa lwybr y dylai'r parti hwnnw ei ddilyn;
(ch)defnyddio arbenigedd neilltuol y tribiwnlys yn effeithiol; a
(d)osgoi oedi, i'r graddau y mae hynny'n gydnaws â rhoi ystyriaeth briodol i'r materion dan sylw.
(3) Rhaid i'r partïon—
(a)cynorthwyo'r tribiwnlys i hyrwyddo'r prif amcan; a
(b)cydweithredu â'r tribiwnlys yn gyffredinol.
4.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person yn gofyn i dribiwnlys am ganiatâd i wneud cais ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn Neddf 2004 neu Ddeddf 1983 fel y cyfnod mae'n rhaid gwneud y cais oddi mewn iddo.
(2) Yn achos cais am estyniad y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid—
(a)gwneud y cais am estyniad mewn ysgrifen;
(b)rhoi'r rhesymau pam na wnaed y cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw ac esbonio unrhyw oedi pellach a ddigwyddodd ers hynny;
(c)cynnwys datganiad bod y person sy'n gwneud y cais am estyniad yn credu bod yr holl ffeithiau a fynegir yn y cais am estyniad yn wir; ac
(ch)dyddio a llofnodi'r cais am estyniad.
(3) Pan wneir cais am estyniad fel y crybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i'r ceisydd ar yr un pryd anfon at y tribiwnlys y cais cyflawn y gofynnir am yr estyniad mewn perthynas ag ef.
(4) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel(1) ganiatáu neu wrthod cais am estyniad a wneir o dan baragraff (1).
5.—(1) Pan fo cais i dribiwnlys ar gyfer penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983 yn ymwneud â mwy nag un llain neu gartref symudol, ni chaiff y cais gyfeirio at fwy nag un ddarpariaeth o Ddeddf 1983.
(2) Ni chaiff cais, a wneir i dribiwnlys ar gyfer penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983, ymwneud â mwy nag 20 o leiniau neu gartrefi symudol.
6.—(1) Rhaid i gais fod mewn ysgrifen, a rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol—
(a)enw a chyfeiriad y ceisydd;
(b)enw a chyfeiriad yr ymatebydd, os yw'r manylion hynny'n hysbys i'r ceisydd, neu, os nad ydynt yn hysbys, disgrifiad o gysylltiad yr ymatebydd â'r fangre;
(c)cyfeiriad y fangre;
(ch)cysylltiad y ceisydd â'r fangre;
(d)rhesymau'r ceisydd dros wneud y cais, gan gynnwys pa rwymedi a geisir;
(dd)os ydynt yn hysbys i'r ceisydd, enw a chyfeiriad unrhyw berson â buddiant;
(e)datganiad bod y ceisydd yn credu bod y ffeithiau a fynegir yn y cais yn wir;
(f)llofnod y ceisydd a'r dyddiad; ac
(ff)mewn perthynas â phob cais y mae paragraff yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo, y dogfennau a bennir yn is-baragraff (2) o'r paragraff hwnnw.
(2) Ceir hepgor unrhyw rai o'r gofynion ym mharagraff (1) neu eu lliniaru os bodlonir y tribiwnlys—
(a)bod y manylion a'r dogfennau a gynhwysir gyda chais yn ddigonol i ddangos bod y cais yn un y caniateir ei wneud i dribiwnlys; a
(b)na fyddid yn rhagfarnu, neu nad yw'n debygol y byddid yn rhagfarnu, unrhyw barti i'r cais o ganlyniad i hepgor neu liniaru felly.
(3) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).
7.—(1) Pan fo llys yn trosglwyddo i dribiwnlys unrhyw fater sy'n codi o gais a wnaed i'r llys o dan Ddeddf 1983, rhaid i'r ceisydd, yn ychwanegol at gydymffurfio â'r gofynion a gynhwysir yn rheoliad 6(1), gynnwys yn y cais gopi o'r gorchymyn llys a drosglwyddodd y mater.
(2) Caiff y tribiwnlys hepgor neu liniaru unrhyw rai o'r gofynion a gynhwysir ym mharagraff (1) os bodlonir y tribiwnlys ei fod wedi cael manylion a dogfennau digonol gan y llys i ddangos bod y cais yn un y caniateir ei wneud i dribiwnlys.
(3) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).
8.—(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael y cais, rhaid i'r tribiwnlys—
(a)anfon at y ceisydd i gydnabod bod y cais wedi dod i law; a
(b)anfon copi o'r cais ac o bob dogfen a gyflwynwyd gyda'r cais at yr ymatebydd.
(2) Ac eithrio mewn achos y mae rheoliad 10 neu 11 yn gymwys iddo, rhaid i'r tribiwnlys anfon hefyd hysbysiad at yr ymatebydd sydd—
(a)yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i'r ymatebydd anfon yr ateb a grybwyllir yn rheoliad 9;
(b)yn pennu bod rhaid i unrhyw ymateb gynnwys—
(i)datganiad pa un a yw'r ymatebydd yn bwriadu gwrthwynebu'r cais ai peidio;
(ii)os na chynhwyswyd hwy eisoes yn y cais, enwau a chyfeiriadau pob person â buddiant sy'n hysbys i'r ymatebydd; a
(iii)y cyfeiriad lle dylid anfon dogfennau at ddibenion yr achos; ac
(c)yn rhybuddio'r ymatebydd, os na fydd yr ymatebydd yn ateb erbyn y dyddiad penodedig, a chyda'r wybodaeth benodedig, y caiff y tribiwnlys—
(i)rhagdybio nad yw'r ymatebydd yn bwriadu gwrthwynebu'r cais; a
(ii)mynd ymlaen â'r mater mewn unrhyw ffordd a ystyrir yn rhesymol gan y tribiwnlys o dan amgylchiadau'r achos.
(3) Ni chaiff y dyddiad penodedig yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) fod yn llai na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y gwnaed yr hysbysiad.
9.—(1) Pan fo ymatebydd yn cael yr hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 8(2), rhaid i'r ymatebydd, erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, anfon ateb ysgrifenedig at y tribiwnlys, yn cydnabod iddo gael y copïau o'r dogfennau a anfonwyd yn unol â rheoliad 8(1)(b) ac yn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan reoliad 8(2).
(2) Os yw'r ymatebydd yn peidio ag ateb erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 8(2) neu'n peidio â darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan y paragraff hwnnw, caiff y tribiwnlys fynd ymlaen â'r mater mewn unrhyw ffordd a ystyrir yn rhesymol gan y tribiwnlys o dan amgylchiadau'r achos.
10.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r ATLl yn gofyn i dribiwnlys ymdrin â chais am awdurdodiad GRhI fel mater brys.
(2) Os yw'n ymddangos i'r tribiwnlys, ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais, fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) yn bodoli, rhaid i'r tribiwnlys orchymyn cynnal gwrandawiad llafar (“gwrandawiad llafar brys”).
(3) Yr amgylchiadau eithriadol yw'r canlynol—
(a)bod bygythiad di-oed i iechyd a diogelwch meddianwyr y tŷ neu i bersonau sy'n meddiannu, neu sydd ag ystad neu fuddiant mewn, unrhyw fangre yng nghyffiniau'r tŷ; a
(b)byddai gwneud y gorchymyn rheoli interim cyn gynted ag y bo modd (ynghyd, pan fo'n gymwys, â pha bynnag fesurau eraill y bwriada'r ATLl eu cymryd) yn galluogi'r ATLl i gymryd camau priodol yn ddi-oed i atal y bygythiad neu leihau'r bygythiad yn sylweddol.
(4) Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r partïon, a phob person â buddiant y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r tribiwnlys, o'r canlynol—
(a)yr ymdrinnir â'r cais fel mater brys o dan y rheoliad hwn;
(b)y rhesymau pam y mae'n ymddangos i'r tribiwnlys fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli;
(c)unrhyw ofyniad sydd i'w fodloni gan barti cyn y gwrandawiad; ac
(ch)y dyddiad pan gynhelir y gwrandawiad llafar brys.
(5) Ni chaiff dyddiad y gwrandawiad fod yn llai na 4 diwrnod, nac yn fwy na 10 diwrnod, ar ôl y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o'r gwrandawiad llafar brys.
(6) Yn y gwrandawiad llafar brys, rhaid i'r tribiwnlys—
(a)os bodlonir y tribiwnlys, ar ôl clywed tystiolaeth, fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli, penderfynu'r cais; neu
(b)os na fodlonir y tribiwnlys felly—
(i)gohirio'r gwrandawiad; a
(ii)rhoi pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.
(7) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel—
(a)arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2); a
(b)penderfynu dyddiad y gwrandawiad llafar brys.
(8) Pan fo'r tribiwnlys yn gorchymyn cynnal gwrandawiad llafar brys o dan baragraff (2), nid yw'r darpariaethau hysbysu a gynhwysir yn y rheoliadau canlynol yn gymwys i'r cais—
(a)rheoliad 24(5) (hysbysu ynghylch archwiliad); a
(b)rheoliad 28(2) a (4) (hysbysu ynghylch gwrandawiad).
11.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisydd yn gofyn i dribiwnlys, fel mater brys—
(a)ymdrin â chais o dan baragraff 8(1E) (gwerthu cartref symudol) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) (gwerthu neu roi cartref symudol) o'r Bennod honno; neu
(b)penderfynu, o dan adran 4(2) (awdurdodaeth tribiwnlys) o Ddeddf 1983, y cwestiwn pa un a oedd yn rhesymol i'r perchennog wrthod cymeradwyo person at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.
(2) Os bodlonir tribiwnlys, ar sail tystiolaeth a anfonwyd ynghyd â'r cais, fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) yn bodoli, rhaid i'r tribiwnlys orchymyn cynnal gwrandawiad llafar (“gwrandawiad llafar brys”).
(3) Yr amgylchiadau eithriadol yw'r canlynol—
(a)naill ai—
(i)nad yw perchennog y safle wedi ymateb i'r hysbysiad a gyflwynwyd i berchennog y safle ar gyfer cymeradwyo person o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) o'r Bennod honno; neu
(ii)nad yw perchennog y safle wedi rhoi ei gymeradwyaeth at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 ac mae'r ceisydd o'r farn bod gwrthodiad perchennog y safle yn afresymol;
(b)bod y person y gofynnodd y ceisydd i berchennog y safle ei gymeradwyo o dan baragraff 8 neu 9 yn barod, yn fodlon ac yn abl i fod yn feddiannydd y cartref symudol;
(c)bodlonwyd y tribiwnlys y cwblheir pryniant y cartref symudol, neu y caiff ei roi a'i aseinio i'r person hwnnw gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd, os rhoddir cymeradwyaeth o dan baragraff 8 neu 9; ac
(ch)bod y ceisydd wedi darparu tystiolaeth i'r tribiwnlys, sy'n dynodi—
(i)bod perchennog y safle, yn flaenorol, wedi gwrthod yn afresymol rhoi cymeradwyaeth o dan baragraff 8 neu 9 mewn perthynas â chartref symudol ar safle a ddiogelir a oedd yn eiddo i'r perchennog safle hwnnw; neu
(ii)bod person, yn flaenorol, wedi peidio â mynd ymlaen â phrynu neu roi cartref symudol ar y safle a ddiogelir y lleolir y cartref symudol arno, a hynny o ganlyniad i weithredoedd neu eiriau perchennog y safle.
(4) Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r partïon, a phob person â buddiant y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r tribiwnlys, o'r canlynol—
(a)yr ymdrinnir â'r cais fel mater brys o dan y rheoliad hwn;
(b)y rhesymau pam y mae'n ymddangos i'r tribiwnlys fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli;
(c)unrhyw ofyniad sydd i'w fodloni gan barti cyn y gwrandawiad; ac
(ch)y dyddiad pan gynhelir y gwrandawiad llafar brys.
(5) Rhaid pennu dyddiad y gwrandawiad llafar brys cyntaf ddim llai na 4 diwrnod, a dim mwy na 10 diwrnod, ar ôl y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o'r gwrandawiad llafar brys.
(6) Yn y gwrandawiad llafar brys, rhaid i'r tribiwnlys—
(a)os bodlonir y tribiwnlys, ar ôl clywed tystiolaeth, fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli, penderfynu'r cais; neu
(b)os na fodlonir y tribiwnlys felly—
(i)gohirio'r gwrandawiad; a
(ii)rhoi pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.
(7) Os gohirir gwrandawiad llafar brys a bennwyd o dan baragraff (5), ni chaiff y dyddiad nesaf a bennir ar gyfer unrhyw wrandawiad dilynol fod yn ddiweddarach na 7 diwrnod ar ôl dyddiad y gohiriad blaenorol.
(8) Pan fo'r tribiwnlys yn gorchymyn cynnal gwrandawiad llafar brys, nid yw'r darpariaethau hysbysu a gynhwysir yn y rheoliadau canlynol yn gymwys i'r cais—
(a)rheoliad 24(5) (hysbysu ynghylch archwiliad); a
(b)rheoliad 28(2) a (4) (hysbysu ynghylch gwrandawiad).
(9) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel—
(a)arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2); a
(b)penderfynu dyddiad y gwrandawiad llafar brys.
12.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan wneir cais gan berchennog safle am benderfyniad gan dribiwnlys o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 fod cartref symudol, o ystyried ei gyflwr, yn cael effaith niweidiol ar amwynder y safle.
(2) Os yw'r tribiwnlys, yn ystod gwrandawiad, o'r farn bod y cartref symudol yn cael effaith niweidiol ar amwynder y safle ond y byddai'r cartref symudol yn peidio â chael effaith niweidiol o'r fath pe gwneid atgyweiriadau penodol i'r cartref symudol, rhaid i'r tribiwnlys—
(a)rhoi gwybod i berchennog y safle a'r meddiannydd pa atgyweiriadau, ym marn y tribiwnlys, y dylid eu gwneud;
(b)gwahodd meddiannydd y cartref symudol a pherchennog y safle i ddynodi, mewn perthynas â'r atgyweiriadau hynny—
(i)yr amser y byddai ei angen i'w cyflawni; a
(ii)y gost o'u cyflawni; ac
(c)gwahodd meddiannydd y cartref symudol i ddynodi a fyddai'n fodlon cyflawni'r atgyweiriadau hynny ai peidio.
(3) Rhaid i'r tribiwnlys, gan ystyried unrhyw ddynodiadau a roddir o dan baragraff (2)(b) ac (c), naill ai—
(a)gwneud penderfyniad o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983; neu
(b)os yw paragraff 5A(4) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno yn gymwys, gwneud gorchymyn interim sy'n gwneud yn ofynnol bod meddiannydd y cartref symudol yn cyflawni atgyweiriadau o'r fath o fewn y cyfryw amser a ystyrir yn rhesymol gan y tribiwnlys.
(4) Pan fo'r tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim o dan baragraff (3)(b), rhaid iddo ohirio'r gwrandawiad a phennu dyddiad ar gyfer gwrandawiad newydd, na chaiff fod yn ddiweddarach na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad a bennir yn y gorchymyn fel y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cwblhau'r atgyweiriadau.
(5) Wrth bennu dyddiad newydd ar gyfer gwrandawiad o dan baragraff (4), rhaid i'r tribiwnlys—
(a)rhoi i'r partïon ddim llai na 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad; a
(b)gwahodd perchennog y safle a'r meddiannydd i ddynodi, ddim hwyrach na 4 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad newydd, pa un a yw'r atgyweiriadau a ddisgrifir yn y gorchymyn (yn eu barn hwy) wedi eu cwblhau ai peidio.
(6) Yn y gwrandawiad newydd—
(a)os yw'r tribiwnlys wedi ei hysbysu, gan feddiannydd y cartref symudol a hefyd gan berchennog y safle, fod yr atgyweiriadau a orchmynnwyd o dan baragraff (3)(b) wedi eu cwblhau, rhaid i'r tribiwnlys wrthod y cais;
(b)os nad yw'r tribiwnlys wedi ei hysbysu felly, rhaid iddo wahodd unrhyw barti sy'n bresennol i wneud sylwadau pellach ynghylch maint yr atgyweiriadau sy'n aros heb eu cwblhau a'r amser y byddai ei angen i'w cyflawni; ac
(c)ar ôl ystyried unrhyw sylwadau o'r fath, rhaid i'r tribiwnlys naill ai gwneud gorchymyn interim pellach o dan baragraff (3)(b) o'r rheoliad hwn neu wneud penderfyniad o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen i Ddeddf 1983.
13.—(1) Caiff person (“y parti posibl”) wneud cais i'r tribiwnlys am gael ymuno fel parti i'r achos.
(2) Yn achos unrhyw gais am gael ymuno o dan baragraff (1)—
(a)caniateir ei wneud heb roi rhybudd;
(b)rhaid iddo fod mewn ysgrifen;
(c)rhaid iddo gynnwys rhesymau dros wneud y cais am gael ymuno; ac
(ch)rhaid iddo bennu pa un a yw'r parti posibl yn dymuno cael ei drin—
(i)fel ceisydd; neu
(ii)fel ymatebydd.
(3) Caiff tribiwnlys wrthod cais am gael ymuno o dan baragraff (1) os na fodlonir y tribiwnlys fod y parti posibl yn berson â buddiant neu'n berson sydd â buddiant digonol yng nghanlyniad yr achos.
(4) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyrraedd ei benderfyniad naill ai i ganiatáu neu wrthod cais am gael ymuno o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys—
(a)hysbysu'r parti posibl ynghylch y penderfyniad a'r rhesymau drosto; a
(b)anfon copi o'r hysbysiad at y partïon a oedd eisoes wedi eu cynnwys yn yr achos.
(5) Rhaid trin unrhyw barti posibl, y caniateir ei gais am gael ymuno o dan baragraff (1), fel ceisydd neu ymatebydd at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(6) Yn y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at geisydd neu ymatebydd fel pe bai'n cynnwys person a drinnir fel y cyfryw o dan y rheoliad hwn, a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at barti fel pe bai'n cynnwys unrhyw berson o'r fath.
(7) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel ganiatáu neu wrthod cais am gael ymuno o dan baragraff (1).
14.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisiadau, sydd wedi eu gwneud ar wahân, ym marn y tribiwnlys—
(a)yn achos ceisiadau a wnaed o dan Ddeddf 2004—
(i)yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â'r un fangre; neu
(ii)wedi eu gwneud mewn perthynas â dwy neu ragor o fangreoedd sydd â'r un person yn eu rheoli, a'r un ATLl naill ai'n geisydd neu'n ymatebydd mewn perthynas â phob un o'r mangreoedd;
(b)yn achos ceisiadau a wnaed o dan Ddeddf 1983—
(i)yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â'r un safle a ddiogelir; neu
(ii)wedi eu gwneud mewn perthynas â dau neu ragor o safleoedd a ddiogelir sydd â'r un perchennog safle.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, caiff y tribiwnlys orchymyn bod—
(a)rhai neu bob un o'r ceisiadau hynny; neu
(b)materion penodol neu ystyriaethau sy'n codi yn y ceisiadau hynny,
i gael eu penderfynu ar y cyd.
(3) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).
15. Os na fydd ffi'n sy'n daladwy o dan Ran 3 o'r Rheoliadau hyn wedi ei thalu o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafwyd y cais, rhaid trin y cais fel pe bai wedi ei dynnu'n ôl oni fodlonir y tribiwnlys fod sail resymol dros beidio â gwneud hynny.
16.—(1) Mae'r rheoliad hwn—
(a)yn gymwys pan fo parti, person â buddiant, neu gynrychiolydd parti neu berson â buddiant, yn gwneud cais ysgrifenedig i'r tribiwnlys am gyflenwi gwybodaeth neu ddogfennau i gynrychiolydd y parti neu'r person â buddiant, ond
(b)mae'n peidio â bod yn gymwys pan fo'r tribiwnlys yn cael hysbysiad ysgrifenedig bod y cynrychiolydd wedi peidio â chynrychioli'r parti neu'r person â buddiant hwnnw.
(2) Rhaid i gais am gyflenwi gwybodaeth neu ddogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) gynnwys enw a chyfeiriad y cynrychiolydd.
(3) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, bodlonir unrhyw ddyletswydd sydd ar y tribiwnlys o dan y Rheoliadau hyn, i ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfen i'r parti neu'r person â buddiant, os anfonir yr wybodaeth neu'r ddogfen at y cynrychiolydd, neu os rhoddir yr wybodaeth neu'r ddogfen iddo.
17.—(1) Pan hysbysir y tribiwnlys o enw a chyfeiriad person â buddiant, rhaid iddo sicrhau cyn gynted ag y bo'n ymarferol y cyflenwir i'r person hwnnw—
(a)copi o'r cais;
(b)esboniad o'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am gael ymuno fel ceisydd neu ymatebydd; ac
(c)unrhyw wybodaeth neu ddogfen arall a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.
(2) Caiff y tribiwnlys sicrhau y cyflenwir yr wybodaeth neu'r dogfennau o dan baragraff (1) drwy—
(a)cyflenwi'r wybodaeth neu'r dogfennau i'r person â buddiant, gan y tribiwnlys ei hunan;
(b)cyflenwi'r wybodaeth neu'r dogfennau i gynrychiolydd y person â buddiant, gan y tribiwnlys ei hunan; neu
(c)gwneud yn ofynnol, drwy orchymyn a wneir o dan reoliad 23, fod parti yn cyflenwi'r wybodaeth neu'r dogfennau i'r person â buddiant, neu i gynrychiolydd y person â buddiant.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—
(a)os cyflenwir gwybodaeth a dogfennau i berson â buddiant yn unol â pharagraff (1); a
(b)os caiff y tribiwnlys gais gan y person â buddiant hwnnw, i barhau i gyflenwi gwybodaeth a dogfennau i'r person â buddiant,
rhaid i'r tribiwnlys barhau i sicrhau y cyflenwir i'r person â buddiant hwnnw unrhyw wybodaeth neu ddogfen ynglŷn â'r mater y mae'r achos yn ymwneud ag ef, ac a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.
(4) Bydd y ddyletswydd ar dribiwnlys o dan baragraff (3) yn dod i ben os yw'r person â buddiant yn ymuno fel parti yn yr achos o dan reoliad 13, neu os yw'r person â buddiant yn rhoi hysbysiad i'r perwyl nad yw bellach yn dymuno cael yr wybodaeth neu'r dogfennau.
18.—(1) Cyn penderfynu ynghylch cais, rhaid i'r tribiwnlys gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cyflenwir i bob un o'r partïon—
(a)copi o unrhyw ddogfen sy'n berthnasol i'r achos (neu ddetholiadau digonol o'r ddogfen, neu fanylion y ddogfen) a gafwyd gan unrhyw barti arall neu berson â buddiant (ac eithrio dogfen sydd eisoes ym meddiant y parti, neu ddogfen y cyflwynwyd copi ohoni iddo'n flaenorol); a
(b)copi o unrhyw ddogfen sy'n ymgorffori canlyniadau unrhyw ymchwiliadau perthnasol a wnaed gan neu ar ran y tribiwnlys at ddibenion yr achos.
(2) Mewn gwrandawiad, os nad yw parti wedi cael dogfen berthnasol, neu gopi o ddogfen berthnasol, neu ddetholiadau digonol neu fanylion o ddogfen berthnasol yn flaenorol, yna oni fydd—
(a)y person hwnnw'n cydsynio i'r gwrandawiad barhau; neu
(b)y tribiwnlys o'r farn y caiff y person hwnnw gyfle digonol i ymdrin â'r materion y mae'r ddogfen yn ymwneud â hwy heb ohirio'r gwrandawiad,
rhaid i'r tribiwnlys ohirio'r gwrandawiad am gyfnod a fydd, ym marn y tribiwnlys, yn rhoi cyfle digonol i'r person hwnnw ymdrin â'r materion hynny.
19.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod parti'n cyflenwi i'r tribiwnlys unrhyw wybodaeth neu ddogfen y mae o fewn pŵer y parti hwnnw i'w cyflenwi, ac a bennir, neu sydd o ddisgrifiad a bennir, yn y gorchymyn.
(2) Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod parti'n cyflenwi i barti arall neu i berson â buddiant gopïau o unrhyw ddogfennau a gyflenwyd, neu sydd i'w cyflenwi, i'r tribiwnlys o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i barti sy'n ddarostyngedig i orchymyn a wnaed o dan baragraff (1) neu (2) ddarparu'r cyfryw wybodaeth, dogfennau neu gopïau erbyn pa bynnag amser a bennir yn y gorchymyn neu a benderfynir yn unol â'r gorchymyn.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn bresennol mewn gwrandawiad llafar, i roi tystiolaeth ac i ddangos unrhyw ddogfennau a bennir yn y gorchymyn, neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn, ac sydd o fewn pŵer y person hwnnw i'w dangos.
(5) Nid yw paragraffau (1) a (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen na ellid gorfodi person i'w dangos mewn treial o achos mewn llys barn yng Nghymru a Lloegr.
(6) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel wneud gorchymyn o dan baragraff (1), (2) neu (4) sydd—
(a)yn rhagarweiniol i wrandawiad llafar; neu
(b)yn rhagarweiniol i benderfyniad, neu'n gysylltiedig â phenderfyniad.
20. Os yw parti wedi peidio â chydymffurfio â gorchymyn a wnaed o dan reoliad 19(1), (2) neu (4), caiff y tribiwnlys—
(a)dynnu pa bynnag gasgliadau y tybia'n briodol; neu
(b)gwneud gorchymyn sy'n gwrthod neu'n caniatáu'r cyfan neu ran o'r cais.
21.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (7) caiff y tribiwnlys benderfynu cais heb wrandawiad llafar os bydd wedi hysbysu'r partïon mewn ysgrifen, ddim llai na 14 diwrnod ymlaen llaw, o'i fwriad i wneud hynny.
(2) Ar unrhyw adeg cyn penderfynu'r cais—
(a)caiff y ceisydd neu'r ymatebydd ofyn am wrandawiad llafar; neu
(b)caiff y tribiwnlys hysbysu'r partïon ei fod yn bwriadu cynnal gwrandawiad llafar.
(3) Pan wneir cais am wrandawiad neu pan roddir hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd o wrandawiad yn unol â rheoliad 28.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ceir gwneud penderfyniad heb wrandawiad llafar yn absenoldeb unrhyw sylwadau gan yr ymatebydd.
(5) Mewn perthynas â chais a wneir o dan baragraffau 4, 5, 5A neu 10 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983, ni chaniateir gwneud penderfyniad heb wrandawiad llafar ac eithrio—
(a)pan fo'r ymatebydd wedi hysbysu'r tribiwnlys nad yw'r ymatebydd yn gwrthwynebu'r cais; neu
(b)pan fo'r partïon i gyd wedi hysbysu'r tribiwnlys eu bod yn cydsynio i'r cais gael ei benderfynu heb wrandawiad.
(6) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel benderfynu pa un a yw gwrandawiad llafar yn briodol ai peidio ar gyfer penderfynu cais.
(7) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i gais y mae rheoliad 10 (ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI) neu reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol) yn gymwys iddo.
22.—(1) Caiff tribiwnlys wneud gorchymyn ar sail interim (“gorchymyn interim”) sydd—
(a)yn atal, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, effaith unrhyw benderfyniad, hysbysiad, gorchymyn neu drwydded sy'n destun achos ger ei fron; neu
(b)yn caniatáu dros dro unrhyw rwymedi y byddai gan y tribiwnlys bŵer i'w ddyfarnu yn ei benderfyniad terfynol.
(2) Pan fo'r tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim heb yn gyntaf ganiatáu cyfle i'r partïon wneud sylwadau ynghylch gwneud y gorchymyn, caiff parti ofyn am i'r gorchymyn interim gael ei amrywio neu ei ddiddymu.
(3) Ceir gwneud unrhyw gais o'r fath am amrywio neu ddiddymu—
(a)ar lafar mewn gwrandawiad;
(b)mewn ysgrifen; neu
(c)drwy unrhyw ddull arall a ganiateir gan y tribiwnlys.
(4) Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn interim, ddarparu i bob un o'r partïon hysbysiad o'r gorchymyn interim; a rhaid i'r hysbysiad, ac eithrio yn achos gorchymyn a wneir gyda chydsyniad pob un o'r partïon, roi'r rhesymau dros y penderfyniad i wneud y gorchymyn.
(5) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i gais y mae rheoliad 10 (ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI) neu reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol) yn gymwys iddo.
23.—(1) Caiff parti ofyn i'r tribiwnlys roi cyfarwyddyd drwy wneud gorchymyn o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o Ddeddf 2004.
(2) Caiff parti y cyfeirir cyfarwyddyd gweithdrefnol ato ofyn i'r tribiwnlys i amrywio'r cyfarwyddyd neu ei osod o'r neilltu.
(3) Ceir gwneud unrhyw gais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu (2)—
(a)ar lafar mewn cynhadledd rheoli achos neu wrandawiad;
(b)mewn ysgrifen; neu
(c)drwy unrhyw ddull arall a ganiateir gan y tribiwnlys.
(4) Rhaid i barti sy'n gwneud cais am gyfarwyddyd o dan baragraff (1) bennu pa gyfarwyddiadau gweithdrefnol a geisir, a'r rhesymau dros eu ceisio.
(5) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel roi cyfarwyddyd gweithdrefnol ynglŷn ag unrhyw fater sydd—
(a)yn rhagarweiniol i wrandawiad llafar; neu
(b)yn rhagarweiniol i benderfyniad, neu'n gysylltiedig â phenderfyniad.
(6) Ym mharagraffau (2), (4) a (5), ystyr “cyfarwyddyd gweithdrefnol” (“procedural direction”) yw unrhyw gyfarwyddyd ac eithrio cyfarwyddyd fel a bennir ym mharagraffau (a) i (e) o adran 230(5) neu baragraffau (a) i (d) o adran 230(5A) o Ddeddf 2004.
24.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y tribiwnlys archwilio—
(a)y fangre;
(b)unrhyw fangre arall y gallai ei harchwilio gynorthwyo'r tribiwnlys i benderfynu'r cais;
(c)yr ardal o amgylch y fangre.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3)—
(a)rhaid i'r tribiwnlys roi cyfle i'r partïon fod yn bresennol yn ystod archwiliad; a
(b)caiff aelod o'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd sy'n gweithredu yn rhinwedd y swydd honno fod yn bresennol yn ystod unrhyw archwiliad.
(3) Mae gwneud archwiliad, a bod yn bresennol mewn archwiliad, yn ddarostyngedig i unrhyw ganiatâd y mae'n ofynnol ei gael.
(4) Pan gynhelir gwrandawiad llafar, ceir cyflawni archwiliad cyn, yn ystod, neu ar ôl y gwrandawiad.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r tribiwnlys roi i'r partïon dim llai na 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad, amser a lleoliad yr archwiliad.
(6) Ceir hepgor neu liniaru'r gofyniad i roi hysbysiad ym mharagraff (5) os bodlonir y tribiwnlys fod y partïon wedi cael rhybudd digonol.
(7) Os cynhelir archwiliad ar ôl cau gwrandawiad llafar, caiff y tribiwnlys ailagor y gwrandawiad oherwydd unrhyw fater sy'n codi o'r archwiliad, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol i'r partïon ynglŷn â dyddiad amser a lleoliad y gwrandawiad a ail agorir.
(8) Os yw cais i gael ei benderfynu gan aelod cymwysedig unigol o'r panel, caiff yr aelod hwnnw arfer swyddogaethau'r tribiwnlys o dan y rheoliad hwn.
25.—(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “arbenigwr” (“expert”) yw arbenigwr annibynnol nad yw'n gyflogai unrhyw un o'r partïon.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff parti roi tystiolaeth arbenigol gerbron y tribiwnlys, ac wrth wneud hynny rhaid iddo—
(a)darparu i'r tribiwnlys grynodeb ysgrifenedig o'r dystiolaeth; a
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (5), cyflenwi copi o'r crynodeb ysgrifenedig hwnnw i bob parti arall, o leiaf 7 diwrnod cyn—
(i)dyddiad y gwrandawiad llafar perthnasol y rhoddwyd hysbysiad ohono mewn perthynas â'r cais o dan reoliad 28; neu
(ii)y dyddiad a hysbyswyd o dan reoliad 21 fel y dyddiad pan benderfynir y cais heb wrandawiad llafar.
(3) Rhaid i grynodeb ysgrifenedig o dystiolaeth yr arbenigwr—
(a)bod wedi'i gyfeirio at y tribiwnlys;
(b)cynnwys manylion o gymwysterau'r arbenigwr;
(c)cynnwys crynodeb o'r cyfarwyddiadau a gafodd yr arbenigwr ar gyfer gwneud yr adroddiad; ac
(ch)cynnwys datganiad bod yr arbenigwr yn deall, ac wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd sydd arno i gynorthwyo'r tribiwnlys ynglŷn â materion sydd o fewn ei arbenigedd, a bod y ddyletswydd honno'n drech nag unrhyw rwymedigaeth i'r person y cafodd yr arbenigwr ei gyfarwyddiadau ganddo neu sy'n ei gyflogi, neu sy'n talu iddo.
(4) Pan fo tribiwnlys, o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o Ddeddf 2004, yn rhoi cyfarwyddyd na chaiff parti roi tystiolaeth arbenigol gerbron y tribiwnlys heb ganiatâd y tribiwnlys, caiff bennu, fel amod ar y caniatâd hwnnw—
(a)bod rhaid cyfyngu tystiolaeth yr arbenigwr i'r materion hynny a gyfarwyddir gan y tribiwnlys;
(b)bod rhaid i'r arbenigwr fod yn bresennol mewn gwrandawiad i roi tystiolaeth ar lafar; neu
(c)bod yn rhaid i'r partïon gyfarwyddo'r arbenigwr ar y cyd.
(5) Ceir hepgor neu liniaru'r terfyn amser ym mharagraff (2)(b) os bodlonir y tribiwnlys fod y partïon wedi cael rhybudd digonol.
26.—(1) Caiff y tribiwnlys gynnal cynhadledd rheoli achos.
(2) Rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd i'r partïon o ddim llai na 7 diwrnod ynglŷn â dyddiad, amser a lleoliad y gynhadledd rheoli achos.
(3) Yn y gynhadledd rheoli achos, caiff y tribiwnlys orchymyn y partïon i gymryd pa bynnag gamau, neu wneud pa bynnag bethau sy'n ymddangos i'r tribiwnlys yn angenrheidiol neu'n ddymunol, er mwyn sicrhau y penderfynir cais mewn modd cyfiawn, prydlon a darbodus.
(4) Caiff y tribiwnlys ohirio cynnal cynhadledd rheoli achos, neu ei gohirio ar ei chanol.
(5) Mae hawl gan barti i gael ei gynrychioli mewn cynhadledd rheoli achos.
(6) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1), (3) neu (4).
27.—(1) Caiff y tribiwnlys—
(a)cwtogi'r amser a bennir gan neu o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred, os yw pob un o'r partïon yn cytuno i'r cwtogiad sydd dan sylw;
(b)estyn yr amser a bennir gan neu o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred, hyd yn oed pan fo'r amser a bennwyd wedi dod i ben, os—
(i)na fyddai'n rhesymol disgwyl i'r person dan sylw gydymffurfio, neu fod wedi cydymffurfio, o fewn yr amser hwnnw; neu
(ii)byddai peidio ag estyn yr amser yn arwain at anghyfiawnder sylweddol;
(c)caniatáu defnyddio teleffon, cyswllt fideo, neu unrhyw ddull cyfathrebu arall—
(i)i wneud sylwadau gerbron y tribiwnlys; neu
(ii)at ddibenion cynhadledd rheoli achos neu wrandawiad;
(ch)gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys gyda'r dystiolaeth honno ddatganiad llofnodedig bod y person yn credu bod y ffeithiau a ddatgenir yn y dystiolaeth yn wir;
(d)cymryd unrhyw gam arall neu wneud unrhyw benderfyniad arall sydd, ym marn y tribiwnlys, yn angenrheidiol neu'n ddymunol at y diben o reoli'r achos.
(2) Caiff y tribiwnlys arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn wrth ymateb i gais am iddo wneud hynny, neu ar gymhelliad ei hunan.
(3) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pwerau o dan y rheoliad hwn ynglŷn ag unrhyw fater sy'n rhagarweiniol i—
(a)gwrandawiad llafar; neu
(b)penderfyniad sydd i'w wneud heb wrandawiad llafar.
28.—(1) Rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r partïon o ddyddiad, amser a lleoliad unrhyw wrandawiad.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid rhoi hysbysiad o'r gwrandawiad ddim llai nag 21 diwrnod cyn y dyddiad penodedig.
(3) Mewn amgylchiadau eithriadol, caiff y tribiwnlys, heb gytundeb y partïon, roi llai nag 21 diwrnod o rybudd o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad; ond rhaid rhoi hysbysiad o'r fath cyn gynted ag y bo'n ymarferol cyn y dyddiad penodedig, a rhaid i'r hysbysiad ddatgan beth yw'r amgylchiadau eithriadol.
(4) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer ym mharagraff (3).
29.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad llafar.
(2) Rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd rhesymol i'r partïon o'r amser a'r dyddiad pan gynhelir gwrandawiad gohiriedig.
(3) Os gofynnwyd am ohiriad gan un o'r partïon, rhaid i'r tribiwnlys beidio â gohirio'r gwrandawiad onid yw o'r farn y byddai'n rhesymol gwneud hynny, o ystyried—
(a)sail y cais am ohirio;
(b)yr adeg y gwneir y cais am ohirio; ac
(c)cyfleustra'r partïon.
(4) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer swyddogaethau'r tribiwnlys o dan y rheoliad hwn.
30.—(1) Mewn gwrandawiad—
(a)rhaid i'r tribiwnlys (yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn) benderfynu ar weithdrefn y gwrandawiad a'r modd y'i cynhelir;
(b)caiff unrhyw berson sy'n ymddangos gerbron y tribiwnlys wneud hynny naill ai'n bersonol neu drwy gynrychiolydd;
(c)mae hawl gan y partïon—
(i)i roi tystiolaeth berthnasol;
(ii)i alw tystion;
(iii)i holi unrhyw dyst; a
(iv)i annerch y tribiwnlys ynglŷn â'r dystiolaeth a'r gyfraith ac yn gyffredinol ar bwnc y cais; a
(ch)caiff y tribiwnlys gymryd tystiolaeth o unrhyw faith neu unrhyw farn sy'n ymddangos i'r tribiwnlys yn berthnasol, hyd yn oed os na fyddai'r dystiolaeth neu'r farn honno'n dderbyniadwy mewn achos gerbron llys barn, ac ni chaiff y tribiwnlys wrthod cymryd unrhyw dystiolaeth neu farn a gyflwynir mewn da bryd os yw'n dderbyniadwy o dan y gyfraith ac yn berthnasol ac angenrheidiol, ac os nad yw wedi ei chael mewn ffordd amhriodol.
(2) Mewn gwrandawiad, os bodlonir tribiwnlys ei bod yn gyfiawn a rhesymol gwneud hynny, caiff y tribiwnlys ganiatáu i barti ddibynnu ar resymau nas datganwyd o'r blaen ac ar dystiolaeth nad oedd ar gael o'r blaen neu na roddwyd gerbron o'r blaen.
(3) Caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad, ond os gwneir hynny ar gais un o'r partïon, rhaid i'r tribiwnlys fod o'r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny o ystyried—
(a)sail y cais am ohirio;
(b)yr adeg y gwneir y cais am ohirio; ac
(c)cyfleustra'r partïon.
31.—(1) Rhaid i wrandawiad fod yn gyhoeddus ac eithrio pan fodlonir y tribiwnlys, yn amgylchiadau'r achos ac yn ddarostyngedig i'r prif amcan a ddisgrifir yn rheoliad 3, y dylid cynnal y gwrandawiad yn breifat.
(2) Caiff y tribiwnlys benderfynu o dan baragraff (1)—
(a)bod rhaid cynnal rhan yn unig o'r gwrandawiad yn breifat; neu
(b)bod rhaid peidio â chyhoeddi unrhyw un o'r materion canlynol—
(i)gwybodaeth am yr achos sydd gerbron y tribiwnlys;
(ii)enwau a manylion adnabod personau sy'n ymwneud â'r achos; neu
(iii)tystiolaeth benodedig a roddir yn yr achos.
32.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) mae gan y personau canlynol hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat ac i fod yn bresennol yn ystod trafodaethau'r tribiwnlys ynglŷn â phenderfynu'r cais—
(a)llywydd neu gadeirydd neu aelod arall o'r panel, nad yw'n rhan o'r tribiwnlys at ddiben y gwrandawiad;
(b)aelod o'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd sy'n gweithredu yn rhinwedd y swydd honno;
(c)staff y tribiwnlys;
(ch)unrhyw berson arall a ganiateir gan y tribiwnlys, gyda chydsyniad y partïon.
(2) Ni chaiff yr un o'r personau a bennir ym mharagraff (1) gymryd unrhyw ran yn y gwrandawiad nac yn y cyfryw drafodaethau.
(3) Caiff y tribiwnlys ganiatáu i bersonau fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat ar ba bynnag delerau ac amodau a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.
33. Os yw parti yn methu ag ymddangos mewn gwrandawiad, caiff y tribiwnlys fynd ymlaen â'r gwrandawiad—
(a)os yw'r tribiwnlys wedi ei fodloni bod y parti hwnnw wedi ei hysbysu o'r gwrandawiad yn unol â'r Rheoliadau hyn; a
(b)nad yw'r tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da pam y methodd ymddangos.
34.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad sy'n dyfarnu ynghylch cais.
(2) Os cynhaliwyd gwrandawiad, ceir cyhoeddi'r penderfyniad ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad.
(3) Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad sy'n dyfarnu'n derfynol ynglŷn â chais, ddarparu i bob un o'r partïon hysbysiad sy'n datgan penderfyniad y tribiwnlys (“dogfen penderfyniad”).
(4) Rhaid i'r ddogfen penderfyniad—
(a)bod wedi ei llofnodi a'i dyddio gan berson priodol;
(b)nodi—
(i)y penderfyniad a wnaed gan y tribiwnlys;
(ii)y rhesymau pam y cyrhaeddwyd y penderfyniad hwnnw;
(iii)dyddiad y penderfyniad;
(iv)unrhyw gamau y mae'n rhaid i unrhyw barti yn yr achos eu cymryd, ac erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cymryd y camau hynny; ac
(c)rhoi esboniad o hawl parti i apelio yn erbyn y penderfyniad.
(5) Caiff person priodol, drwy gyfrwng tystysgrif wedi ei llofnodi a'i dyddio gan y person priodol, gywiro unrhyw wallau clerigol mewn dogfen penderfyniad neu unrhyw wallau neu amwyseddau sy'n digwydd ynddi oherwydd llithriad neu hepgoriad damweiniol.
(6) Rhaid anfon copi at bob un o'r partïon, o unrhyw gywiriad a ardystir o dan baragraff (5).
(7) Yn y rheoliad hwn ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—
(a)Cadeirydd y tribiwnlys; neu
(b)yn absenoldeb neu analluogrwydd Cadeirydd y tribiwnlys, aelod arall o'r tribiwnlys.
35.—(1) Rhaid i'r tribiwnlys beidio â gwneud penderfyniad o dan baragraff 12 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004 mewn perthynas â pharti heb yn gyntaf roi cyfle i'r parti hwnnw gyflwyno sylwadau i'r tribiwnlys.
(2) Pan benderfynir cais gan aelod cymwysedig sengl o'r panel, caiff yr aelod hwnnw wneud penderfyniad ynghylch costau, mewn perthynas â pharti i'r achos ynghylch y cais hwnnw.
36.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff ceisydd (“y parti sy'n tynnu'n ôl”) (“the withdrawing party”) dynnu'n ôl y cyfan neu ran o'r cais a wnaed gan y ceisydd hwnnw, yn unol â pharagraff (2)—
(a)ar unrhyw adeg cyn i'r tribiwnlys ddechrau ystyried y dystiolaeth ynglŷn â'r cais (pa un ai mewn gwrandawiad llafar ai peidio); a
(b)ar unrhyw adeg wedi i'r tribiwnlys ddechrau ystyried y dystiolaeth ynglŷn â'r cais (pa un ai mewn gwrandawiad llafar ai peidio), ar yr amod—
(i)y bodlonir y tribiwnlys fod y partïon eraill yn cydsynio â thynnu'r cais yn ôl; a
(ii)bod y tribiwnlys yn cydsynio â thynnu'r cais yn ôl.
(2) Rhaid i'r parti sy'n tynnu'n ôl hysbysu ei fod yn tynnu'r cais yn ôl drwy gyflwyno i'r tribiwnlys hysbysiad wedi ei lofnodi a'i ddyddio, sy'n—
(a)rhoi manylion digonol i alluogi adnabod y cais neu'r rhan o'r cais a dynnir yn ôl;
(b)datgan a oes unrhyw ran o'r cais yn weddill ac eto i'w benderfynu, ac os felly, pa ran; ac
(c)cadarnhau bod copi o'r hysbysiad bod y cais wedi ei dynnu'n ôl wedi ei gyflenwi i bob un o'r partïon eraill, a'i fod yn nodi'r dyddiad y gwnaed hynny.
(3) Os bydd unrhyw un o'r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn bodoli, ni fydd tynnu'r cais yn ôl yn cael effaith hyd nes cyflawnir un o'r ffyrdd o weithredu ym mharagraff (6).
(4) Yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—
(a)bod y tribiwnlys wedi gwahodd y partïon yn yr achos—
(i)i gyflwyno sylwadau i'r tribiwnlys ynglŷn ag a ddylid gwneud ad-daliad i unrhyw barti ar ffurf digollediad, iawndal, costau neu ad-daliad ffioedd; a
(ii)i ymateb i unrhyw sylwadau a gafwyd gan y tribiwnlys o dan baragraff (i);
ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wnaed i'r tribiwnlys gan unrhyw barti o dan yr is-baragraff hwn, bod y tribiwnlys wedi gwneud pa bynnag orchymyn, o ran talu digollediad, iawndal, costau neu ad-daliad ffioedd, y dylid ei wneud, ym marn resymol y tribiwnlys, ar ôl ystyried holl amgylchiadau'r achos;
(b)bod gorchymyn interim er budd un o'r partïon wedi ei wneud; neu
(c)bod parti wedi rhoi ymrwymiad i'r tribiwnlys.
(5) Wrth wahodd sylwadau gan y partïon o dan is-baragraff (4)(a), caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddyd i'r partïon ynglŷn â'r amser a ganiateir ar gyfer darparu sylwadau o'r fath.
(6) Y ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—
(a)bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi anfon at y tribiwnlys ddatganiad ysgrifenedig, a lofnodwyd gan bob un o'r partïon eraill, sy'n pennu'r modd yr ymdrinnir ag unrhyw orchymyn a wnaed o dan baragraff (4)(a), unrhyw orchymyn interim a wnaed o dan baragraff (4)(b) neu unrhyw ymrwymiad a roddwyd o dan baragraff (4)(c), sy'n gymwys i'r achos; neu
(b)bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi rhoi hysbysiad o'r bwriad i dynnu'n ôl i bob un o'r partïon, ac—
(i)bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi gofyn i'r tribiwnlys roi cyfarwyddiadau ynghylch o dan ba amodau y ceir tynnu'r cais yn ôl; a
(ii)bod y tribiwnlys wedi rhoi cyfarwyddiadau o'r fath.
(7) Wrth roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (6)(b)(ii) caiff y tribiwnlys osod pa bynnag amodau a ystyria'n briodol.
(8) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel wneud gorchymyn o dan baragraff (4)(b), neu roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (5) neu (6)(b)(ii).
37. Ceir gorfodi unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlys, gyda chaniatâd y llys sirol, yn yr un modd ag y gorfodir gorchmynion gan lys o'r fath.
38.—(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “apelio” (“to appeal”) yw gwneud apêl yn erbyn penderfyniad gan y tribiwnlys i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd), ac mae ystyr cyfatebol i “apelydd” (“appellant”).
(2) Pan fo parti'n gwneud cais i'r tribiwnlys am ganiatâd i apelio, caiff wneud y cais—
(a)ar lafar yn y gwrandawiad lle cyhoeddir y penderfyniad gan y tribiwnlys; neu
(b)yn ddiweddarach i swyddfa'r tribiwnlys, mewn ysgrifen.
(3) Rhaid gwneud cais am ganiatâd i apelio o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o'r penderfyniad fel y dyddiad y rhoddwyd y penderfyniad.
(4) Pan wneir y cais am ganiatâd i apelio mewn ysgrifen, rhaid i'r cais am ganiatâd gael ei lofnodi gan yr apelydd neu gynrychiolydd yr apelydd a rhaid iddo—
(a)nodi enw a chyfeiriad yr apelydd ac enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd yr apelydd;
(b)nodi pa benderfyniad a pha dribiwnlys y mae'r cais am ganiatâd i apelio yn cyfeirio atynt; ac
(c)datgan ar ba seiliau y mae'r apelydd yn bwriadu dibynnu yn yr apêl.
(5) Rhaid i'r tribiwnlys, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y mae'r tribiwnlys yn cael y cais am ganiatâd i apelio—
(a)anfon copi o'r cais am ganiatâd i apelio at y parti arall i'r cais sy'n destun y cais am ganiatâd i apelio; a
(b)os yw'r apelydd yn tynnu'n ôl y cais am ganiatâd i apelio, rhoi gwybod i'r parti arall fod y cais am ganiatâd i apelio wedi ei dynnu'n ôl.
(6) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ynghylch cais am ganiatâd i apelio, rhaid i'r tribiwnlys anfon hysbysiad sy'n cynnwys rhesymau dros y penderfyniad, at yr apelydd ac at y partïon eraill i'r cais sy'n destun yr apêl
(7) Rhaid trin penderfyniad neu orchymyn interim gan dribiwnlys o dan reoliad 12(3) fel penderfyniad y tribiwnlys at ddibenion y rheoliad hwn.
(8) Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (6) gynnwys datganiad o unrhyw ddarpariaeth statudol, rheol neu ganllawiau perthnasol, mewn perthynas ag unrhyw gais pellach i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) am ganiatâd i apelio, ac o'r amser a'r lle ar gyfer gwneud y cais pellach am ganiatâd neu ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.
39.—(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfranogwr” (“participant”) yw unrhyw geisydd neu barti neu dyst neu berson arall sy'n cymryd rhan mewn achos sy'n ymwneud â chais, neu y cyfeirir ato orchymyn gan y tribiwnlys.
(2) Os yw cyfranogwr yn rhoi gwybod i'r tribiwnlys na all y cyfranogwr ddarllen, siarad na deall yr iaith Gymraeg na'r iaith Saesneg, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu i'r cyfranogwr, yn ddi-dâl, y cyfieithiadau a'r cymorth gan gyfieithydd ar y pryd, sy'n angenrheidiol i alluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.
(3) Os yw cyfranogwr yn rhoi gwybod i'r tribiwnlys na all y cyfranogwr ddarllen Cymraeg na Saesneg oherwydd ei fod yn ddall neu'n rhannol ddall, dros dro neu'n barhaol, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i'r cyfranogwr hwnnw yn ddi-dâl, (caiff hyn gynnwys darparu dogfennau mewn Braille neu brint bras, neu ddarllenwr dogfennau, ond nid yw'n gyfyngedig i hynny) i alluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.
(4) Os yw cyfranogwr yn rhoi gwybod i'r tribiwnlys y gall y cyfranogwr siarad Cymraeg neu Saesneg, ond na all ddarllen nac ysgrifennu Cymraeg na Saesneg, rhaid i'r tribiwnlys ddarparu i'r cyfranogwr wasanaeth person ar gyfer darllen ac esbonio natur a chynnwys unrhyw ddogfennau, ac ysgrifennu unrhyw ddogfennau ar ran y cyfranogwr, fel y bo'n ofynnol yn rhesymol gan y cyfranogwr, er mwyn ei alluogi i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.
(5) Nid yw'r gofyniad bod y tribiwnlys yn darparu i gyfranogwr wasanaeth person ar gyfer darllen, ysgrifennu neu esbonio natur a chynnwys dogfennau o dan baragraff (4) yn cynnwys gofyniad bod y tribiwnlys yn rhoi unrhyw gyngor cyfreithiol, ond mae'n cynnwys gofyniad i esbonio'r camau gweithdrefnol yn yr achos.
(6) Os yw cyfranogwr yn analluog i glywed na siarad, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu i'r cyfranogwr hwnnw, yn ddi-dâl, wasanaeth dehonglydd iaith arwyddion, gwefuslefarydd neu balanteipydd, i alluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.
(7) Mae gan gyfranogwr hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn pa un a gynrychiolir y cyfranogwr gan rywun arall ai peidio.
(8) Rhaid i gyfranogwr y mae arno angen cymorth o dan y rheoliad hwn ond sydd heb ei dderbyn, hysbysu'r tribiwnlys o'r angen hwnnw am gymorth cyn gynted ag y bo modd.
(9) Nid yw'r rheoliad hwn yn cyfyngu mewn unrhyw fodd ar brif amcan tribiwnlys fel y'i disgrifir yn rheoliad 3.
40.—(1) Ystyrir bod unrhyw ddogfen neu hysbysiad y mae'r Rheoliadau hyn yn awdurdodi neu'n gwneud yn ofynnol ei darparu neu'i ddarparu i unrhyw berson, corff neu awdurdod, wedi ei darparu neu'i ddarparu'n briodol i'r person, corff neu awdurdod hwnnw—
(a)os anfonir y ddogfen neu hysbysiad i gyfeiriad priodol y person, corff neu awdurdod hwnnw drwy'r post dosbarth cyntaf, neu drwy ddanfoniad arbennig, neu drwy ddanfoniad cofnodedig;
(b)os danfonir y ddogfen neu hysbysiad drwy unrhyw ddull arall i gyfeiriad priodol y person, corff neu awdurdod hwnnw;
(c)os, gyda chydsyniad ysgrifenedig y person, corff neu awdurdod, anfonir y ddogfen neu hysbysiad at y person, corff neu awdurdod—
(i)drwy ffacs, e-bost neu gyfathrebiad electronig arall sy'n cynhyrchu testun y gellir ei gael mewn ffurf ddarllenadwy; neu
(ii)drwy wasanaeth danfon dogfennau preifat.
(2) Y cyfeiriad priodol at ddibenion paragraff (1) yw—
(a)yn achos y tribiwnlys, cyfeiriad swyddfa'r tribiwnlys;
(b)yn achos cwmni corfforedig neu gorff arall a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig, cyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni neu'r corff;
(c)yn achos unrhyw berson, corff neu awdurdod arall, ei gyfeiriad arferol neu ei gyfeiriad olaf sy'n hysbys.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(a)yn achos derbynnydd arfaethedig dogfen neu hysbysiad—
(i)pan na ellir dod o hyd iddo ar ôl gwneud pob ymholiad dyfal;
(ii)os fu farw ac nad oes ganddo gynrychiolydd personol; neu
(iii)os yw y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(b)os, am unrhyw reswm arall, na ellir yn rhwydd ddarparu hysbysiad neu ddogfen arall yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(4) Pan fo paragraff (3) yn gymwys, caiff y tribiwnlys —
(a)hepgor darparu'r hysbysiad neu'r ddogfen arall; neu
(b)rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer dull amgen o gyflwyno, ym mha ffurf neu ddull bynnag arall (drwy hysbysebu mewn papur newydd neu fel arall) a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.
(5) Pan yw'n ofynnol, o dan Ddeddf 2004, Deddf 1985, Deddf 1983 neu'r Rheoliadau hyn, bod parti'n darparu tystiolaeth ei fod wedi cyflenwi dogfen i unrhyw berson, caiff y parti fodloni'r gofyniad hwnnw drwy ddarparu tystysgrif, wedi ei llofnodi gan y parti, yn cadarnhau bod y ddogfen wedi ei chyflwyno yn unol â gofynion y rheoliad hwn.
41.—(1) Pan fo'r amser a bennir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred yn dod i ben ar ddydd Sadwrn, neu ddydd Sul neu ar ŵyl gyhoeddus, ystyrir ei fod yn dod i ben ar y diwrnod dilynol nesaf nad yw'n ddydd Sadwrn, neu'n ddydd Sul neu'n ŵyl gyhoeddus.
(2) Ystyr gŵyl gyhoeddus yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(2).
42.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw'n ymddangos i'r tribiwnlys fod cais yn—
(a)wacsaw;
(b)blinderus; neu
(c)yn camddefnyddio proses y tribiwnlys,
caiff y tribiwnlys wrthod y cais yn gyfan gwbl neu'n rhannol.
(2) Cyn gwrthod cais o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r ceisydd o'i fwriad i wneud hynny, yn unol â pharagraff (3).
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) ddatgan—
(a)bod y tribiwnlys â'i fryd ar wrthod y cais;
(b)ar ba sail y rhoddodd ei fryd ar wrthod y cais;
(c)bod hawl gan y ceisydd i gael ei glywed gan y tribiwnlys ar y cwestiwn pa un a ddylid gwrthod y cais; ac
(ch)y dyddiad olaf pan gaiff y ceisydd ofyn am gael ei glywed gan y tribiwnlys, sef dyddiad nad yw'n llai na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.
(4) Ni cheir gwrthod cais o dan baragraff (1) ac eithrio—
(a)pan nad yw'r ceisydd wedi gofyn i'r tribiwnlys, cyn y dyddiad a grybwyllir ym mharagraff (3)(c), am gael ei glywed gan y tribiwnlys; neu
(b)pan fo'r ceisydd wedi gofyn am gael ei glywed gan y tribiwnlys a'r tribiwnlys wedi clywed y ceisydd a'r ymatebydd, neu'r cyfryw rai ohonynt a oedd bresennol yn y gwrandawiad, ar y cwestiwn pa un a ddylid gwrthod y cais.
43. Nid fydd unrhyw afreoleidd-dra sy'n deillio o fethiant gan barti i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, neu fethiant i gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan y tribiwnlys cyn bo'r tribiwnlys wedi penderfynu'r cais, ohono'i hunan yn gwneud yr achos yn ddi-rym.
44. Pan fo'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod dogfen yn cael ei llofnodi, bodlonir y gofyniad hwnnw os yw—
(a)y llofnod naill ai wedi ei ysgrifennu neu wedi ei gynhyrchu gan gyfrifiadur neu ddull mecanyddol arall; a
(b)enw'r llofnodwr yn ymddangos o dan y llofnod mewn modd sy'n galluogi adnabod y llofnodwr.
Ar gyfer ystyr “single qualified member of the panel” gweler paragraff 6(2) i (4) o Atodlen 13 i Ddeddf Tai 2004.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: