Search Legislation

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Darpariaethau trosiannol ac arbedion

4.—(1Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin yn caniatáu cais o dan adran 15 o Ddeddf 2006 i gofrestru tir fel maes tref neu bentref cyn bod adran 1 o Ddeddf 2006 wedi dod i rym mewn perthynas â'r man lle lleolir y tir—

(a)rhaid i'r awdurdod cofrestru gofrestru'r tir yn y gofrestr o feysydd trefi neu bentrefi sy'n cael ei chadw ar gyfer y man hwnnw dan Ddeddf 1965; a

(b)hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â'r man hwnnw, mae Deddf 1965 yn gymwys mewn perthynas â'r cofrestru megis petai wedi'i wneud yn unol ag adran 13(b) o Ddeddf 1965.

(2O ran unrhyw ardal o Gymru—

(a)mae cyfeiriadau yn adran 24 o Ddeddf 2006, ac mewn rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno, at gofrestru tiroedd comin neu neu feysydd trefi neu bentrefi, i'w cymryd, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, fel cyfeiriadau at gofrestr o'r fath a gedwir o dan Ddeddf 1965; a

(b)mae adran 13(b) o Ddeddf 1965, a rheoliadau a wnaed oddi tani(1), yn parhau i gael eu heffaith hyd nes y daw'r canlynol i rym—

(i)adran 6 o Ddeddf 2006 o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n dod yn dir comin ac eithrio yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad, a

(ii)adran 14 o Ddeddf 2006 o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n dod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad.

(3Pan fo—

(a)cais yn cael ei wneud cyn 6 Medi 2007 i awdurdod cofrestru, yn unol ag adran 13(b) o Ddeddf 1965, i ddiwygio'r gofrestr o feysydd trefi neu bentrefi o ganlyniad i fod tir wedi dod yn faes tref neu bentref, a

(b)nad yw'r awdurdod cofrestru yn dyfarnu ar y cais cyn y dyddiad hwnnw,

rhaid i'r awdurdod cofrestru barhau i ymwneud â'r cais ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny megis pe na bai adran 13(b) o Ddeddf 1965 wedi'i diddymu.

(4O ran unrhyw ardal o Gymru, mae'r cyfeiriad yn adran 45(1) o Ddeddf 2006 at dir sydd wedi'i gofrestru fel tir comin neu faes tref neu bentref i'w ddarllen, hyd nes daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, fel petai yn gyfeiriad at fod tir wedi'i gofrestru felly o dan Ddeddf 1965.

(5Pan fo Comisiynydd Tiroedd Comin, cyn 6 Medi 2007, yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 8(2) neu (3) o Ddeddf 1965 i awdurdod cofrestru gofrestru person fel perchennog tir, ond nad yw'r awdurdod cofrestru yn cydymffurfio â'r cyfarwyddyd cyn y dyddiad hwnnw-

(a)mae'r cyfarwyddyd yn parhau i fod yn effeithiol ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny er gwaethaf diddymiad adran 8(2) a (3) o Ddeddf 1965; a

(b)os mai'r cyfarwyddyd yw i awdurdod lleol gael ei gofrestru fel perchennog y tir, pan wneir y cofrestriad, bydd adran 8(4) o Ddeddf 1965 yn gymwys megis pe na bai wedi cael ei diddymu.

(6O ran unrhyw ardal o Gymru, mae adran 13(a) o Ddeddf 1965, a rheoliadau a wnaed oddi tani(2), yn parhau i gael eu heffaith, hyd nes daw adran 14 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n peidio â bod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad.

(7Os, o ran unrhyw dir ac eithrio tir y cyfeirir ato ym mharagraff (6),—

(a)oes cais yn cael ei wneud cyn 6 Medi 2007 i awdurdod cofrestru, yn unol â rheoliadau o dan adran 13(a) o Ddeddf 1965, i dir gael ei dynnu oddi ar y gofrestr o ganlyniad i fod y tir hwnnw wedi peidio â bod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref; a

(b)nad yw'r awdurdod cofrestru yn dyfarnu ar y cais cyn y dyddiad hwnnw,

rhaid i'r awdurdod cofrestru barhau i ymwneud â'r cais ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny megis pe na bai adran 13(a) o Ddeddf 1965 wedi'i diddymu.

(1)

Mae rheoliad 28 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1969/1843 (mae yna offerynnau diwygio eraill, ond nid oes unrhyw un yn berthnasol), a Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tir Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843) wedi'u gwneud o dan adran 13(b).

(2)

Mae rheoliad 27 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1968/658, yn gwneud darpariaeth o dan adran 13(a) o Ddeddf 1965.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources