2010 Rhif 1237 (Cy.107)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2010.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ebrill 2010.

Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 20073.

Diwygio Rheoliadau 20073.

(1)

Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yng Ngholofn 2 o Dabl A yn Atodlen 1 (addasiadau i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn lle'r addasiad i baragraff (1A) o reoliad 53 (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf) o'r Rheoliadau hynny rhodder “Hepgorer paragraff 1A”.

Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu am dalu treuliau teithio a pheidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar, ymhlith pobl eraill, bersonau sydd ar incwm isel, drwy gyfeirio at derfynau ar eu hincwm a'u cyfalaf.

Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a thalu treuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.

Mae Rheoliad 3 yn newid yr addasiad i reoliad 53 o Reoliadau 1987 drwy hepgor paragraff (1A). Yn gyffredinol, effaith hyn yw na fydd rhan o gyfalaf ceisyddion sy'n byw mewn mathau neilltuol o lety gofal preswyl, fel a bennir ym mharagraff (1B), yn cael ei thrin mwyach fel incwm at ddibenion cyfrifo hawl ceisyddion o dan y prif Reoliadau. Bydd y terfyn cyfalaf rhagnodedig (sy'n £22,000 ar hyn o bryd) yn dal i fod yn gymwys i'r cyfryw geisyddion.