- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Ceir yn Rhan 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) (“Rhan 2A” o “Ddeddf 1990”) gyfundrefn ar gyfer adnabod tir halogedig a'i adfer. Mae adran 78YC yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymhwyso Rhan 2A mewn perthynas â niwed neu lygredd i ddyfroedd a reolir, i'r graddau y gellir priodoli'r niwed neu'r llygredd i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu i Ran 2A fod yn effeithiol gydag addasiadau i'r diben o adnabod tir a halogwyd yn ymbelydrol a'i adfer ac eithrio mewn amgylchiadau pan fydd gweithredydd sefydliad niwclear yn atebol o dan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965 (p.57), neu mewn amgylchiadau cysylltiedig (gweler rheoliad 17).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn trosi Erthyglau 48 a 53 o Gyfarwyddeb y Cyngor 1996/29/Euratom sy'n gosod safonau diogelwch sylfaenol i ddiogelu iechyd gweithwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol rhag y peryglon sy'n deillio o ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L159, 29.06.1996, t.1).
Mae rheoliad 5 yn addasu amrywiol ddiffiniadau yn adran 78A o Ddeddf 1990.
Mae rheoliad 6 yn darparu i adran 78B o Ddeddf 1990 fod yn effeithiol gydag addasiad i sicrhau nad yw'r ddyletswydd sydd ar yr awdurdod lleol i arolygu yn gymwys ond mewn cysylltiad â thir y mae gan yr awdurdod lleol sail resymol dros gredu y gall fod wedi'i halogi.
Mae rheoliad 8 yn cyfyngu ar ddisgresiwn yr awdurdod gorfodi i benderfynu beth sy'n rhesymol o ran adfer at ddibenion adran 78E(4) o Ddeddf 1990. Yr effaith yw ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gorfodi gloriannu'r budd a ddaw o unrhyw ymyriad yn erbyn y niwed i iechyd a'r costau a ddeillia o ymyriad o'r fath ac iddo gynyddu i'r eithaf y budd a ddaw o ymyriad o'r fath.
Mae rheoliad 14 yn addasu adran 78N o Ddeddf 1990 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gorfodi ei hun gyflawni gwaith adfer mewn rhai amgylchiadau.
Mae rheoliad 17 yn darparu nad yw Rhan 2A yn gymwys pan halogir tir gan sylweddau sydd yn y tir, arno neu oddi tano, i'r graddau y mae presenoldeb y sylweddau hynny'n peri difrod i unrhyw eiddo pan eir yn groes i Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965 drwy fethu â chyflawni dyletswyddau penodol sy'n dod oddi tani, neu mewn amgylchiadau cysylltiedig.
Mae rheoliad 18 yn sicrhau bod pwerau Asiantaeth yr Amgylchedd neu'r awdurdod lleol o dan adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) yn ymestyn i'w swyddogaethau o dan Ran 2A fel y mae'n gymwys i niwed y gellir ei briodoli i ymbelydredd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: