Gorchymyn Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw' r Gorchymyn hwn yw the Gorchymyn Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010.
Y diwrnod penodedig2.
18 Mawrth 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau'r Mesur, a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
YR ATODLENDARPARIAETHAU MESUR CODI FFIOEDD AM WASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL (CYMRU) 2010 A DDAW I RYM AR 18 MAWRTH 2011
Darpariaeth | Pwnc |
|---|---|
Adran 1 | Pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal |
Adran 2 | Uchafswm y ffioedd |
Adran 3 | Personau a gwasanaethau na chaniateir gosod ffioedd ynglŷn â hwy |
Adran 4 | Gwahoddiad i ofyn am asesiad modd |
Adran 5 | Dyletswydd i gynnal asesiad modd |
Adran 6 | Amodau sy'n arwain at y ddyletswydd i gynnal asesiad modd |
Adran 7 | Penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu |
Adran 8 | Effaith penderfyniadau sy'n ymwneud â'r gallu i dalu |
Adran 9 | Awdurdod yn disodli penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu |
Adran 10 | Darparu gwybodaeth am ffioedd |
Adran 11 | Adolygu penderfyniadau ar godi ffioedd |
Adran 12 | Taliadau uniongyrchol |
Adran 13 | Gwasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt |
Adran 14 | Diwygiadau i Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 |
Adran 15 | Diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 |
Adran 16 | Diwygio Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 |
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn cychwyn adrannau 1 i 16 (yn gynwysedig) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 (“y Mesur”) o 18 Mawrth 2011 ymlaen (“y diwrnod penodedig”).
Daeth adrannau 17, 18 a 19 i rym yn unol ag adran 18(2) o'r Mesur, sef o 17 Mai 2010 ymlaen (dau fis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).
Ar y diwrnod penodedig, bydd pob adran o'r Mesur mewn grym.
Mae effaith darpariaethau'r Mesur a ddygir i rym ar 18 Mawrth 2011 fel a ganlyn:
mae adran 1 yn darparu y caiff awdurdod lleol yng Nghymru osod ffi o ba bynnag swm a ystyria'n rhesymol am ddarparu gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano. Mae'r pŵer hwn yn ddarostyngedig i nifer o ddarpariaethau deddfwriaethol a bennir yn adran 1(3). Mae adran 1 yn darparu hefyd bod gan awdurdod lleol y pŵer i adennill ffi a osodir o dan yr adran hon, ac y caniateir ei hadennill felly yn ddiannod fel dyled sifil;
mae adran 2 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol, wrth ystyried pa ffi sy'n rhesymol am wasanaeth y caniateir codi ffi amdano, yn gweithredu yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ac yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i gadw rheolaeth neu gyfyngu ar yr hyn a fydd yn ffi resymol;
mae adran 3 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n eithrio o'r gyfundrefn codi ffioedd rai personau neu wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt;
mae adran 4 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i wahodd defnyddiwr gwasanaeth, neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth, i ofyn am asesiad modd pan fo'r awdurdod yn cynnig gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano i'r person hwnnw. Mae'n rhoi pŵer hefyd i Weinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau ffurf a chynnwys gwahoddiadau o'r fath a'r modd y'u gwneir. Mae'n darparu hefyd na chaiff awdurdod lleol osod neu newid ffi yn unol ag adran 1(1) o'r Mesur oni fydd gwahoddiad i ofyn am asesiad modd wedi ei roi, y cyfryw asesiad wedi ei gynnal neu'i wrthod, a phenderfyniad wedi ei wneud ynghylch gallu person i dalu ffi;
mae adran 5 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth pan fodlonir yr amodau a bennir yn adran 6, ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â'r modd y mae'n rhaid cynnal asesiadau modd. Mae adran 5 hefyd yn pennu'r amgylchiadau pan nad oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad modd, ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn rheoliadau i bennu amgylchiadau ychwanegol;
mae adran 6 yn pennu'r amodau sy'n arwain at y ddyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad modd ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n pennu pwy gaiff wneud cais am asesiad modd neu ddarparu gwybodaeth ariannol ar ran defnyddiwr gwasanaeth neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth;
mae adran 7 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol, yng ngoleuni asesiad modd, yn penderfynu a yw'n rhesymol ymarferol i ddefnyddiwr gwasanaeth dalu'r ffi safonol ai peidio; os nad yw, rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu pa swm (os oes un) y mae'n rhesymol ymarferol i'r person hwnnw ei dalu. Mae'n gwneud yn ofynnol hefyd bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (1) o adran 7 yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
mae adran 8 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn rhoi effaith i unrhyw benderfyniad a wneir ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth i dalu am wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r dyddiad y bydd penderfyniad o'r fath (neu benderfyniad amnewidiol) yn cael effaith ohono;
mae adran 9 yn caniatáu i awdurdod lleol ddisodli penderfyniad gyda phenderfyniad newydd os yw un o'r amodau a bennir yn is-adran (4) yn gymwys, a hynny i'r graddau y bernir yn briodol gan yr awdurdod;
mae adran 10 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn darparu gwybodaeth i rai sy'n cael, neu a allai gael, gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano, ac i'r rhai y bydd yn penderfynu codi ffioedd arnynt; mae'n gwneud darpariaeth ynglŷn â'r fformat y caniateir darparu gwybodaeth o'r fath ynddo ac yn pennu bod rhaid darparu'r wybodaeth honno'n ddi-dâl;
mae adran 11 yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau gan Weinidogion Cymru ynglŷn â'r trefniadau y mae'n ofynnol bod awdurdod lleol yn eu gwneud i adolygu penderfyniadau ar godi ffioedd;
mae adran 12 yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i unigolyn o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2011, ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â thaliadau uniongyrchol sy'n cyfateb i'r ddarpariaeth a wneir, neu y gellir ei gwneud, o dan adrannau 1 i 11 o'r Mesur;
mae adran 13(2) yn cynnwys rhestr o wasanaethau ac adran 13(1) yn darparu mai “gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano”, at ddibenion y Mesur, yw gwasanaeth sy'n dod o fewn y rhestr hon. Mae adran 13(3) yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchmynion i ychwanegu, diwygio neu dynnu ymaith ddisgrifiad o wasanaeth yn adran 13(2);
mae adrannau 14 i 16 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol.