- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Os bydd unrhyw ddeiliad cytundeb Tir Cynnal, gyda'r bwriad o gael cymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn ar ei gyfer ef ei hun neu ar gyfer unrhyw berson arall, yn gwneud unrhyw ddatganiad neu'n rhoi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal y cyfan neu ran o unrhyw gymorthdaliadau sy'n daladwy i'r person hwnnw neu i unrhyw berson arall o'r fath o dan y Rheoliadau a chaiff, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthyglau 71 a 72 o Reoliad y Comisiwn 817/2004 (sy'n darparu ar gyfer adennill gyda llog daliadau a delir ar gam, ar gyfer system gosb ac ar gyfer gwaharddiad am wneud datganiadau ffug) adennill y cyfan neu ran o unrhyw symiau a dalwyd eisoes o dan y Rheoliadau yn gymhorthdal i'r person hwnnw neu i unrhyw berson arall o'r fath.
(2) Os bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal—
(a)os talwyd y cymhorthdal, wedi methu gwneud rhywbeth y mae ef neu hi wedi ymgymryd i'w wneud, neu
(b)yn mynd yn groes i unrhyw amodau y talwyd y cymhorthdal yn ddarostyngedig iddynt,
caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymhorthdal sy'n daladwy i'r deiliad cytundeb hwnnw o dan y Rheoliadau hyn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymhorthdal a dalwyd eisoes i'r deiliad.
(3) Bydd unrhyw anghydfod mewn unrhyw achos penodol ynghylch atal neu adennill cymhorthdal drwy gyfeiriad at baragraff (1) neu (2) uchod yn cael ei gyfeirio at un cymrodeddwr a'i benderfynu ganddo a bydd y cymrodeddwr yn un y cytunir arno gan y partïon neu, os methir cael cytundeb, yn un sydd i'w benodi gan Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac yn unol â darpariaethau Deddf Cymrodeddu 1996(1) neu unrhyw addasiad neu ddeddfiad statudol ohoni sydd mewn grym am y tro.
(4) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn atal neu'n adennill cymhorthdal o dan baragraff (2) uchod, caiff hefyd, i'r graddau y mae hynny o ganlyniad i Erthygl 20(2) yn Rheoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau benderfynu ar system o gosbau sy'n effeithiol, yn gymesur â'u diben ac sy'n ddigon o ataliad o ran eu heffaith iddynt gael eu gosod am dorri ymgymeriadau), ei gwneud yn ofynnol i'r deiliad cytundeb dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol swm sy'n hafal i ddim mwy na 10% o'r cymhorthdal a dalwyd neu sy'n daladwy i'r deiliad cytundeb Tir Cynnal o dan y Rheoliadau hyn.
(5) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd unrhyw gamau a bennir ym mharagraff (1), (2) neu (4) uchod, caiff hefyd derfynu'r cytundeb y cyfeirir ato ynddynt drwy roi hysbysiad o'r terfyniad hwnnw i'r deiliad cytundeb Tir Cynnal.
(6) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (5) uchod yn tynnu'n ôl gytundeb mewn cysylltiad ag unrhyw gam a gymerir o dan baragraff (2) uchod, caiff hefyd, i'r graddau y bo o ganlyniad i Erthygl 20(2) o Reoliad y Comisiwn, drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r deiliad cytundeb, wahardd y deiliad cytundeb rhag darparu ymgymeriad newydd neu rhag ymrwymo i gytundeb newydd o dan gynllun amaeth-amgylcheddol am gyfnod (nad yw'n fwy na dwy flynedd) sy'n cychwyn ar ddyddiad y terfyniad hwnnw fel a bennir yn yr hysbysiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: