Search Legislation

Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) (Diwygio) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1069 (Cy.100)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

25 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Mawrth 2010

Yn dod i rym

20 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), (26)(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) (Diwygio) 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Ebrill 2010.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2009” (“the 2009 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009(4).

Diwygio Rheoliadau 2009

3.—(1Diwygir Rheoliadau 2009 fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 (Tabl o'r cofnodion i'w rhoi yn lle'r cofnodion presennol yn Nhabl B (mwynau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) yn Atodlen 6, Rhan II, i Reoliadau Labelu Bwyd 1996), yng Ngholofn 2, gyferbyn â “Potassium” yng Ngholofn 1, yn lle “200 mg” rhodder “2000 mg”.

Gwenda Thomas

Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

25 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Ebrill 2010 ac y maent yn gymwys i Gymru. Maent yn cywiro gwall argraffyddol yn Atodlen 2 i Reoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2705 (Cy.224)).

(1)

1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.

(2)

Mae'r swyddogaethau a arferid gynt gan “y Gweinidogion” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn ymwneud, yn eu trefn, â bwyd ac iechyd yng Nghymru ac ag iechyd yn Lloegr, ac, o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau “y Gweinidogion”, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a throsglwyddwyd hwy wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Mae'r swyddogaethau hynny, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran yr Alban, wedi eu trosglwyddo i Weinidogion yr Alban gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (1998 p. 46) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(2) o Ddeddf 1999.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources