2012 Rhif 521 (Cy.82)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2012

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9), 33(4), 43(7), 44(4) a 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy2.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2012.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru.

(3)

Mae rheoliadau 2 i 5 yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012.

(4)

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio)2.

Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud—

(a)

bod y geiriau “or relevant special grant” yn is-adran (3)(a)3 wedi eu hepgor; a

(a)

bod yr is-adran a ganlyn wedi ei mewnosod ar ôl is-adran (12)4

“(12A)

In this section and section 33 below—

(a)

references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.1) 2012-2013 (Final Settlement-Councils) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2)5 of, and paragraph 11B(1)6 of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 10 January 2012; and

(b)

references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.”

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (awdurdodau bilio)3.

Mae adran 33(1) o Ddeddf 19927 yn cael effaith fel petai'r geiriau “or relevant special grant” yn eitem P wedi eu hepgor.

Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)4.

Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud—

(a)

yn is-adran (3)(a)(i)8

(i)

bod y geiriau “relevant special grant” wedi eu hepgor; a

(ii)

bod y geiriau “floor funding” wedi eu mewnosod o flaen “or police grant;”; a

(b)

bod yr is-adrannau a ganlyn wedi eu mewnosod ar ôl is-adran (6B)9

“(6C)

In this section and section 44 below—

(a)

references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.2) 2012-2013 (Final Settlement-Police Authorities) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2) of, and paragraph 11B(1) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 21 February 2012; and

(b)

references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.

(6D)

In this section and section 44 below “floor funding” means grant payable to a major precepting authority by the Secretary of State in addition to the police grant referred to in subsection (6A).”

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (prif awdurdodau praeseptio)5.

Mae adran 44(1) o Ddeddf 199210 yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud yn eitem P—

(a)

bod y geiriau “relevant special grant” wedi eu hepgor; a

(b)

bod y geiriau “floor funding” wedi eu mewnosod o flaen y geiriau “or police grant;”.

Diwygio adran 32(5)(b) o Ddeddf 19926.

Yn adran 32(5)(b) o Ddeddf 199211, yn lle “Secretary of State” rhodder “Welsh Ministers”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn disgrifio, yn ôl eu trefn, sut mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio i gyfrifo eu hanghenion cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol. Mae adrannau 33 a 44 o'r Ddeddf honno yn disgrifio, yn ôl eu trefn, sut mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio i gyfrifo swm sylfaenol eu treth cyngor.

Mae rheoliadau 2 i 5 yn gwneud diwygiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012.

Mae rheoliadau 2(a), 3, 4(a)(i) a 5(a) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau at “relevant special grant” o adrannau 32, 33, 43 a 44 o Ddeddf 1992 gan nad oes grantiau arbennig yn cael eu diffinio yn grantiau arbennig perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012.

Mae rheoliadau 2(b) a 4(b) yn mewnosod y diffiniadau o symiau sy'n daladwy o ran ardrethi annomestig a ailddosberthir a'r grant cynnal refeniw yn adrannau 32 a 43 o Ddeddf 1992. Diben hyn yw sicrhau nad yw'r symiau ardrethi annomestig a ailddosberthir a'r grant cynnal refeniw a gedwir allan o'r cyfrifiad ar gyfer anghenion cyllideb yn yr adrannau hynny ond yn ymwneud â'r cyfryw symiau sy'n daladwy o dan yr Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol yn eu trefn am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012. Mae'r un diffiniadau yn gymwys hefyd i adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992. Mae rheoliad 4(b) hefyd yn diffinio “floor funding” yn adran 43 drwy fewnosod is-adran (6D) ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012.

Mae rheoliadau 4(a)(ii) a 5(b) yn diwygio ymhellach adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992, fel bod prif awdurdodau praeseptio yng Nghymru yn gorfod ystyried unrhyw gyllid gwaelodol a geir oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 wrth wneud y cyfrifiad gofynnol am y flwyddyn honno.

Mae rheoliad 6 yn diwygio adran 32(5)(b) o Ddeddf 1992 drwy roi'r geiriau “Welsh Ministers” yn lle “Secretary of State”.