Glanio cegdduon mewn porthladdoedd dynodedig5.
(1)
Mae person sydd â gofal unrhyw gwch pysgota sy'n glanio cegdduon gogleddol yng Nghymru yn groes i Erthygl 9 o Reoliad 811/04 yn euog o dramgwydd.
(2)
Os caiff cegdduon gogleddol eu glanio gyntaf o gwch pysgota mewn porthladd yng Nghymru a ddynodwyd fel a bennir ym mharagraff (4) ac—
(a)
mae'r gofyniad i bwyso sampl cynrychioliadol, fel a bennir yn Erthygl 12 o Reoliad 811/04, yn gymwys i'r glanio hwnnw, a
(b)
nid yw paragraff (3) yn gymwys i'r glanio hwnnw,
y rheolwr at ddibenion yr Erthygl honno yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
(3)
Os caiff cegdduon gogleddol eu glanio o gwch pysgota mewn porthladd yng Nghymru a ddynodwyd fel a bennir ym mharagraff (4) ac—
(a)
mae'r gofyniad i bwyso sampl cynrychioliadol, fel a bennir yn Erthygl 12 o Reoliad 811/04, yn gymwys i'r glanio hwnnw; a
(b)
mae'r cwch pysgota yn barti i drefniant, a wnaed ymhlith cychod pysgota sy'n defnyddio'r porthladd, gyda pherson neu gorff sy'n gweithredu fel rheolwr arnynt at ddibenion yr Erthygl honno; ac
(c)
mae manylion y trefniant, a'r cychod pysgota sy'n barti iddo, wedi cael eu hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
y rheolwr at ddibenion yr Erthygl honno yw'r person neu'r corff hwnnw.
(4)
O ran glaniadau yng Nghymru, mae'r porthladdoedd, a phan fo hynny'n gymwys, y mannau glanio ynddynt a restrir yn nhrwydded y DU, wedi'u dynodi at ddibenion Erthygl 9 o Reoliad 811/04.