Search Legislation

Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Blociau Fflatiau Penodol) (Addasiadau i Ddeddf Tai 2004 a Darpariaethau Trosiannol ar gyfer HMOs adran 257) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu Rhan 2 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth) a Rhan 4 (darpariaethau rheoli ychwanegol mewn perthynas â lletyau preswyl) o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”) ac adran 263 o'r Ddeddf ym maes ei gweithrediad at ddibenion y Rhannau hynny, mewn perthynas â thy amlfeddiannaeth (HMO) y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo (“HMO adran 257”).

Mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys i adeilad neu ran o adeilad a droswyd yn fflatiau hunangynhwysol, ac sydd wedi'u ffurfio o'r fflatiau hynny, os nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r addasu yn cydymffurfio â safonau adeiladu priodol a'u bod yn dal i beidio â chydymffurfio â hwy, a bod llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhwysol wedi'u perchen-feddiannu. Mae fflat wedi'i berchen-feddiannu os yw wedi'i feddiannu gan berson y mae les wedi'i rhoi iddo am gyfnod o fwy nag 21 o flynyddoedd neu gan berson y mae ganddo'r ystad rydd-ddaliol yn y bloc fflatiau a addaswyd, neu gan aelod o aelwyd person o fewn y naill neu'r llall o'r ddau ddisgrifiad hwnnw.

Mae'r Rheoliadau yn addasu, at ddibenion Rhan 2 o'r Ddeddf, mewn cysylltiad ag HMO adran 257—

  • y diffiniad o “person having control” (rheoliadau 3 a 9);

  • y materion y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol fodloni ei hun amdanynt wrth benderfynu a ddylid rhoi trwydded neu beidio (rheoliadau 4 a 5);

  • amodau'r drwydded (rheoliadau 6 ac 11);

  • y person y caniateir i orchymyn ad-dalu rhent gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef (rheoliad 7);

  • yr amgylchiadau y caniateir i hysbysiad o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988 gael ei gyflwyno odanynt (rheoliad 8).

Mae'r rheoliadau hyn yn addasu hefyd adran 139 o'r Ddeddf mewn cysylltiad â chyflwyno hysbysiadau gorlenwi mewn cysylltiad ag HMOs adran 257(rheoliad 11).

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau trosiannol hefyd mewn cysylltiad ag HMOs adran 257 a gofrestrwyd o'r blaen mewn cynllun cofrestru o dan Ran 11 o Ddeddf Tai 1985 (rheoliad 13). Diddymwyd Rhan 11 o'r Ddeddf gan Orchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1535) (Cy. 152) ar 16 Mehefin 2006 mewn cysylltiad â phob HMO ac eithrio HMOs adran 257. Darparodd y Gorchymyn hwnnw y byddai diddymiad Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985 yn dod yn weithredol mewn cysylltiad ag adeilad neu ran o adeilad sy'n HMO adran 257 ac yn dy amlfeddiannaeth at ddibenion Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985 ar y dyddiad y daw rheoliadau a wnaed o dan adran 61(5) i rym.

Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn effeithio ar swyddogaethau trwyddedu awdurdod lleol o dan Ran 2 o'r Ddeddf mewn perthynas â fflat sydd wedi'i leoli o fewn HMO adran 257.

Lluniwyd asesiad rheoleiddiol llawn o effaith yr offerynnau statudol i ategu darpariaethau'r Ddeddf mewn perthynas â thrwyddedu HMOs a thrwyddedu dethol lletyau preifat eraill a rentir a gorchmynion rheoli (Rhannau 2, 3 a Phennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf) yn Chwefror 2006 ac mae ar gael o Uned y Sector Preifat, Y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ, ffôn 01685 729193, neu anfoner neges e-bost at huw.mclean@wales.gsi.gov.uk.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources