<Legislation xmlns="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation" xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" DocumentURI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/made/welsh" IdURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2007/3231" NumberOfProvisions="13" xsi:schemaLocation="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation http://www.legislation.gov.uk/schema/legislation.xsd" SchemaVersion="1.0" xml:lang="cy"><ukm:Metadata xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/" xmlns:dct="http://purl.org/dc/terms/" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:ukm="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/metadata">
<dc:identifier>http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/note/made/welsh</dc:identifier><dc:title>Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Blociau Fflatiau Penodol) (Addasiadau i Ddeddf Tai 2004 a Darpariaethau Trosiannol ar gyfer HMOs adran 257) (Cymru) 2007</dc:title><dc:language>cy</dc:language><dc:publisher>King's Printer of Acts of Parliament</dc:publisher><dc:modified>2014-12-01</dc:modified><dc:subject scheme="SIheading">TAI, CYMRU</dc:subject>
<dc:description>Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu Rhan 2 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth) a Rhan 4 (darpariaethau rheoli ychwanegol mewn perthynas â lletyau preswyl) o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”) ac adran 263 o'r Ddeddf ym maes ei gweithrediad at ddibenion y Rhannau hynny, mewn perthynas â thy amlfeddiannaeth (HMO) y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo (“HMO adran 257”).</dc:description>
<atom:link rel="self" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/note/made/welsh/data.xml" type="application/xml"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/resources" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/resources/welsh" title="More Resources"/>

<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/act" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/made/welsh" title="whole act"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/introduction" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/introduction/made/welsh" title="introduction"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/signature" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/signature/made/welsh" title="signature"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/note" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/note/made/welsh" title="note"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/body" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/body/made/welsh" title="body"/>

<atom:link rel="alternate" hreflang="en" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/note/made"/><atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/tableOfContents" hreflang="en" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/contents/made" title="Table of Contents"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/rdf+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/note/made/welsh/data.rdf" title="RDF/XML"/><atom:link rel="alternate" type="application/akn+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/note/made/welsh/data.akn" title="AKN"/><atom:link rel="alternate" type="application/xhtml+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/note/made/welsh/data.xht" title="HTML snippet"/><atom:link rel="alternate" type="text/html" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/note/made/welsh/data.htm" title="Website (XHTML) Default View"/><atom:link rel="alternate" type="text/csv" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/note/made/welsh/data.csv" title="CSV"/><atom:link rel="alternate" type="application/pdf" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/note/made/welsh/data.pdf" title="PDF"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/akn+xhtml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/note/made/welsh/data.html" title="HTML5 snippet"/>

<atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/tableOfContents" hreflang="cy" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/contents/made/welsh" title="Table of Contents"/>

<atom:link rel="up" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/made/welsh" title="Entire legislation"/><atom:link rel="prev" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/signature/made/welsh" title="Signature; Signature"/><atom:link rel="prevInForce" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/signature/made/welsh" title="Signature; Signature"/>
<ukm:SecondaryMetadata><ukm:DocumentClassification>
<ukm:DocumentCategory Value="secondary"/>
<ukm:DocumentMainType Value="WelshStatutoryInstrument"/>
<ukm:DocumentStatus Value="final"/>
<ukm:DocumentMinorType Value="regulation"/>
</ukm:DocumentClassification><ukm:Year Value="2007"/><ukm:Number Value="3231"/><ukm:AlternativeNumber Category="Cy" Value="283"/><ukm:Made Date="2007-11-12"/><ukm:Laid Date="2007-11-13" Class="WelshAssembly"/><ukm:ComingIntoForce>
<ukm:DateTime Date="2007-12-05"/>
</ukm:ComingIntoForce><ukm:ISBN Value="9780110916880"/></ukm:SecondaryMetadata>

<ukm:Alternatives><ukm:Alternative Date="2007-12-05" URI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/pdfs/wsi_20073231_mi.pdf" Title="Print Version Mixed Language" TitleWelsh="Fersiwn i'w hargraffu" Size="66544" Language="Mixed"/></ukm:Alternatives>

<ukm:Statistics>
<ukm:TotalParagraphs Value="13"/>
<ukm:BodyParagraphs Value="13"/>
<ukm:ScheduleParagraphs Value="0"/>
<ukm:AttachmentParagraphs Value="0"/>
<ukm:TotalImages Value="0"/>
</ukm:Statistics>
</ukm:Metadata><Secondary><ExplanatoryNotes DocumentURI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3231/note/made/welsh" IdURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2007/3231/note">
<Comment>
<Para>
<Text>(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)</Text>
</Para>
</Comment>

<Text>Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu Rhan 2 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth) a Rhan 4 (darpariaethau rheoli ychwanegol mewn perthynas â lletyau preswyl) o Ddeddf Tai 2004 (“<Abbreviation Expansion="Deddf Tai 200 p. 34">y Ddeddf</Abbreviation>”) ac adran 263 o'r Ddeddf ym maes ei gweithrediad at ddibenion y Rhannau hynny, mewn perthynas â thy amlfeddiannaeth (<Abbreviation Expansion="tŷ amlfeddiannaeth">HMO</Abbreviation>) y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo (“HMO adran 257”).</Text>

<Text>Mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys i adeilad neu ran o adeilad a droswyd yn fflatiau hunangynhwysol, ac sydd wedi'u ffurfio o'r fflatiau hynny, os nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r addasu yn cydymffurfio â safonau adeiladu priodol a'u bod yn dal i beidio â chydymffurfio â hwy, a bod llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhwysol wedi'u perchen-feddiannu. Mae fflat wedi'i berchen-feddiannu os yw wedi'i feddiannu gan berson y mae les wedi'i rhoi iddo am gyfnod o fwy nag 21 o flynyddoedd neu gan berson y mae ganddo'r ystad rydd-ddaliol yn y bloc fflatiau a addaswyd, neu gan aelod o aelwyd person o fewn y naill neu'r llall o'r ddau ddisgrifiad hwnnw.</Text>

<Text>Mae'r Rheoliadau yn addasu, at ddibenion Rhan 2 o'r Ddeddf, mewn cysylltiad ag HMO adran 257—</Text>
<UnorderedList Decoration="none">
<ListItem>
<Para>
<Text>y diffiniad o “person having control” (rheoliadau 3 a 9);</Text>
</Para>
</ListItem>
<ListItem>
<Para>
<Text>y materion y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol fodloni ei hun amdanynt wrth benderfynu a ddylid rhoi trwydded neu beidio (rheoliadau 4 a 5);</Text>
</Para>
</ListItem>
<ListItem>
<Para>
<Text>amodau'r drwydded (rheoliadau 6 ac 11);</Text>
</Para>
</ListItem>
<ListItem>
<Para>
<Text>y person y caniateir i orchymyn ad-dalu rhent gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef (rheoliad 7);</Text>
</Para>
</ListItem>
<ListItem>
<Para>
<Text>yr amgylchiadau y caniateir i hysbysiad o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988 gael ei gyflwyno odanynt (rheoliad 8).</Text>
</Para>
</ListItem>
</UnorderedList>

<Text>Mae'r rheoliadau hyn yn addasu hefyd adran 139 o'r Ddeddf mewn cysylltiad â chyflwyno hysbysiadau gorlenwi mewn cysylltiad ag <Abbreviation Expansion="dai amlfeddiannaeth">HMOs</Abbreviation> adran 257(rheoliad 11).</Text>

<Text>Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau trosiannol hefyd mewn cysylltiad ag HMOs adran 257 a gofrestrwyd o'r blaen mewn cynllun cofrestru o dan Ran 11 o Ddeddf Tai 1985 (rheoliad 13). Diddymwyd Rhan 11 o'r Ddeddf gan Orchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006 <Citation URI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2006/1535" id="c00001" Class="WelshStatutoryInstrument" Year="2006" Number="1535" AlternativeNumber="Cy. 152">(O.S. 2006/1535) (Cy. 152)</Citation> ar 16 Mehefin 2006 mewn cysylltiad â phob HMO ac eithrio HMOs adran 257. Darparodd y Gorchymyn hwnnw y byddai diddymiad Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985 yn dod yn weithredol mewn cysylltiad ag adeilad neu ran o adeilad sy'n HMO adran 257 ac yn dy amlfeddiannaeth at ddibenion Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985 ar y dyddiad y daw rheoliadau a wnaed o dan adran 61(5) i rym.</Text>

<Text>Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn effeithio ar swyddogaethau trwyddedu awdurdod lleol o dan Ran 2 o'r Ddeddf mewn perthynas â fflat sydd wedi'i leoli o fewn HMO adran 257.</Text>

<Text>Lluniwyd asesiad rheoleiddiol llawn o effaith yr offerynnau statudol i ategu darpariaethau'r Ddeddf mewn perthynas â thrwyddedu HMOs a thrwyddedu dethol lletyau preifat eraill a rentir a gorchmynion rheoli (Rhannau 2, 3 a Phennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf) yn Chwefror 2006 ac mae ar gael o Uned y Sector Preifat, Y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ, ffôn 01685 729193, neu anfoner neges e-bost at <ExternalLink Title="Private Sector Unit, Housing Directorate, Welsh Assembly Government" URI="mailto:huw.mclean@wales.gsi.gov.uk" id="i00000">huw.mclean@wales.gsi.gov.uk</ExternalLink>.</Text>

</ExplanatoryNotes></Secondary></Legislation>