Search Legislation

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal dydd (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “ADA” (“ISA”) yw Awdurdod Diogelu Annibynno(1));

  • ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy'n gwneud cais i Weinidogion Cymru i'w gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd yn unol â Rhan 2;

  • ystyr “darpariaeth chwarae mynediad agored” (“open access play provision”) yw darpariaeth o ofal dydd pan nad yw'n ofynnol—

    (a)

    trefnu ymlaen llaw gyda'r person cofrestredig i ddarparu gofal o'r fath; neu

    (b)

    bod y plant yn cael eu hebrwng gan riant neu berson cyfrifol arall i'r fangre berthnasol ac oddi yno;

  • mae i “darparu gofal dydd i blant” (“provides day care for children”) yr ystyr sydd i'r ymadrodd yn adran 19 o'r Mesur(2);

  • ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad a lunnir yn unol â rheoliad 15(1);

  • ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;

  • ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw mangre lle y mae person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant, neu, yn ôl fel y digwydd, mangre lle y darperir gofal dydd gan berson cofrestredig;

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

  • ystyr “person â chyfrifoldeb” (“person in charge”,) mewn perthynas â gofal dydd, yw'r unigolyn a benodir gan y person cofrestredig i ymgymryd â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am ddarparu gofal dydd yn y fangre;

  • ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd;

  • ystyr “plentyn perthnasol” (“relevant child”) yw plentyn y mae person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant mewn perthynas ag ef, neu, yn ôl fel y digwydd, plentyn y mae person cofrestredig yn darparu gofal dydd iddo;

  • ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(3);

  • ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004(4);

  • ystyr “safonau gofynnol cenedlaethol” (“national minimum standards”) yw'r safonau a bennir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 30(03) o'r Mesur(5);

  • ystyr “sefydliad” (“organisation”) yw corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforaethol;

  • ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) yw—

    (a)

    os oes swyddfa wedi ei phennu o dan baragraff (2) mewn perthynas ag unrhyw fangre, y swyddfa honno;

    (b)

    mewn unrhyw achos arall, unrhyw swyddfa a reolir gan Weinidogion Cymru;

  • mae i “Tribiwnlys Haen Cyntaf” (“First-tier Tribunal”) yr ystyr sydd i “First-tier Tribunal” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(6);

  • ystyr “tystysgrif cofnod troseddol fanylach” (“enhanced criminal record certificate”) yw tystysgrif cofnod troseddol fanylach a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(7), sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn cysylltiad â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno), ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio er pan ddyroddwyd y cyfryw;

  • ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”), mewn perthynas â darparu gofal dydd gan sefydliad—

    (a)

    sy'n gorff corfforaethol yw—

    (i)

    cyfarwyddwr;

    (ii)

    rheolwr;

    (iii)

    ysgrifennydd; neu

    (iv)

    swyddog arall;

    neu

    (b)

    sy'n gymdeithas anghorfforaethol, yw—

    (i)

    swyddog; neu

    (ii)

    aelod,

    o'r sefydliad hwnnw sy'n gyfrifol am oruchwylio'r ddarpariaeth o ofal dydd;

  • ystyr “wedi ei anghymhwyso” (“disqualified”) yw—

    (a)

    bod person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur, yn unol â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 (8); neu

    (b)

    bod person yn aelod o'r un aelwyd neu'n gyflogedig yn yr un aelwyd â pherson a anghymhwyswyd yn unol â pharagraff (a);

  • ystyr “ymholiadau amddiffyn plant” (“child protection enquiries”) yw unrhyw ymholiadau a gyflawnir gan awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a roddwyd gan neu o dan Ddeddf Plant 1989(9) mewn cysylltiad ag amddiffyn plant;

  • mae i “yn gweithredu fel gwarchodwr plant” (“acts as a child minder”) yr ystyr sydd i'r ymadrodd yn adran 19 o'r Mesur(10).

(2Caiff Gweinidogion Cymru bennu swyddfa a reolir ganddynt hwy fel y swyddfa briodol mewn perthynas â mangre berthnasol a leolir mewn ardal benodol yng Nghymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person pa un ai am dâl neu hebddo, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, neu rywfodd heblaw dan gontract, ac yn cynnwys caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a rhaid dehongli cyfeiriadau at berson a gyflogir yn unol â hynny.

(1)

Yr Awdurdod Diogelu Annibynnol yw enw gweithredol y Bwrdd Gwahardd Annibynnol, sef corff cyhoeddus anadrannol a sefydlwyd yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (2006 p.47).

(2)

Mae adran 19(4) o'r Mesur yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i ddarparu drwy orchymyn yr amgylchiadau pan nad yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant at ddibenion Rhan 2 o'r Mesur. Gweler Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

(3)

O.S. 2002/919 (Cy.107); gwnaed diwygiad perthnasol gan OS 2009/3265 (Cy.286).

(5)

Mae copïau o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(10)

Mae adran 19(4) o'r Mesur yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i ddarparu drwy orchymyn yr amgylchiadau pan nad yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant at ddibenion Rhan 2 o'r Mesur. Gweler Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources