- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac, ag eithrio pan ddangosir yn wahanol, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr un ystyr ag sydd iddo yn y Ddeddf;
nid yw “gweithrediad masnachol” (“commercial operation”) yn cynnwys allforio;
ystyr “jeli cwpanau bach sydd dan reolaeth” (“controlled jelly mini-cups”) yw unrhyw jeli cwpanau bach sy'n cynnwys unrhyw un o'r ychwanegion bwyd perthnasol ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl;
ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2004/374/EC sy'n atal dros dro osod ar y farchnad a mewnforio jeli cwpanau bach sy'n cynnwys yr ychwanegion bwyd E400, E401, E402, E403, E404, E405, E406, E407, E407a, E410, E412, E413, E414, E415, E417 ac/neu E418(2); ac
ystyr “yr ychwanegion bwyd perthnasol” (“the relevant food additives”) yw'r ychwanegion bwyd E400: asid alginig; E401: sodiwm alginad; E402: potasiwm alginad; E403: amoniwm alginad: E404: calsiwm alginad; E405 propain 1,2-diol alginad E406: agar; E407: carragenan; E407a: gwymon euchema wedi'i brosesu; E410: gwm cnau carob; E412: gwm guar; E413; tragacanth; E414: gwm acasia; E415: gwm santhad; E417: gwm tara ac E418: gwm gelan.
(2) Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac ym Mhenderfyniad y Comisiwn yr un ystyr ag sydd iddo ym Mhenderfyniad y Comisiwn.
(3) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu neilltuo—
(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(3), i awdurdod iechyd porthladd;
(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(4), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig; neu
(c)drwy orchymyn o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985(5), i awdurdod sengl ar gyfer sir fetropolitanaidd,
mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u neilltuo felly iddo.
OJ Rhif L118, 23.4.2004, t.70.
1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
1936 p. 49; mae adran 6 i' w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
1985 p. 51; diwygiwyd adran 15(6) gan baragraff 31(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: