Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “asid” (“asid”) yw unrhyw sylwedd sy'n cynyddu asidedd bwyd a/neu'n rhoi iddo flas sur;

  • mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”), yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

  • ystyr “babanod” (“infants”) yw plant sydd o dan un flwydd oed;

  • ystyr “bwyd” (“food”) yw bwyd a werthir, neu y bwriedir ei werthu, i'w fwyta gan bobl, ac at ddibenion rheoliad 16 ac yn rheoliad 17, sy'n cynnwys lliw, melysydd ac ychwanegyn bwyd;

  • ystyr “bwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc” (“food for infants or young children”) yw bwyd o fewn cwmpas Erthygl 1.1, 2 a 3(c) o Gyfarwyddeb 09/39, ond sydd hefyd yn cynnwys unrhyw fwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc nad yw eu hiechyd yn dda;

  • ystyr “cadwolyn” (“preservative”) yw unrhyw sylwedd sy'n estyn oes silff bwyd drwy ei amddiffyn rhag dirywiad a achosir gan ficro-organebau;

  • mae i “cludydd” (“carrier”) a “toddydd cludo” (“carrier solvent”) yr ystyron, yn eu trefn, a roddir i “carrier” a “carrier solvent” yng Nghyfarwyddeb 95/2;

  • ystyr “codydd” (“raising agent”) yw unrhyw sylwedd neu gyfuniad o sylweddau sy'n rhyddhau nwy a thrwy hynny yn cynyddu cyfaint toes neu gytew;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 88/388 ”(“Directive 88/388”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 88/388/EEC ar ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynglŷn â chyflasynnau i'w defnyddio mewn bwydydd ac â deunyddiau crai ar gyfer eu cynhyrchu(1);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 94/35” (“Directive 94/3”) yw Cyfarwyddeb 94/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar felysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd(2);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 94/36” (“Directive 94/36”) yw Cyfarwyddeb 94/36/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar liwiau i'w defnyddio mewn bwydydd (3);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 95/2” (“Directive 95/2”) yw Cyfarwyddeb 95/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion(4);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 08/60” (“Directive 08/60”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/60/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ynglŷn â melysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd(5);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 08/84” (“Directive 08/84”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/84/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion(6);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 08/128” (“Directive 08/128”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/128/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer lliwiau i'w defnyddio mewn bwydydd(7);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 09/39” (“Directive 09/39”) yw Cyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwydydd i'w defnyddio at ddibenion maethol penodol (ail-luniwyd)(8);

  • mae i “cyflasyn” (“flavouring”) yr ystyr a roddir i “flavouring” yn Erthygl 1.2 o Gyfarwyddeb 88/388;

  • ystyr “cyfrwng ewynnu” (“foaming agent”) yw unrhyw sylwedd sy'n gwneud yn bosibl ffurfio gwasgariad homogenaidd o wedd nwyol yn bosibl mewn bwyd hylifol neu solid;

  • ystyr “cyfrwng gelio” (“gelling agent”) yw unrhyw sylwedd sy'n rhoi gwead i fwyd drwy ffurfio gel;

  • ystyr “cyfrwng gwrthdalpio” (“anti-caking agent”) yw unrhyw sylwedd sy'n lleihau tuedd gronynnau unigol o fwyd i lynu wrth ei gilydd;

  • ystyr “cyfrwng gwrthewynnu” (“anti-foaming agent”) yw unrhyw sylwedd sy'n atal neu'n lleihau ewynnu;

  • ystyr “cyfrwng sadio” (“firming agent”) yw unrhyw sylwedd sy'n gwneud neu'n cynnal meinweoedd ffrwythau neu lysiau mewn cyflwr cadarn neu gras, neu sy'n rhyngweithio â chyfrwng gelio i gynhyrchu neu gryfhau gel;

  • ystyr “cyfrwng sgleinio” (“glazing agent”) yw unrhyw sylwedd, pan osodir ef ar arwyneb allanol bwyd, sy'n rhoi gwedd loyw i'r bwyd neu'n darparu haen amddiffynnol, ac yn cynnwys ireidiau;

  • ystyr “cyfrwng swmpuso” (“bulking agent”) yw unrhyw sylwedd sy'n cyfrannu at gyfaint bwyd, heb gyfrannu'n sylweddol at yr ynni sydd ar gael ohono;

  • ystyr “cyfrwng trin blawd” (“flour treatment agent”) yw sylwedd a ychwanegir at flawd neu does i wella ei ansawdd ar gyfer pobi, ond nid yw'n cynnwys unrhyw emylsydd;

  • ystyr “cymhorthyn prosesu” (“processing aid”) yw unrhyw sylwedd, nas bwyteir fel bwyd ar ei ben ei hunan, a ddefnyddir yn fwriadol wrth brosesu deunyddiau crai, bwydydd neu'u cynhwysion i gyflawni diben technolegol penodol wrth drin neu brosesu, ac a allai achosi presenoldeb anfwriadol, ond technegol anochel, gweddillion o'r sylwedd neu'i ddeilliadau yn y cynnyrch terfynol, ond yn unig pan nad yw'r gweddillion hynny yn achosi unrhyw risg i iechyd nac yn cael unrhyw effaith dechnolegol ar y cynnyrch gorffenedig;

  • ystyr “darpariaeth Rheoliad 1333/2008 benodedig” (“specified Regulation 1333/2008 provision”) yw unrhyw ddarpariaeth o Reoliad 1333/2008 a nodir yn y golofn gyntaf o'r Atodlen ac y disgrifir ei bwnc yn ail golofn yr Atodlen honno;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “emylsydd” (“emulsifier”) yw unrhyw sylwedd sy'n gwneud yn bosibl ffurfio neu gynnal cymysgedd homogenaidd o ddwy neu ragor o weddau anghymysgadwy, megis olew a dŵr, mewn bwyd;

  • mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu ar gyfer gwerthu, a chynnig, dangos neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, a dehonglir “gwerthiant” (“sale” ) a “sold” (“gwerthwyd” ) yn unol â hynny;

  • ystyr “gwlybyrydd” (“humectant”) yw unrhyw sylwedd sy'n atal bwyd rhag sychu, drwy wrthweithio yn erbyn effaith lleithder isel yn yr awyrgylch, neu sy'n hyrwyddo ymdoddiad powdr mewn cyfrwng dyfrllyd;

  • ystyr “gwrthocsidydd” (“antioxidant”) yw unrhyw sylwedd sy'n estyn oes silff bwyd drwy ei amddiffyn rhag dirywiad a achosir gan ocsideiddio, gan gynnwys egrwydd braster a newidiadau o ran lliw;

  • ystyr “gyrrydd” (“propellant”) yw unrhyw nwy, ac eithrio aer, sy'n allyrru bwyd allan o gynhwysydd;

  • ystyr “halwyn emylsio” (“emulsifying salt”) yw unrhyw sylwedd sy'n trawsnewid y proteinau mewn caws i ffurf wasgaredig, a thrwy hynny greu dosbarthiad homogenaidd o'r braster a'r cydrannau eraill;

  • mae i “lliw” (“colour”) yr ystyr a roddir i “colour” yng Nghyfarwyddeb 94/36;

  • ystyr “lliw a ganiateir” (“permitted colour”) yw unrhyw liw a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 94/36 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y lliw hwnnw, a bennir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 08/128;

  • ystyr “lliw penodedig a ganiateir” (“specified permitted colour”) yw unrhyw liw a ganiateir ac eithrio—

    (a)

    E123 Amaranth;

    (b)

    E127 Erythrosine;

    (c)

    E128 Red 2G;

    (ch)

    E154 Brown FK;

    (d)

    E160b Annatto, bixin, norbixin;

    (dd)

    E161g Canthaxanthin;

    (e)

    E173 Aluminium; ac

    (h)

    E180 Litholrubine BK;

  • ystyr “meini prawf purdeb” (“purity criteria”), mewn perthynas ag ychwanegyn amrywiol, yw'r meini prawf purdeb a bennir mewn perthynas â'r ychwanegyn hwnnw yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 08/84/EC;

  • ystyr “melysydd” (“sweetener”) yw unrhyw ychwanegyn bwyd a ddefnyddir neu a fwriedir i'w ddefnyddio—

    (a)

    i roi blas melys i fwyd; neu

    (b)

    fel melysydd pen-bwrdd;

  • ystyr “melysydd a ganiateir” (“permitted sweetener”) yw unrhyw felysydd a nodir yn yr ail golofn o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 94/35 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y melysydd hwnnw, a bennir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 08/60;

  • ystyr “nwy pecynnu” (“packaging gas”) yw unrhyw nwy ac eithrio aer, a osodir mewn cynhwysydd cyn, yn ystod, neu ar ôl rhoi bwyd yn y cynhwysydd hwnnw;

  • ystyr “plant ifanc” (“young children”) yw plant rhwng un flwydd a thair blwydd oed;

  • ystyr “Rheoliad 1333/2008” (“Regulation 1333/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd (9);

  • ystyr “rheolydd asidedd” (“acidity regulator”) yw unrhyw sylwedd sy'n newid neu'n rheoli asidedd neu alcalinedd bwyd;

  • mae i'r ymadrodd “rhoi ar y farchnad” (“placing on the market”) yr ystyr a roddir i “placing on the market” yn Erthygl 3.8 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • ystyr “secwestrydd” (“sequestrant”) yw unrhyw sylwedd sy'n ffurfio cymhlygyn cemegol gydag ionau metelig;

  • mae i “sefydlogydd” (“stabiliser”) yr ystyr a roddir i “stabiliser” yng Nghyfarwyddeb 95/2;

  • ystyr “startsh addasedig” (“modified starch”) yw unrhyw sylwedd a geir drwy gyfrwng un neu ragor o driniaethau ar startsh bwytadwy, a allai fod wedi cael triniaeth ffisegol neu ensymatig ac wedi ei deneuo ag asid neu alcali, neu wedi ei gannu;

  • ystyr “sylwedd gwella blas” (“flavour enhancer”) yw unrhyw sylwedd sy'n gwella blas presennol a/neu arogl bwyd;

  • ystyr “tewychydd” (“thickener”) yw unrhyw sylwedd sy'n cynyddu gludedd bwyd;

  • ystyr “ychwanegyn amrywiol” (“miscellaneous additive”) yw unrhyw ychwanegyn bwyd a ddefnyddir neu a fwriedir i'w ddefnyddio yn bennaf fel asid, rheolydd asidedd, cyfrwng gwrthdalpio, cyfrwng gwrthewynnu, gwrthocsidydd, cyfrwng swmpuso, cludydd, toddydd cludo, emylsydd, halwyn emylsio, cyfrwng sadio, sylwedd gwella blas, cyfrwng trin blawd, cyfrwng ewynnu, cyfrwng gelio, cyfrwng sgleinio, gwlybyrydd, startsh addasedig, nwy pecynnu, cadwolyn, gyrrydd, codydd, secwestrydd, sefydlogydd neu dewychydd, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gymhorthyn prosesu nac unrhyw ensym ac eithrio infertas neu lysosym;

  • ystyr “ychwanegyn amrywiol a ganiateir” (“permitted miscellaneous additive”) yw unrhyw ychwanegyn amrywiol a restrir yn Atodiad I,III, IV neu V i Gyfarwyddeb 95/2 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb (os oes rhai) ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw;

  • mae i “ychwanegyn bwyd” (“food additive”) ystyr fel a ganlyn—

    (a)

    yn ddarostyngedig i baragraffau (b) ac (c), unrhyw sylwedd, pa un a oes iddo werth maethol ai peidio, nas bwyteir fel arfer fel bwyd ynddo'i hunan ac nas defnyddir fel cynhwysyn nodweddiadol mewn bwyd, ac o'i ychwanegu at fwyd yn fwriadol at ddiben technolegol wrth weithgynhyrchu, prosesu, paratoi, trin, pecynnu, cludo neu storio'r bwyd, sy'n peri, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo beri, bod y sylwedd neu'i sgil-gynhyrchion yn mynd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn gydran o'r bwyd dan sylw;

    (b)

    yn y diffiniad o “bwyd” ac at ddibenion rheoliadau 8 i 10, 16 ac 17, mae'n cynnwys cludydd neu doddydd cludo; ac

    (c)

    at ddibenion rheoliadau 8 i 10, nid yw'n cynnwys—

    (i)

    unrhyw sylwedd a ddefnyddir i drin dŵr yfed, y darperir ar ei gyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl(10),

    (ii)

    unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys pectin ac sy'n deillio o weisgion afalau sychion neu bil ffrwythau sitrws neu gymysgedd o'r ddau, drwy weithrediad asid gwanedig a ddilynir gan niwtraleiddio'n rhannol gyda halwynau sodiwm neu botasiwm (pectin hylifol),

    (iii)

    seiliau gwm cnoi,

    (iv)

    decstrin gwyn neu felyn, startsh wedi ei rostio neu'i ddecstrineiddio, startsh a addesir gan driniaeth ag asid neu alcali, startsh wedi ei gannu, startsh a addaswyd yn ffisegol a startsh a driniwyd ag ensymau amylolitig,

    (v)

    amoniwm clorid,

    (vi)

    plasma gwaed, gelatin bwytadwy, hydrolysadau protein a'u halwynau, protein llaeth a glwten,

    (vii)

    asidau amino a'u halwynau (ac eithrio asid glwmatig, glysin, cystein a chystin a'u halwynau) nad oes ganddynt swyddogaeth ychwanegiadol,

    (viii)

    caseinadau a chasein, ac

    (ix)

    inwlin; ac

  • ystyr “ychwanegyn bwyd perthnasol” (“relevant food additive”) yw ychwanegyn amrywiol, lliw neu felysydd, neu ensym nad yw'n gweithredu fel cymhorthyn prosesu.

(2Mae i'r ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yng Nghyfarwyddeb 94/35, 94/36 neu 95/2, yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae'r cyd-destun yn caniatáu ag y sydd i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb dan sylw.

(3Pan aseinir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(11), i awdurdod iechyd porthladd;

(b)drwy orchymyn o dan adran o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(12), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig; neu

(c)drwy orchymyn o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985(13), i awdurdod sengl ar gyfer sir fetropolitanaidd,

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u haseinio felly iddo.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at—

(a)lefel uchaf o liw a ganiateir mewn neu ar fwyd, yn gyfeiriad at y lefel uchaf, mewn miligramau, o'r sylwedd lliwio a gynhwysir yn y lliw a ganiateir hwnnw, am bob cilogram neu, yn ôl fel y digwydd, pob litr, o fwyd sy'n barod i'w fwyta ac wedi ei baratoi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio;

(b)lefel uchaf o ychwanegyn amrywiol a ganiateir mewn neu ar fwyd, neu mewn perthynas ag ychwanegyn bwyd, yn gyfeiriad at y lefel uchaf o'r ychwanegyn amrywiol a ganiateir hwnnw sydd yn neu ar y bwyd, neu mewn perthynas â'r ychwanegyn bwyd, pan werthir y bwyd neu'r ychwanegyn bwyd, oni ddynodir fel arall; neu

(c)quantum satis, mewn perthynas â defnyddio lliwiau a ganiateir neu ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn neu ar fwyd, yn golygu na phennwyd lefel uchaf o liw a ganiateir neu o ychwanegyn amrywiol a ganiateir ar gyfer ei ddefnyddio mewn neu ar fwyd penodol, ond ceir defnyddio lliw a ganiateir neu ychwanegyn amrywiol a ganiateir yn y bwyd hwnnw neu arno, yn unol ag arferion gweithgynhyrchu da, ar lefel nad yw'n uwch na'r lefel sydd ei hangen i gyflawni'r diben a fwriedir, a hynny yn unig os nad yw defnydd o'r fath yn camarwain y defnyddiwr.

(5Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i offeryn UE a bennir ym mharagraff (6) yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

(6Yr offerynnau UE yw Cyfarwyddeb 94/35, Cyfarwyddeb 95/2 a Rheoliad 1333/2008.

(1)

OJ Rhif L184, 15.7.1988, t.61, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC y darpariaethau yngl n â phwyllgorau sy'n cynorthwyo'r Comisiwn i arfer ei bwerau gweithredu a bennir mewn offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad EC (OJ Rhif 284, 31.10.2003, t.1).

(2)

OJ Rhif L237, 10.9.1994, t.3, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2006/52/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/2/EC ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion a Cyfarwyddeb 94/35/EC ar felysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd. (OJ Rhif L204, 20.7.2006, t.10).

(3)

OJ Rhif L237, 10.9.1994, t.13.

(4)

OJ Rhif L61, 18.3.1995, t.1, fel y'i darllenir gyda'r Corigendwm yn OJ Rhif L248, 14.10.1995, t.60 ac a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2006/52/EC.

(5)

OJ Rhif L158, 18.6.2008, t.1.

(6)

OJ Rhif L253, 20.9.2008, t.1. a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/10/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/84/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L44, 14.2.2009, t.62).

(7)

OJ Rhif L6, 10.1.2009, t.20.

(8)

OJ Rhif L124, 20.05.2009, t.21.

(9)

OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.16.

(10)

OJ Rhif L330, 5.12.1998, t.32.

(11)

1984 p.22; disodlwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16).

(12)

193 p.49; darllener adran 6 ar y cyd â pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(13)

1985 p.51; diwygiwyd paragraff 15(6) gan baragraff 31(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources