- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD MEDDWL, CYMRU
Gwnaed
9 Mai 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Mai 2012
Yn dod i rym
2 Mehefin 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 64H(2) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 2 Mehefin 2012.
2.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 40 (tystysgrifau ar gyfer rhoi triniaeth)—
(a)ym mharagraff (4) ar ôl “Ffurflen CO 7” mewnosoder “ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys”; a
(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(5) Pan fo awdurdod i roi triniaeth i glaf yn rhinwedd adrannau 64C(2)(a) neu 64E(6)(a), rhaid i'r dystysgrif sy'n ofynnol at ddibenion adrannau 64B(2)(b) a 64E(2)(b) fod ar y ffurf a osodir yn Ffurflen CO 8.”
(3) Yn Atodlen 1 (ffurflenni)—
(a)yn Ffurflen HO 15 (Deddf Iechyd Meddwl 1983 adran 20 — adnewyddu'r awdurdod i roi dan gadwad)—
(i)yn Rhan 2 ar ôl “from the Responsible Clinician” mewnosoder “. This Part to be completed following consultation with the Responsible Clinician”, a
(ii)yn Rhan 3 ar ôl “the Responsible Clinician” mewnosoder “following the completion of Part 2”;
(b)yn Ffurflen CP 1 (Deddf Iechyd Meddwl 1983 adran 17A — gorchymyn triniaeth gymunedol), Rhan 1 amod 2—
(i)ar ôl “Part 4A” mewnosoder “that falls within section 64C(4)”, a
(ii)ar ôl “in the patient’s case” mewnosoder “(SOAD Part 4A Certificate)”;
(c)yn Ffurflen CP 5 (Deddf Iechyd Meddwl 1983 adran 17E — hysbysiad am alw'n ôl i'r ysbyty), Rhan 2 paragraff (b), ar ôl “enabling a” mewnosoder “SOAD”;
(d)yn Ffurflen TC 8 (Deddf Iechyd Meddwl 1983 Rhan 6 — trosglwyddo claf sy'n ddarostyngedig i orfodaeth yn y gymuned) Rhan 1 amod 4, yn lle “Part 4A of the Act the patient’s case” rhodder “Part 4A that falls within section 64C(4) of the Act in the patient’s case (SOAD Part 4A Certificate)”;
(e)ym mhennawd Ffurflen CO 7 yn lle “(Part 4A Certificate)” rhodder “(SOAD Part 4A Certificate)”; ac
(f)ar ôl Ffurflen CO 7 mewnosoder—
Regulation 40(5)
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Mai 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/2439 (Cy.212)) (“Rheoliadau 2008”).
Diwygiodd adran 299 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (tystysgrif cydsynio cleifion cymunedol i driniaeth) adrannau 64C a 64E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 er mwyn amrywio'r gofyniad am dystysgrif pan fo gallu gan y claf i gydsynio i driniaeth a'i fod wedi cydsynio iddi. Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 40 o Reoliadau 2008 er mwyn adlewyrchu hyn ac y mae rheoliad 2(3) yn gwneud diwygiadau i ffurflenni sydd yn yr Atodlen i Reoliadau 2008 ac yn mewnosod ffurflen newydd, sef Ffurflen CO 8.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: