Search Legislation

Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006, heblaw am reoliadau 7(3) a 7(4) sy'n dod i rym ar 1 Medi 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Mae'r canlynol wedi'u dirymu o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999(1), a

(b)Rhan VI o Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999(2).

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “athro neu athrawes” (“teacher”) yw person sy'n athro ysgol neu'n athrawes ysgol at ddibenion adran 122 o Ddeddf 2002 ac mae'n cynnwys person y bernid ei fod yn athro neu'n athrawes heblaw am y ffaith nad yw parti arall y contract yn awdurdod neu'n gorff llywodraethu ysgol sy'n dod o fewn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal ysgol a gynhelir neu a fydd yn cynnal ysgol arfaethedig;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

mae “diswyddo” (“dismissal”) i gael ei ddehongli yn unol ag adrannau 95 a 136 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(3);

ystyr “staff cymorth” (“support staff”) yw unrhyw aelod o staff ysgol heblaw athro neu athrawes.

(2Mae cyfeiriadau at unrhyw swydd wag yn cynnwys darpar swydd wag ac mae cyfeiriadau at absenoldeb person yn gyfeiriadau at absenoldeb y person o'r ysgol, neu ei absenoldeb arfaethedig o'r ysgol.

(3Mae person i gael ei drin fel pe bai'n bodloni unrhyw ofynion ynglŷn â chymwysterau staff os yw—

(a)yn bodloni unrhyw ofynion mewn perthynas â chymwysterau neu gofrestru sy'n gymwys iddo o ganlyniad i reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adrannau 132 i 135 o Ddeddf 2002(4), rheoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(5) a rheoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 218(1)(a) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(6),

(b)yn bodloni unrhyw amodau o ran iechyd a chynneddf gorfforol sy'n gymwys iddo o ganlyniad i Reoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) 2004(7), ac

(c)heb fod yn destun unrhyw gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan adran 142 o Ddeddf 2002 na chaiff wneud gwaith y mae'r adran honno'n gymwys iddo.

(4Mae cyfeiriadau at staff cymorth yn cynnwys staff sydd wedi'u cymryd ymlaen i ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol o dan adran 27 o Ddeddf 2002.

Staffio ysgolion

4.—(1Mewn unrhyw ysgol mae'n rhaid cyflogi, neu gymryd ymlaen heblaw o dan gontractau cyflogaeth, staff sy'n addas ac yn ddigonol o ran eu niferoedd er mwyn sicrhau y darperir addysg sy'n briodol ar gyfer oedrannau, galluoedd, cymwyseddau ac anghenion y disgyblion gan roi sylw i unrhyw drefniadau ar gyfer defnyddio gwasanaethau'r staff sydd wedi'u cyflogi neu wedi'u cymryd ymlaen heblaw yn yr ysgol o dan sylw.

(2Mae rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(8) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)Ym mharagraff (1) dilëwch y geiriau “ysgol neu”, y geiriau “disgyblion neu'r” a'r geiriau “ysgol neu'r”.

(b)Dilëwch baragraff (2)(a).

(c)Ym mharagraff (3) dilëwch y geiriau “ysgolion a”, y geiriau “Rhan IV o'r Rheoliadau hyn a” a'r geiriau “yn y drefn honno”.

Dirprwyo awdurdod

5.—(1Caiff y corff llywodraethu ddirprwyo'i swyddogaethau o dan reoliadau 12, 15, 26 a 27.

(2Gellir dirprwyo fel hyn i'r canlynol—

(a)y pennaeth,

(b)un neu ragor o lywodraethwyr, neu

(c)un neu ragor o lywodraethwyr a'r pennaeth.

(3Os yw'r corff llywodraethu wedi dirprwyo fel hyn i un neu ragor o lywodraethwyr, caiff y pennaeth fod yn bresennol a chynnig cyngor yn yr holl drafodion perthnasol a rhaid i'r cyngor hwnnw gael ei ystyried gan y llywodraethwr neu'r llywodraethwyr y dirprwywyd iddo neu iddynt.

Perfformiad y pennaeth

6.—(1Os oes gan yr awdurdod unrhyw bryderon difrifol am berfformiad pennaeth ysgol—

(a)mae'n rhaid i'r awdurdod wneud adroddiad ysgrifenedig am ei bryderon i gadeirydd corff llywodraethu'r ysgol, gan anfon copi ar yr un pryd at y pennaeth; a

(b)mae'n rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig am y camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad.

(2Wrth benderfynu a ddylid gwneud adroddiad o dan y rheoliad hwn, mae'n rhaid i'r awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau sy'n cael eu rhoi o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Ymddygiad a disgyblaeth a gallu'r staff

7.—(1Mae rheoli ymddygiad a disgyblaeth mewn perthynas â staff yr ysgol, ac unrhyw weithdrefnau ar gyfer rhoi cyfleoedd i aelodau'r staff geisio cael iawn am unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'u cyflogaeth, i fod o dan reolaeth y corff llywodraethu.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu sefydlu gweithdrefnau—

(a)i reoli ymddygiad a disgyblaeth y staff yn yr ysgol;

(b)i'r staff geisio cael iawn am unrhyw gŵyn sy'n ymwneud â'u gwaith yn yr ysgol; ac

(c)i ymdrin â diffyg gallu ar ran y staff yn yr ysgol

a rhaid i'r corff llywodraethu gymryd unrhyw gamau y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol i fynegi'r rhain i aelodau'r staff.

(3Os caiff honiadau eu gwneud yn erbyn aelod o staff yr ysgol sy'n ymwneud â materion amddiffyn plant, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu benodi ymchwiliwr annibynnol i ymchwilio i'r honiadau cyn i unrhyw achos sy'n ymwneud â'r honiadau hynny gael ei wrando.

(4Rhaid barnu bod person sydd wedi'i benodi gan y corff llywodraethu yn ymchwiliwr annibynnol o dan baragraff (3) yn annibynnol o dan yr amgylchiadau canlynol—

(a)os nad yw'r person yn un o lywodraethwyr yr ysgol o dan sylw;

(b)os nad yw'r person yn rhiant i un o ddisgyblion presennol neu flaenorol yr ysgol o dan sylw;

(c)os nad yw'r person yn un o aelodau staff presennol neu flaenorol yr ysgol o dan sylw;

(ch)os nad yw'r person yn cael ei gyflogi ar hyn o bryd gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol o dan sylw.

(5Os yw rhoi unrhyw benderfyniad sydd wedi'i wneud gan y corff llywodraethu wrth ddefnyddio'r gweithdrefnau ar waith yn golygu bod angen cymryd unrhyw gam—

(a)nad yw o fewn y swyddogaethau sy'n arferadwy gan y corff llywodraethu gan neu o dan Ddeddf 2002, ond

(b)sydd o fewn pŵer yr awdurdod,

mae'n rhaid i'r awdurdod gymryd y cam hwnnw ar gais y corff llywodraethu.

(6Wrth benderfynu ar allu aelodau'r staff, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i unrhyw ganllawiau sy'n cael eu rhoi o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

8.—(1Mae Rheoliad 50(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(9) yn cael ei ddisodli gan—

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 51 o'r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998(10), rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(11) a rheoliadau 12 ac 21 o Reoliadau Staffio Ysgolion (Cymru) 2005, caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau i'r canlynol—

(a)pwyllgor;

(b)unrhyw lywodraethwr; neu

(c)y pennaeth (p'un a yw'n llywodraethwr neu beidio)..

(2Yn rheoliad 51(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 yn lle'r geiriau “paragraff 6 o Atodlen 16 a pharagraffau 7 a 30 o Atodlen 17 i Ddeddf 1998” rhowch y geiriau “rheoliadau 10 a 24 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”.

(3Mae rheoliad 55 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)Ym mharagraff (1)(i) yn lle'r geiriau “paragraff 25 o Atodlen 16 i Ddeddf 1998” rhowch y geiriau “rheoliad 17(1) o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”.

(b)Yn lle paragraffau (3) a (4) rhowch—

(3) Rhaid i'r pwyllgor disgyblu staff gynnwys nid llai na thri llywodraethwr, ond os caiff honiadau eu gwneud yn erbyn aelod o'r staff sy'n ymwneud â materion amddiffyn plant mae'n rhaid i'r pwyllgor gynnwys nid llai na dau lywodraethwr a pherson annibynnol nad yw'n llywodraethwr.

(4) Rhaid i'r pwyllgor apelau disgyblu beidio â chynnwys llai o lywodraethwyr na'r pwyllgor disgyblu staff y mae ei benderfyniad yn destun yr apêl ac os caiff honiadau eu gwneud yn erbyn aelod o'r staff sy'n ymwneud â materion amddiffyn plant mae'n rhaid i'r pwyllgor gynnwys person annibynnol nad oedd yn rhan o benderfyniad y pwyllgor disgyblu staff.

(4A) At ddibenion paragraffau (3) a (4) rhaid barnu bod person yn annibynnol o dan yr amgylchiadau canlynol—

(a)os nad yw'r person yn un o lywodraethwyr yr ysgol o dan sylw;

(b)os nad yw'r person yn rhiant i un o ddisgyblion presennol neu flaenorol yr ysgol o dan sylw;

(c)os nad yw'r person yn un o aelodau staff presennol neu flaenorol yr ysgol o dan sylw;

(ch)os nad yw'r person yn cael ei gyflogi ar hyn o bryd gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol o dan sylw..

(c)Ym mharagraff (8) ar ôl y geiriau “o dan sylw” ychwanegwch “, ac eithrio'r aelod annibynnol o bob pwyllgor sydd wedi'i benodi yn unol â pharagraff (3) neu (4)”.

(ch)Dilëwch baragraff (9).

(4Ym mhob un o reoliadau 59(3) a 63(1)(b) yn lle'r geiriau “Atodlenni 16 neu 17 i Ddeddf 1998” rhowch y geiriau “Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”.

(4)

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1729 (Cy. 173) a Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1744 (Cy.183) a Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005, O.S. 2005/1227 (Cy.85).

(5)

1998 p.30; Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, O.S.2003/543 (Cy.77) fel y'u diwygiwyd gan O.S.2004/872 (Cy.87), O.S.2004/1745 (Cy.184) ac y'u dirymwyd gan O.S. 2005/1818 (Cy.146).

(6)

1998 p.40; diddymir adran 218(1)(a) gan adrannau 146 a 215(2) o Ddeddf 2002 a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi, nad ydynt mewn grym hyd yma. Gweler rheoliadau 11 i 14 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999, O.S. 1999/2817 (Cy.18).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources