- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
25.—(1) Caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) pan fo'r person hwnnw—
(a)yn ystyried bod gofyniad sgil-gynhyrchion anifeiliaid wedi ei dorri, neu fod methiant i gydymffurfio â'r gofyniad; neu
(b)yn rhesymol yn amau, o ganlyniad i dorri'r gofyniad hwnnw neu fethu â chydymffurfio ag ef, bod mangre yn peri risg i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid.
(2) Caniateir i hysbysiadau gael eu cyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre, neu i'r person sydd â gofal am y fangre—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i waredu ac, os yw'n gymwys, storio'r canlynol cyn ei waredu—
(i)sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid;
(ii)deunydd mewn mangre y mae paragraff (1)(b) yn gymwys iddi;
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i lanhau a diheintio mangre y mae paragraff (1)(b) yn gymwys iddi ac, os yw'n gymwys, pennu'r dull ar gyfer y glanhau a'r diheintio hwnnw;
(c)gwahardd sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid rhag y canlynol—
(i)cael eu symud neu eu cludo i mewn i'r fangre;
(ii)cael eu symud neu eu cludo i mewn i'r fangre oni wneir hynny'n unol ag amodau a bennir yn yr hysbysiad, gan gynnwys amod ynglŷn â chwblhau'n foddhaol y glanhau a'r diheintio yn unol â hysbysiad fel a ddarperir yn is-baragraff (b).
(3) Rhaid cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) a hynny ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff person awdurdodedig drefnu cydymffurfedd ag ef ar draul y person hwnnw.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo Erthygl 46(1) (ataliadau dros dro, tynnu'n ôl a gwaharddiadau ar weithrediadau) o Reoliad Rheolaeth yr UE yn gymwys.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: