- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2011.
2. Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Ebrill 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”) yw corff llywodraethu sefydliad Ewropeaidd neu gorff arall i sefydliad Ewropeaidd sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;
ystyr “Canolfan Bologna” (“Bologna Center”) yw'r ysgol i raddedigion mewn cysylltiadau rhyngwladol a sefydlwyd gan Brifysgol Johns Hopkins yn Bologna;
ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy'n gwneud cais am gymorth yn unol â rheoliad 4;
ystyr “Coleg Ewrop” (“College of Europe”) yw athrofa brifysgol astudiaethau a hyfforddiant ôl-raddedig mewn materion Ewropeaidd yn Bruges yng Ngwlad Belg ac yn Natolin yng Ngwlad Pwyl;
ystyr “cwrs cyfredol” (“current course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth ar ei gyfer;
ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw:
cwrs ôl-raddedig neu gwrs cyffelyb sy'n para am o leiaf ddwy flwyddyn academaidd;
y cafodd y ceisydd ddyfarniad statudol ar ei chyfer am o leiaf ddwy flwyddyn academaidd (heblaw dyfarniad y bwriedir iddo gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol y bu'n ofynnol i'r ceisydd ei ysgwyddo mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs oherwydd anabledd sydd neu a oedd gan y ceisydd);
mae i “cwrs dynodedig” (“designated course”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
ystyr “cymorth” (“support”) yw cymorth ariannol ar ffurf grant a roddir gan Weinidogion Cymru yn unol â'r Rheoliadau hyn;
ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig y mae'r cais am gymorth yn ymwneud â hi;
ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth tebyg arall a ddarperir yn rhinwedd Deddf 1998, neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth ariannol arall mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs sy'n cael ei dalu o'r cronfeydd cyhoeddus;
ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(1), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(2), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980(3) a rheoliadau a wnaed o dan y Deddfau hynny neu'r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(4) a rheoliadau a wnaed o dan y Gorchymyn hwnnw neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1998;
ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(5) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(6);
ystyr “grantiau at gostau byw a chostau eraill” (“grants for living and other costs”) yw'r grantiau a bennir ac a gyfrifir yn unol â rheoliadau 19 i 26;
mae i “myfyriwr yng Nghanolfan Bologna” (“Bologna Center student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 13(1);
mae i “myfyriwr yng Ngholeg Ewrop” (“College of Europe student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 13(2);
mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6;
ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“P” yn y diffiniad hwn)—
a hysbyswyd gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur;
y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
y mae cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros heb ddod i ben neu y mae wedi'i adnewyddu ac nad yw'r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(7)) mewn perthynas â'i hawl i ddod i mewn neu i aros; ac
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan roddwyd caniatâd i P ddod i mewn neu i aros;
ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol neu warcheidwad neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn neu sydd â gofal dros blentyn;
ystyr “sefydliad Ewropeaidd” (“European institution”) yw naill ai Canolfan Bologna neu Goleg Ewrop;
ystyr “Undeb Ewropeaidd” (“European Union”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o bryd i'w gilydd.
(2) Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a'r Rheoliadau hyn os yw—
(a)yn dechrau ar 1 Medi 2011 neu wedyn;
(b)yn gwrs ôl-raddedig amser-llawn neu'n gwrs cyffelyb;
(c)yn para am un flwyddyn academaidd; ac
(ch)yn cael ei ddarparu gan sefydliad Ewropeaidd.
4.—(1) Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am gymorth ar gyfer un flwyddyn academaidd mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Rhaid i geisydd gyflwyno cais i Weinidogion Cymru i gael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys ac am gymorth ar unrhyw ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf yn union cyn y dyddiad perthnasol (“y dyddiad cau i wneud cais”).
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol y dylai'r dyddiad cau i wneud cais gael ei lacio, pryd y bydd rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag unrhyw ddyddiad a bennir ganddynt mewn ysgrifen i'r ceisydd o dan sylw.
5. Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau na fydd nifer y dyfarniadau a roddir ar unrhyw un adeg mewn blwyddyn academaidd o dan y Rheoliadau hyn yn fwy na'r canlynol—
(a)un, yn achos Canolfan Bologna;
(b)un, yn achos Coleg Ewrop.
6.—(1) Caniateir i gymorth gael ei ddyfarnu i fyfyriwr cymwys am un flwyddyn academaidd mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliad 7, mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu, wrth asesu cais y person am gymorth, fod y person yn syrthio o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 1 a naill ai—
(a)bod awdurdod academaidd Coleg Ewrop yn hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen fod gan y person obaith rhesymol o gael cynnig lle ar y cwrs hwnnw gan Goleg Ewrop; neu
(b)bod awdurdod academaidd Canolfan Bologna yn enwebu'r person hwnnw i gael cymorth mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru.
(3) Nid yw person (“S”) yn fyfyriwr cymwys—
(a)os yw S, yn ddarostyngedig i baragraff (4), wedi bod yn bresennol ar gwrs cymhwysol;
(b)os yw S wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c)os yw S wedi cyrraedd 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag S pan oedd S o dan 18 oed; neu
(ch)os yw S, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ymddygiad S nad yw S yn addas i gael cymorth.
(4) Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru'n penderfynu, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau penodol achos S, ei bod yn briodol dyfarnu cymorth i S mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol er gwaethaf y ffaith bod S wedi bod yn bresennol ar gwrs cymhwysol.
(5) At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(6) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, mae paragraff (3)(c) yn gymwys dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—
(a)cyn 25 Medi 1991;
(b)gyda chydsyniad curadur S neu ar adeg pan nad oedd gan S guradur.
7.—(1) Daw statws person fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig (“cymhwystra'r myfyriwr”) i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y cafodd y cymorth ei ddyfarnu ar ei chyfer neu yn gynt yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Daw cymhwystra'r myfyriwr i ben pan fydd y myfyriwr—
(a)yn tynnu'n ôl o'r cwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'n ofynnol i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 8(1); neu
(b)yn rhoi'r gorau i'r cwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(3) Daw cymhwystra myfyriwr i ben ar y diwrnod cyn y dyddiad perthnasol—
(a)os penderfynodd Gweinidogion Cymru fod person (“T” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ffoadur neu'n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llys-blentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr un sefydliad Ewropeaidd y mae statws T fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b)os yw statws ffoadur T neu briod, partner sifil, rhiant neu lys-riant T, yn ôl fel y digwydd, i ddod i ben cyn y dyddiad perthnasol ac nad oes rhagor o ganiatâd i aros wedi'i roi, ar y diwrnod cyn y dyddiad perthnasol ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(4) Daw cymhwystra myfyriwr i ben ar y diwrnod cyn y dyddiad perthnasol—
(a)os penderfynodd Gweinidogion Cymru fod person (“U” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr un sefydliad Ewropeaidd y mae statws U fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b)os yw'r cyfnod pan ganiateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i ddod i ben cyn y dyddiad perthnasol ac, ar y diwrnod cyn y dyddiad perthnasol, nad oes rhagor o ganiatâd i aros wedi'i roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(5) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cymhwystra'r myfyriwr os ydynt wedi'u bodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos nad yw'r myfyriwr yn addas i gael cymorth.
(6) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw ystyr berthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu fwy o'r canlynol—
(a)terfynu cymhwystra'r myfyriwr;
(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw fath neu swm penodol o gymorth;
(c)trin unrhyw gymorth sydd eisoes wedi'i dalu i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill yn unol â rheoliad 32.
8.—(1) Pan fydd myfyriwr cymwys yn trosglwyddo yn ystod y flwyddyn academaidd o gwrs dynodedig i gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i'r cwrs arall hwnnw—
(a)os cânt gais gan y myfyriwr i wneud hynny;
(b)os ydynt wedi'u bodloni bod y myfyriwr wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs arall hwnnw ar argymhelliad yr awdurdod academaidd; ac
(c)os nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu fel arall.
(2) Mae gan fyfyriwr y mae ei statws fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo o dan baragraff (1) hawl i gael gweddill y cymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.
(3) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (2) pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo o gwrs dynodedig i gwrs dynodedig arall, nid yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn trosglwyddo ac nid oes gan y myfyriwr hawl i gael gweddill unrhyw gymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.
9. Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu bod eu hangen er mwyn penderfynu—
(a)a yw ceisydd yn fyfyriwr cymwys;
(b)a oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth;
(c)swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl;
(ch)a yw cymhwystra myfyriwr wedi terfynu;
(d)swm cyfraniad myfyriwr yng Ngholeg Ewrop at ddibenion Rhan 5.
10.—(1) Rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys y rhoddir cymorth iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a dogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Pan fo'n gymwys rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys y rhoddir cymorth iddo roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi'r manylion i Weinidogion Cymru os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—
(a)bod y person yn tynnu'n ôl o'r cwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;
(b)bod y person yn trosglwyddo i gwrs arall yn yr un sefydliad Ewropeaidd;
(c)bod y person yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef neu na chaniateir iddo barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(ch)bod y person yn absennol o'r cwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(d)bod y mis ar gyfer dechrau'r cwrs neu ei gwblhau yn newid;
(dd)bod cyfeiriad gartref y person neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor yn newid.
11.—(1) Rhaid i'r wybodaeth y mae'n ofynnol ei rhoi yn unol â'r Rheoliadau hyn gael ei rhoi i Weinidogion Cymru yn y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru.
(2) Os bydd Gweinidogion Cymru'n gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, gall llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru fodloni'r gofyniad hwn.
(3) Llofnod electronig (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig sydd—
(a)wedi'i ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi'i gysylltu yn rhesymegol â hwy; a
(b)yn honni ei fod wedi'i ymgorffori neu wedi'i gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i sefydlu bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau.
12. Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu ceisydd—
(a)a fernir bod y ceisydd hwnnw'n fyfyriwr cymwys;
(b)ynglŷn â swm y cymorth sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd o dan sylw, os oes cymorth yn daladwy o gwbl;
(c)a yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod cymhwystra myfyriwr wedi terfynu;
(ch)ynglŷn â swm unrhyw gyfraniad gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop a gyfrifwyd o dan Atodlen 2.
13.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddyfarnu cymorth i un myfyriwr cymwys ar unrhyw un adeg sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghanolfan Bologna (“myfyriwr yng Nghanolfan Bologna”).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddyfarnu cymorth i un myfyriwr cymwys ar unrhyw un adeg mewn blwyddyn academaidd sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Ngholeg Ewrop (“myfyriwr yng Ngholeg Ewrop”).
(3) Os bydd mwy nag un myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth ar gyfer yr un flwyddyn academaidd a'r un sefydliad Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru (os ydynt wedi penderfynu dyfarnu cymorth) ddyfarnu'r cymorth hwnnw i p'run bynnag o'r ceiswyr a wnaeth gais gyntaf mewn pryd i'r sefydliad Ewropeaidd dan sylw.
(4) Pan fo mwy nag un myfyriwr cymwys yn gwneud cais ar yr un diwrnod ar gyfer yr un flwyddyn academaidd a'r un sefydliad Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru (os ydynt wedi penderfynu dyfarnu cymorth) ddyfarnu'r cymorth hwnnw i p'run bynnag o'r myfyrwyr cymwys y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai ef sy'n fwyaf addas i gael cymorth.
14.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu dyfarnu cymorth o dan reoliad 13(1), rhaid iddynt ddyfarnu grant at ffioedd yn unol â Phennod 2.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu dyfarnu cymorth o dan reoliad 13(2), yn ddarostyngedig i reoliad 29 rhaid iddynt ddyfarnu—
(a)grant at ffioedd yn unol â Phennod 3; a
(b)grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 4.
15.—(1) Nid oes gan fyfyriwr cymwys mewn sefydliad Ewropeaidd hawl i gael unrhyw gymorth ar gyfer blwyddyn o ailadrodd astudiaethau.
(2) ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” (“year of repeat study”) yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi ymgymryd â hi o'r blaen ond y mae'r sefydliad Ewropeaidd yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr ymgymryd â hi eto.
16.—(1) Mae gan fyfyriwr yng Nghanolfan Bologna hawl i gael grant at ffioedd ar gyfer un flwyddyn academaidd o gwrs dynodedig a gyfrifir yn unol â pharagraff (2).
(2) Swm y grant at ffioedd sy'n daladwy i fyfyriwr yng Nghanolfan Bologna ar gyfer un flwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs dynodedig yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall mewn cysylltiad ag ef, yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Uchafswm y grant at ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn yw 28,200 ewro.
17.—(1) Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at ffioedd ar gyfer un flwyddyn academaidd o gwrs dynodedig a gyfrifir yn unol â pharagraff (2).
(2) Swm y grant at ffioedd sy'n daladwy i fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop ar gyfer un flwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs dynodedig yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall mewn cysylltiad ag ef, yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Uchafswm y grant at ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn yw 14,000 ewro.
18.—(1) Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop y dyfernir cymorth iddo (“myfyriwr” yn y Bennod hon) hawl i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y Bennod hon os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(2) Caniateir i'r swm sy'n daladwy ar gyfer unrhyw rai o'r grantiau at gostau byw a chostau eraill heblaw'r lwfans myfyrwyr anabl a'r grant ar gyfer dibynyddion y darperir ar eu cyfer yn rheoliadau 23 i 26, gael ei ostwng yn unol â Rhan 5.
19. Mae gan fyfyriwr hawl i gael grant at gostau byw sy'n swm sydd yn hafal i swm (A + B)
lle—
mae A yn £2,463; a
B yn £50 am bob wythnos y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yng Ngholeg Ewrop uwchlaw 30 wythnos a 3 diwrnod, gan gynnwys wythnos pan fo'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yng Ngholeg Ewrop am lai na 5 diwrnod.
20. Mae gan fyfyriwr hawl i gael uchafswm grant at fwrdd a llety o hyd at 7,000 ewro.
21.—(1) Mae gan fyfyriwr hawl i gael grant i deithio adref sy'n swm sydd yn hafal I (A − B)
lle—
A yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mai dyna gost tair siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i Goleg Ewrop; a
B yw £102.
(2) Mae gan fyfyriwr hawl i gael grant at deithio colegol am unrhyw swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio i Goleg Ewrop o gyfeiriad y myfyriwr yn ystod y tymor.
(3) Yn ddarostyngedig i gytundeb ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru cyn i gostau gael eu hysgwyddo, mae gan fyfyriwr hawl i gael grant i deithio ar gyfer ymchwil am unrhyw swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i hysgwyddo er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan Goleg Ewrop yn ystod y flwyddyn academaidd y dyfernir cymorth ar ei chyfer.
22.—(1) Mae gan fyfyriwr hawl i gael lwfans myfyrwyr anabl i gynorthwyo gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod rhaid i'r myfyriwr ei ysgwyddo mewn cysylltiad â'r myfyriwr yn ymgymryd â chwrs dynodedig oherwydd anabledd sydd gan y myfyriwr.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y lwfans myfyriwr anabl yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr i gynorthwyo gydag un neu fwy o'r mathau o wariant cymwys a ddisgrifir ym mharagraff (4).
(3) Rhaid i swm lwfans myfyriwr anabl beidio â bod yn fwy na £10,260 ar gyfer y flwyddyn academaidd.
(4) Dyma'r mathau o wariant cymwys—
(a)gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b)gwariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;
(c)unrhyw wariant ychwanegol a ysgwyddir—
(i)yn y wlad y lleolir Coleg Ewrop ynddi er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad; a
(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn teithio i Goleg Ewrop er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs cyfredol.
23.—(1) Mae'r grant i ddibynyddion yn cynnwys yr elfennau a ganlyn—
(a)grant dibynyddion mewn oed; a
(b)lwfans dysgu rhieni.
(2) Nodir amodau hawlio pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 24 i 26.
24.—(1) Mae gan fyfyriwr hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â dibynnydd i fyfyriwr sydd naill ai—
(a)yn bartner i'r myfyriwr; neu
(b)yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr lle nad yw incwm trethadwy'r myfyriwr yn fwy na £3,801.
(3) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 26, a'r swm sylfaenol yw—
(a)£2,647; neu
(b)os yw'r person y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad ag ef yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,647 sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
25.—(1) Mae gan fyfyriwr hawl mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o blant dibynnol.
(2) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy ar gyfer blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 26, a'r swm sylfaenol yw £1,508.
26.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau a ganlyn, y swm sy'n daladwy ar gyfer elfen benodol o'r grant i ddibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael o dan reoliadau 24 a 25 yw swm yr elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A minws B) fel a ganlyn ac yn y drefn a ganlyn er mwyn gostwng swm sylfaenol–
(a)y grant dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 24; a
(b)y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 25.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant i ddibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A minws B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni y mae gan y myfyriwr hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy ar gyfer pob elfen yw dim.
(4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o hanner—
(a)os yw partner y myfyriwr—
(i)yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i'w gael neu'r taliad y mae gan y person hawlogaeth i'w gael o dan y dyfarniad statudol.
(5) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn—
A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
B yw—
£1,159 os nad oes gan y myfyriwr blant dibynnol;
£3,473 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£4,632 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
£4,632 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£5,797 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
27.—(1) At ddibenion rheoliadau 24 i 26—
(a)ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr, yw oedolyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr, heblaw plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;
(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto ac sy'n ddibynnol ar y myfyriwr;
(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(ch)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(d)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr;
(dd)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol;
(e)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2) fel y gellir ei ostwng yn unol â pharagraff (3);
(f)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (ff) ac (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—
(i)priod;
(ii)partner sifil;
(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n briod i'r myfyriwr os oedd y myfyriwr hwnnw'n 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;
(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n bartner sifil i'r myfyriwr os oedd y myfyriwr hwnnw'n 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;
(ff)at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;
(g)at ddibenion diffinio “plentyn” a “rhiant unigol”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person yn preswylio fel arfer gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;
(ng)mae i “blwyddyn ariannol flaenorol” (“prior financial year”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1(1) o Atodlen 2.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm trethadwy y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn ariannol flaenorol wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—
(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(8);
(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(9);
(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989(10);
(dd)unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(11);
(e)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno(12); ac
(f)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(13).
(3) Os yw partner myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn y dyddiad perthnasol, incwm net partner y myfyriwr yw'r incwm trethadwy wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl—
(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os yw'r rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi'i hysgwyddo'n rhesymol; neu
(b)unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol, ym marn Gweinidogion Cymru.
(4) At ddibenion paragraff (2), mae taliadau i gael eu trin fel incwm i'r plentyn—
(a)os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol; a
(b)os yw'r taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn.
28. Cyfraniad myfyriwr yng Ngholeg Ewrop ar gyfer blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 2, os oes unrhyw swm o gwbl.
29. Rhaid i gyfraniad y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop gael ei gymhwyso er mwyn gostwng neu ddileu symiau'r grantiau at gostau byw a chostau eraill y byddai gan y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawlogaeth i'w cael fel arall yn y drefn a ganlyn—
(a)grant y myfyriwr at gostau byw a gyfrifir o dan reoliad 19;
(b)swm y grant dibynyddion mewn oed, os oes un, a gyfrifir yn unol â rheoliad 24;
(c)swm y lwfans dysgu rhieni, os oes un, a gyfrifir yn unol â rheoliad 25;
(ch)swm y grant at fwrdd a llety, os oes un, yn unol â rheoliad 20;
(d)swm y grant at deithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 21(1);
(dd)swm y grant at deithio colegol yn unol â rheoliad 21(2);
(e)swm y grant at deithio ar gyfer ymchwil a gyfrifir yn unol â rheoliad 21(3).
30.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant at ffioedd a ddyfarnwyd i geisydd nes eu bod wedi cael cais dilys am y taliad oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau'r grant at ffioedd i'r awdurdod academaidd mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau o gwbl) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol.
31.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grantiau at gostau byw a chostau eraill i fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau o gwbl) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, dalu'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 20 (grant at fwrdd a llety) i'r awdurdod academaidd perthnasol er mwyn i'r awdurdod academaidd dalu'r grant perthnasol ar eu rhan.
(3) Os na all asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill sy'n daladwy i fyfyriwr gael ei wneud ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan geisydd, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o'r grantiau hynny hyd nes y ceir yr asesiad terfynol.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, wneud taliad o lwfans myfyrwyr anabl cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae'r taliad hwnnw'n ddyledus mewn perthynas â hi.
(5) Pan fo'r amgylchiadau yn rheoliad 10(2)(a) neu reoliad 10(2)(c) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud taliadau cymorth i fyfyriwr ar ôl y dyddiad y mae'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs oni bai eu bod yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan gymryd amgylchiadau achos y myfyriwr i ystyriaeth.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr sy'n absennol o'r cwrs—
(a)am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch; neu
(b)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall,
oni bai eu bod yn credu ei bod yn briodol i wneud hynny gan gymryd amgylchiadau achos y myfyriwr i ystyriaeth.
32.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y cymorth y mae gan y person hawlogaeth i'w gael o dan Ran 4.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2011
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: