- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
22 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Chwefror 2012
Yn dod i rym
28 Chwefror 2012
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru.
(3) Mae rheoliadau 2 i 5 yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
2. Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud—
(a)bod y geiriau “or relevant special grant” yn is-adran (3)(a)(3) wedi eu hepgor; a
(a)bod yr is-adran a ganlyn wedi ei mewnosod ar ôl is-adran (12)(4)—
“(12A) In this section and section 33 below—
(a)references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.1) 2012-2013 (Final Settlement-Councils) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2)(5) of, and paragraph 11B(1)(6) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 10 January 2012; and
(b)references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.”
3. Mae adran 33(1) o Ddeddf 1992(7) yn cael effaith fel petai'r geiriau “or relevant special grant” yn eitem P wedi eu hepgor.
4. Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud—
(a)yn is-adran (3)(a)(i)(8)—
(i)bod y geiriau “relevant special grant” wedi eu hepgor; a
(ii)bod y geiriau “floor funding” wedi eu mewnosod o flaen “or police grant;”; a
(b)bod yr is-adrannau a ganlyn wedi eu mewnosod ar ôl is-adran (6B)(9)—
“(6C) In this section and section 44 below—
(a)references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.2) 2012-2013 (Final Settlement-Police Authorities) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2) of, and paragraph 11B(1) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 21 February 2012; and
(b)references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.
(6D) In this section and section 44 below “floor funding” means grant payable to a major precepting authority by the Secretary of State in addition to the police grant referred to in subsection (6A).”
5. Mae adran 44(1) o Ddeddf 1992(10) yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud yn eitem P—
(a)bod y geiriau “relevant special grant” wedi eu hepgor; a
(b)bod y geiriau “floor funding” wedi eu mewnosod o flaen y geiriau “or police grant;”.
6. Yn adran 32(5)(b) o Ddeddf 1992(11), yn lle “Secretary of State” rhodder “Welsh Ministers”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
22 Chwefror 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn disgrifio, yn ôl eu trefn, sut mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio i gyfrifo eu hanghenion cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol. Mae adrannau 33 a 44 o'r Ddeddf honno yn disgrifio, yn ôl eu trefn, sut mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio i gyfrifo swm sylfaenol eu treth cyngor.
Mae rheoliadau 2 i 5 yn gwneud diwygiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012.
Mae rheoliadau 2(a), 3, 4(a)(i) a 5(a) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau at “relevant special grant” o adrannau 32, 33, 43 a 44 o Ddeddf 1992 gan nad oes grantiau arbennig yn cael eu diffinio yn grantiau arbennig perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012.
Mae rheoliadau 2(b) a 4(b) yn mewnosod y diffiniadau o symiau sy'n daladwy o ran ardrethi annomestig a ailddosberthir a'r grant cynnal refeniw yn adrannau 32 a 43 o Ddeddf 1992. Diben hyn yw sicrhau nad yw'r symiau ardrethi annomestig a ailddosberthir a'r grant cynnal refeniw a gedwir allan o'r cyfrifiad ar gyfer anghenion cyllideb yn yr adrannau hynny ond yn ymwneud â'r cyfryw symiau sy'n daladwy o dan yr Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol yn eu trefn am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012. Mae'r un diffiniadau yn gymwys hefyd i adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992. Mae rheoliad 4(b) hefyd yn diffinio “floor funding” yn adran 43 drwy fewnosod is-adran (6D) ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012.
Mae rheoliadau 4(a)(ii) a 5(b) yn diwygio ymhellach adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992, fel bod prif awdurdodau praeseptio yng Nghymru yn gorfod ystyried unrhyw gyllid gwaelodol a geir oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 wrth wneud y cyfrifiad gofynnol am y flwyddyn honno.
Mae rheoliad 6 yn diwygio adran 32(5)(b) o Ddeddf 1992 drwy roi'r geiriau “Welsh Ministers” yn lle “Secretary of State”.
1992 p.14. Diwygiwyd adran 32(9) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19) a chan baragraff 10(10) o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20). Diwygiwyd adrannau 33(4), 43(7) a 44(4), yn y drefn honno, gan baragraffau 11(6), 20(8) a 21(5) a (6) o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011. Daeth Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 i rym ar 3 Rhagfyr 2011 (gweler erthygl 2(i) o O.S. 2011/2896). Diwygiwyd adran 113(2) gan baragraff 52 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).
Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Diwygiwyd adran 32(3)(a) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234). Fe'i haddaswyd mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2011-2012 gan reoliad 2(a) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/446 (Cy.67)). Fe'i diwygiwyd hefyd gan baragraff 10(5) o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011.
Addaswyd adran 32 hefyd gan reoliad 2(b) o O.S. 2011/446 (Cy.67) fel ei bod yn cael effaith fel petai is-adran (12A) newydd wedi ei mewnosod mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2011-2012.
1988 p.41; amnewidiwyd adran 84H (yn lle adran 84H fel y'i mewnosodwyd gan adran 40(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26) ac Atodlen 2 iddi) gan erthygl 3 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (O.S. 2007/1388) ac Atodlen 1 iddo.
Amnewidiwyd paragraff 11B(1) (yn lle paragraff 11B(1) fel y'i mewnosodwyd gan adran 40(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ac Atodlen 2 iddi) gan erthygl 3 o O.S. 2007/1388 ac Atodlen 1 iddo.
Diwygiwyd adran 33(1) gan baragraff 5(2) o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i haddaswyd hefyd mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2011-2012 gan reoliad 3 o O.S. 2011/446 (Cy.67). Fe'i diwygiwyd hefyd gan baragraff 11(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011.
Diwygiwyd adran 43(3)(a) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i haddaswyd mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2011-2012, gan reoliad 4(a) o O.S. 2011/446 (Cy.67). Fe'i diwygiwyd hefyd gan baragraff 20(5) o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011.
Addaswyd adran 43 gan reoliad 4(b) o O.S. 2011/446 (Cy.67) fel ei bod yn cael effaith fel petai yr is-adrannau newydd (6E) a (6F) wedi eu mewnosod ar ôl is-adran (6D) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2011-2012. Amnewidiwyd is-adrannau (6A) a (6B) yn lle is-adrannau (6A) i (6D) gan baragraff 20(7) o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011.
Diwygiwyd adran 44(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i haddaswyd gan reoliad 5 o O.S. 2011/446 (Cy.67) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2011-2012. Fe'i diwygiwyd hefyd gan baragraff 21(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011.
Amnewidiwyd adran 32(5) gan baragraff 10(7) o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: