- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
5.—(1) Mae person sydd â gofal unrhyw gwch pysgota sy'n glanio cegdduon gogleddol yng Nghymru yn groes i Erthygl 9 o Reoliad 811/04 yn euog o dramgwydd.
(2) Os caiff cegdduon gogleddol eu glanio gyntaf o gwch pysgota mewn porthladd yng Nghymru a ddynodwyd fel a bennir ym mharagraff (4) ac—
(a)mae'r gofyniad i bwyso sampl cynrychioliadol, fel a bennir yn Erthygl 12 o Reoliad 811/04, yn gymwys i'r glanio hwnnw, a
(b)nid yw paragraff (3) yn gymwys i'r glanio hwnnw,
y rheolwr at ddibenion yr Erthygl honno yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
(3) Os caiff cegdduon gogleddol eu glanio o gwch pysgota mewn porthladd yng Nghymru a ddynodwyd fel a bennir ym mharagraff (4) ac—
(a)mae'r gofyniad i bwyso sampl cynrychioliadol, fel a bennir yn Erthygl 12 o Reoliad 811/04, yn gymwys i'r glanio hwnnw; a
(b)mae'r cwch pysgota yn barti i drefniant, a wnaed ymhlith cychod pysgota sy'n defnyddio'r porthladd, gyda pherson neu gorff sy'n gweithredu fel rheolwr arnynt at ddibenion yr Erthygl honno; ac
(c)mae manylion y trefniant, a'r cychod pysgota sy'n barti iddo, wedi cael eu hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
y rheolwr at ddibenion yr Erthygl honno yw'r person neu'r corff hwnnw.
(4) O ran glaniadau yng Nghymru, mae'r porthladdoedd, a phan fo hynny'n gymwys, y mannau glanio ynddynt a restrir yn nhrwydded y DU, wedi'u dynodi at ddibenion Erthygl 9 o Reoliad 811/04.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: