Search Legislation

Gorchymyn Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 849 (Cy.126) (C.34)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011

Gwnaed

17 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 18(3) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw' r Gorchymyn hwn yw the Gorchymyn Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010.

Y diwrnod penodedig

2.  18 Mawrth 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau'r Mesur, a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2011

Erthygl 2

YR ATODLENDARPARIAETHAU MESUR CODI FFIOEDD AM WASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL (CYMRU) 2010 A DDAW I RYM AR 18 MAWRTH 2011

DarpariaethPwnc
Adran 1Pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal
Adran 2Uchafswm y ffioedd
Adran 3Personau a gwasanaethau na chaniateir gosod ffioedd ynglŷn â hwy
Adran 4Gwahoddiad i ofyn am asesiad modd
Adran 5Dyletswydd i gynnal asesiad modd
Adran 6Amodau sy'n arwain at y ddyletswydd i gynnal asesiad modd
Adran 7Penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu
Adran 8Effaith penderfyniadau sy'n ymwneud â'r gallu i dalu
Adran 9Awdurdod yn disodli penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu
Adran 10Darparu gwybodaeth am ffioedd
Adran 11Adolygu penderfyniadau ar godi ffioedd
Adran 12Taliadau uniongyrchol
Adran 13Gwasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt
Adran 14Diwygiadau i Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983
Adran 15Diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970
Adran 16Diwygio Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn cychwyn adrannau 1 i 16 (yn gynwysedig) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 (“y Mesur”) o 18 Mawrth 2011 ymlaen (“y diwrnod penodedig”).

Daeth adrannau 17, 18 a 19 i rym yn unol ag adran 18(2) o'r Mesur, sef o 17 Mai 2010 ymlaen (dau fis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).

Ar y diwrnod penodedig, bydd pob adran o'r Mesur mewn grym.

Mae effaith darpariaethau'r Mesur a ddygir i rym ar 18 Mawrth 2011 fel a ganlyn:

  • mae adran 1 yn darparu y caiff awdurdod lleol yng Nghymru osod ffi o ba bynnag swm a ystyria'n rhesymol am ddarparu gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano. Mae'r pŵer hwn yn ddarostyngedig i nifer o ddarpariaethau deddfwriaethol a bennir yn adran 1(3). Mae adran 1 yn darparu hefyd bod gan awdurdod lleol y pŵer i adennill ffi a osodir o dan yr adran hon, ac y caniateir ei hadennill felly yn ddiannod fel dyled sifil;

  • mae adran 2 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol, wrth ystyried pa ffi sy'n rhesymol am wasanaeth y caniateir codi ffi amdano, yn gweithredu yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ac yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i gadw rheolaeth neu gyfyngu ar yr hyn a fydd yn ffi resymol;

  • mae adran 3 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n eithrio o'r gyfundrefn codi ffioedd rai personau neu wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt;

  • mae adran 4 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i wahodd defnyddiwr gwasanaeth, neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth, i ofyn am asesiad modd pan fo'r awdurdod yn cynnig gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano i'r person hwnnw. Mae'n rhoi pŵer hefyd i Weinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau ffurf a chynnwys gwahoddiadau o'r fath a'r modd y'u gwneir. Mae'n darparu hefyd na chaiff awdurdod lleol osod neu newid ffi yn unol ag adran 1(1) o'r Mesur oni fydd gwahoddiad i ofyn am asesiad modd wedi ei roi, y cyfryw asesiad wedi ei gynnal neu'i wrthod, a phenderfyniad wedi ei wneud ynghylch gallu person i dalu ffi;

  • mae adran 5 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth pan fodlonir yr amodau a bennir yn adran 6, ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â'r modd y mae'n rhaid cynnal asesiadau modd. Mae adran 5 hefyd yn pennu'r amgylchiadau pan nad oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad modd, ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn rheoliadau i bennu amgylchiadau ychwanegol;

  • mae adran 6 yn pennu'r amodau sy'n arwain at y ddyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad modd ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n pennu pwy gaiff wneud cais am asesiad modd neu ddarparu gwybodaeth ariannol ar ran defnyddiwr gwasanaeth neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth;

  • mae adran 7 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol, yng ngoleuni asesiad modd, yn penderfynu a yw'n rhesymol ymarferol i ddefnyddiwr gwasanaeth dalu'r ffi safonol ai peidio; os nad yw, rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu pa swm (os oes un) y mae'n rhesymol ymarferol i'r person hwnnw ei dalu. Mae'n gwneud yn ofynnol hefyd bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (1) o adran 7 yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • mae adran 8 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn rhoi effaith i unrhyw benderfyniad a wneir ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth i dalu am wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r dyddiad y bydd penderfyniad o'r fath (neu benderfyniad amnewidiol) yn cael effaith ohono;

  • mae adran 9 yn caniatáu i awdurdod lleol ddisodli penderfyniad gyda phenderfyniad newydd os yw un o'r amodau a bennir yn is-adran (4) yn gymwys, a hynny i'r graddau y bernir yn briodol gan yr awdurdod;

  • mae adran 10 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn darparu gwybodaeth i rai sy'n cael, neu a allai gael, gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano, ac i'r rhai y bydd yn penderfynu codi ffioedd arnynt; mae'n gwneud darpariaeth ynglŷn â'r fformat y caniateir darparu gwybodaeth o'r fath ynddo ac yn pennu bod rhaid darparu'r wybodaeth honno'n ddi-dâl;

  • mae adran 11 yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau gan Weinidogion Cymru ynglŷn â'r trefniadau y mae'n ofynnol bod awdurdod lleol yn eu gwneud i adolygu penderfyniadau ar godi ffioedd;

  • mae adran 12 yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i unigolyn o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2011, ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â thaliadau uniongyrchol sy'n cyfateb i'r ddarpariaeth a wneir, neu y gellir ei gwneud, o dan adrannau 1 i 11 o'r Mesur;

  • mae adran 13(2) yn cynnwys rhestr o wasanaethau ac adran 13(1) yn darparu mai “gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano”, at ddibenion y Mesur, yw gwasanaeth sy'n dod o fewn y rhestr hon. Mae adran 13(3) yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchmynion i ychwanegu, diwygio neu dynnu ymaith ddisgrifiad o wasanaeth yn adran 13(2);

  • mae adrannau 14 i 16 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources