- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
9 Ebrill 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Ebrill 2010
Yn dod i rym
12 Ebrill 2010
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ebrill 2010.
2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(3).
3.—(1) Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yng Ngholofn 2 o Dabl A yn Atodlen 1 (addasiadau i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn lle'r addasiad i baragraff (1A) o reoliad 53 (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf) o'r Rheoliadau hynny rhodder “Hepgorer paragraff 1A”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Ebrill 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu am dalu treuliau teithio a pheidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar, ymhlith pobl eraill, bersonau sydd ar incwm isel, drwy gyfeirio at derfynau ar eu hincwm a'u cyfalaf.
Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a thalu treuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
Mae Rheoliad 3 yn newid yr addasiad i reoliad 53 o Reoliadau 1987 drwy hepgor paragraff (1A). Yn gyffredinol, effaith hyn yw na fydd rhan o gyfalaf ceisyddion sy'n byw mewn mathau neilltuol o lety gofal preswyl, fel a bennir ym mharagraff (1B), yn cael ei thrin mwyach fel incwm at ddibenion cyfrifo hawl ceisyddion o dan y prif Reoliadau. Bydd y terfyn cyfalaf rhagnodedig (sy'n £22,000 ar hyn o bryd) yn dal i fod yn gymwys i'r cyfryw geisyddion.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 2007/1104 (Cy.116). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/1480 (Cy.153), 1879 a 2568 (Cy.226); a 2009/709 (Cy. 61).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: