Search Legislation

Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2007.

(2Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “yr ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer” (“the area in which the child is ordinarily resident”) yw ardal yr awdurdod lleol lle mae cartref y plentyn;

ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw—

(a)

mewn perthynas â lleoliad gan awdurdod lleol (gan gynnwys un pan fo'r plentyn yn cael llety a chynhaliaeth mewn cartref gwirfoddol neu gartref preifat i blant), yw'r awdurdod lleol sy'n lleoli'r plentyn,

(b)

mewn perthynas â lleoliad gan sefydliad gwirfoddol o blentyn nad yw'n derbyn gofal awdurdod lleol, y sefydliad gwirfoddol sy'n lleoli'r plentyn, ac

(c)

mewn perthynas â lleoliad mewn cartref preifat i blant o blentyn nad yw naill ai'n derbyn gofal awdurdod lleol nac wedi'i letya mewn cartref o'r fath gan sefydliad gwirfoddol, y person sy'n rhedeg y cartref;

ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;

ystyr “gweithiwr dolen gyswllt” (“link worker”) yw aelod o staff cartref i blant a benodwyd yn unol â Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(1) gyda chyfrifoldeb penodol dros ddiogelu a hybu iechyd a lles addysgol plentyn unigol a thros gydgysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw;

ystyr “nyrs gofrestredig” (“registered nurse”) yw person a gofrestrwyd gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(2);

ystyr “panel” (“panel”) yw panel o gynrychiolwyr o'r asianteithiau hynny a all gynorthwyo awdurdod cyfrifol wrth gynllunio lleoliad plentyn ac wrth ddiwallu anghenion y plentyn hwnnw yn ystod cyfnod y lleoliad;

ystyr “wedi'i leoli i'w fabwysiadu” (“placed for adoption”) yw wedi'i leoli yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(3) neu Ddeddf Mabwysiadu 1976(4);

ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person cofrestredig cyflawn o fewn ystyr Deddf Feddygol 1983(5); ac

ystyr “ymwelydd annibynnol” (“independent visitor) yw ymwelydd annibynnol a benodir o dan baragraff 17 o Atodlen 2 i'r Ddeddf.

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.

(4Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

(a)mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw;

(b)mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

(5Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(1)

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 (O.S.2002/327 (Cy.40)). Mewnosodwyd y gofyniad i benodi “link worker” yn rheoliad 11 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) gan reoliad 2(c) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygio) 2007 (2007/311 (Cy.28)).

(2)

Sefydlwyd gan Orchymyn Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 O.S. 2002/253 a daeth i rym ar 12 Chwefror 2002.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources