Search Legislation

Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 202 (Cy.33)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Y GWASANAETHIECHYD GWLADOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2012

Gwnaed

30 Ionawr 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Ionawr 2012

Yn dod i rym

28 Chwefror 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 60(1) a 62(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2012

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Mesur 2010” (“the ”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru, y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol, y Cyngor Proffesiynau Iechyd neu ar gofrestr gyffelyb o weithwyr cymdeithasol a gynhelir yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

ystyr “gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol” (“consultant social worker”) yw gweithiwr cymdeithasol sydd â thair blynedd, o leiaf, o brofiad ar ôl cymhwyso ac yn meddu ar y cyfryw sgiliau, cymwysterau a chymwyseddau ag a bennir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn canllawiau a ddyroddir o dan adran 65 o Fesur 2010;

ystyr “nyrs” (“nurse”) yw person a gofrestrwyd yn rhan y nyrsys o'r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;

ystyr “tîm” (“team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd o dan Ran 3 o Fesur 2010;

ystyr “ymwelydd iechyd” (“health visitor”) yw person a gofrestrwyd yn rhan y nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol o'r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac sydd â'i gofnod yn y rhan honno o'r gofrestr yn cofnodi cymhwysedd mewn gwasanaethau ymwelwyr iechyd.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran yr ardaloedd hynny o Gymru y mae adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd) o Fesur 2010 wedi ei chychwyn mewn perthynas â hwy(2).

Cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd

2.—(1Rhaid i dîm gynnwys o leiaf bum person y mae pob un ohonynt yn dod o un o'r categorïau proffesiynol a ganlyn—

(a)gweithiwr cymdeithasol;

(b)nyrs; neu

(c)ymwelydd iechyd.

(2Rhaid i dîm gynnwys o leiaf un person o bob un o'r categorïau yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (1).

(3Rhaid i un aelod o'r tîm fod yn weithiwr cymdeithasol ymgynghorol.

3.  Rhaid i dîm gynnwys staff sy'n meddu ar sgiliau a phrofiad addas, gan ystyried—

(a)y categorïau o achosion y gellir eu hatgyfeirio at y tîm;

(b)yr angen sydd ar y staff proffesiynol am gymorth gweinyddol; ac

(c)unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 65 o Fesur 2010.

Byrddau Integredig Cymorth i Deuluoedd

4.  Er mwyn cyrraedd yr amcanion yn adran 62(1) o Fesur 2010 (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd) rhaid i fwrdd integredig cymorth i deuluoedd—

(a)cael ac ystyried adroddiadau rheolaidd oddi wrth y person sy'n rheoli'r tîm gan gynnwys gwybodaeth am lefelau gweithgarwch gwasanaethu a chanlyniadau;

(b)ceisio datrys problemau o ran cyd-drefnu gwasanaethau a ddarperir gan y tîm a gwasanaethau eraill a ddarperir gan yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol;

(c)sicrhau bod gan y tîm weithdrefnau o ran—

(i)amddiffyn plant;

(ii)amddiffyn oedolion;

(ch)sefydlu gweithdrefn i ddatrys anghydfod rhwng yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol am y trefniadau ar gyfer y tîm;

(d)sicrhau bod trefniadau digonol i oruchwylio aelodau proffesiynol y tîm fel a nodir yn rheoliad 2(1) ac i ofalu am eu datblygiad proffesiynol;

(dd)cael adroddiadau ar incwm a gwariant y tîm a hysbysu'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol am unrhyw broblemau ariannol neu broblemau yn ymwneud ag adnoddau eraill a fyddai'n debygol o effeithio ar allu y tîm i gyflawni ei amcanion.

Dirymu

5.  Mae Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2010(3) wedi eu dirymu.

Gwenda Thomas

Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

30 Ionawr 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud gofynion ynglŷn â'r categorïau proffesiynol y mae'n rhaid dewis gweithwyr ohonynt i fod yn aelodau o dîm integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu'r hyn y mae'n rhaid i fwrdd ICiD ei wneud i gyrraedd yr amcanion a roddwyd iddo gan adran 62 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“Mesur 2010”).

Mae adran 57 o Fesur 2010 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu un neu ragor o dimau ICiD. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ardaloedd awdurdodau lleol y mae adran 57 wedi cael ei dwyn i rym mewn perthynas â hwy ac y mae ganddynt ddyletswydd i sefydlu tîm ICiD. Ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu dwyn i rym mae adran 57 mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam, Caerdydd a Bro Morgannwg (gweler Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010 a Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012).

Mae rheoliad 2 yn gwneud yn ofynnol bod rhaid i dîm ICiD gynnwys craidd o bum gweithiwr proffesiynol o'r tri phroffesiwn: gwaith cymdeithasol, nyrsio a gwasanaethau ymwelwyr iechyd. Rhaid i bob un o'r proffesiynau gael ei gynrychioli yn y tîm. Ar ben hynny, rhaid i'r gweithiwr cymdeithasol, neu os oes rhagor nag un gweithiwr cymdeithasol, rhaid i o leiaf un ohonynt, fod yn weithiwr cymdeithasol ymgynghorol, fel y'i diffinnir yn rheoliad 1.

Mae rheoliad 3 yn gwneud yn ofynnol bod gan y tîm ICiD sgiliau a phrofiad addas, o ystyried y mathau gwahanol o achosion yr atgyfeirir iddo, unrhyw ganllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi a'r angen sydd ar aelodau proffesiynol o'r tîm ICiD am gymorth gweinyddol.

Mae rheoliad 4 yn nodi'r swyddogaethau y mae'n rhaid i fwrdd ICiD eu cyflawni er mwyn cyrraedd ei amcanion fel a nodir yn adran 62(1) o Fesur 2010.

Mae rheoliad 5 yn dirymu Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1690) (Cy.159).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â chostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu dwyn i rym mae adran 57 o Fesur 2010 mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources