- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Bydd hysbysiad trwsio a gyflwynwyd o dan adran 189 neu 190 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n hysbysiad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i hysbysiad trwsio—
(a)sydd wedi dod yn weithredol yn y modd a grybwyllir yn adran 189(4) neu 190(4) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn; neu
(b)y mae apêl ynglŷn ag ef wedi'i dwyn o dan adran 191 o'r Deddf honno cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2007, ni fydd diddymu adrannau 189 i 208, 345, 398, 604 a 604A o Ddeddf 1985, ac Atodlen 10 iddi, yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(4) Pan fo—
(a)apêl ynglŷn â hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei chaniatáu; a
(b)y barnwr yn cynnwys yn ei farn ddyfarniad fel a grybwyllir yn adran 191(3) o Ddeddf 1985,
rhaid i'r awdurdod tai lleol gymryd y dyfarniad i ystyriaeth os bydd wedyn yn ystyried cymryd camau o'r math a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r fangre o dan sylw.
(5) Bydd hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn peidio â bod yn effeithiol ar 16 Mehefin 2007 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r hysbysiad cyn y dyddiad hwnnw.
(6) Ni fydd diddymu adran 191(3A)(b) o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn a wnaed gan lys o dan y paragraff hwnnw cyn y dyddiad hwnnw.
(7) Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 4(2) o Atodlen 15 i Ddeddf 2004 (sy'n diwygio Deddf Iawndal Tir 1973) yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
2.—(1) Bydd gorchymyn cau a wnaed o dan adran 264 neu 368(4) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n orchymyn y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i orchymyn cau—
(a)sydd wedi dod yn weithredol yn y modd a grybwyllir yn adran 268(2) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn; neu
(b)y mae apêl yn ei gylch wedi'i dwyn o dan adran 269 o'r Deddf honno cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2008, ni fydd y canlynol yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn cau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo—
(a)diddymu adrannau 264, 267(2) a (3), 269(2A) a (3A), 276 i 278, 368, 395, 396, 397, 604 a 604A o Ddeddf 1985;
(b)y diddymiadau yn adrannau 317, 319(1)(b) a 323 o'r Deddf honno; ac
(c)y diwygiadau a wnaed gan adran 48(2) a (4) o Ddeddf 2004, a pharagraffau 13, 14, 22, 26, 27 a 33 o Atodlen 15 iddi.
(4) Pan fo—
(a)apêl ynglŷn â gorchymyn cau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei chaniatáu; a
(b)y barnwr yn cynnwys yn ei farn ddyfarniad fel a grybwyllir yn adran 269(3A) o Ddeddf 1985,
rhaid i'r awdurdod tai lleol gymryd y dyfarniad i ystyriaeth os bydd wedyn yn ystyried cymryd camau o'r math a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r fangre o dan sylw.
(5) Bydd gorchymyn cau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn peidio â bod yn effeithiol ar 16 Mehefin 2008 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r gorchymyn cyn y dyddiad hwnnw.
(6) Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan—
(a)paragraffau 3, 4(3), 5 a 6 o Atodlen 15 i Ddeddf 2004 (sy'n diwygio Deddf Iawndal Tir 1973); a
(b)paragraffau 30 a 31 o'r Atodlen honno (sy'n cymryd lle'r darpariaethau iawndal yn Neddf Tai 1985),
yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn cau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
3.—(1) Bydd gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 neu 279 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n orchymyn y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i orchymyn dymchwel—
(a)sydd wedi dod yn weithredol yn y modd a grybwyllir yn adran 268(2) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn; neu
(b)y mae apêl ynglŷn ag ef wedi'i dwyn o dan adran 269 o'r Deddf honno cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2008, ni fydd y canlynol yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo—
(a)diddymu adrannau 269(2A) a (3A), 604 a 604A o Ddeddf 1985;
(b)y diddymiadau yn adran 323 o'r Deddf honno; ac
(c)y diwygiadau a wnaed gan adrannau 46 a 48(2) i (4) o Ddeddf 2004, a pharagraffau 13 i 18, 21, 22, 26, 27 a 33 o Atodlen 15 iddi.
(4) Pan fo—
(a)apêl ynglŷn â gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei chaniatáu; a
(b)y barnwr yn cynnwys yn ei farn ddyfarniad fel a grybwyllir yn adran 269(3A) o Ddeddf 1985,
rhaid i'r awdurdod tai lleol gymryd y dyfarniad i ystyriaeth os byddant wedyn yn ystyried cymryd camau o fath a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 Act ynglŷn â'r fangre o dan sylw.
(5) Yn ystod y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (3)—
(a)bydd adran 275 o Ddeddf 1985 (gorchmynion dymchwel: amnewid gorchmynion cau) yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo fel petai—
(i)y geiriau “and make a closing order as respects the premises” yn is-adran (1) wedi'u hepgor; a
(ii)y geiriau canlynol wedi'u rhoi yn lle is-adran (2)—
“(2) The authority must serve notice that the demolition order has been determined on every person on whom they would be required by section 268 to serve a copy of a demolition order as respects the premises.”; a
(b)bydd is-adran (2) o adran 304 o Ddeddf 1985 (gorchymyn cau sydd i'w wneud ynglŷn ag adeilad rhestredig sy'n ddarostyngedig i adran 265) yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn o'r fath fel petai'r geiriau “and they must serve notice that the demolition order has been determined on every person on whom they would be required by section 268 to serve a copy of a demolition order as respects the premises” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau ar ôl “operative”.
(6) Bydd gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn peidio â bod yn effeithiol ar 16 Mehefin 2008 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r gorchymyn cyn y dyddiad hwnnw.
(7) Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan—
(a)paragraffau 3, 4(3), 5 a 6 o Atodlen 15 i Ddeddf 2004; a
(b)paragraffau 30 a 31 o'r Atodlen honno,
yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
4. Bydd gorchymyn adeilad rhwystrol a gyflwynwyd o dan adran 284 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r gorchymyn cyn y dyddiad hwnnw.
5.—(1) Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan adran 47 o Ddeddf 2004, a pharagraffau 19, 22, 26 a 27 o Atodlen 15 iddi, yn effeithiol mewn perthynas ag ardal y datganwyd ei bod yn ardal glirio o dan adran 289(3)(b) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol, cyn y dyddiad cychwyn—
(a)wedi cyflwyno hysbysiad o dan adran 289(2B)(a) o Ddeddf 1985 o'i fwriad i gynnwys adeilad mewn ardal sydd i ddod yn ardal glirio; ond
(b)heb basio penderfyniad o dan adran 289(3)(b) o'r Deddf honno yn datgan bod yr ardal yn ardal glirio.
(3) Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)bydd yr hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (a) o'r is-baragraff hwnnw yn peidio â bod yn effeithiol; a
(b)bydd gofynion adran 289(2B)(b) ac (c) a (2F) yn peidio â bod yn gymwys i'r awdurdod tai lleol.
6.—(1) Bydd hysbysiad o benderfyniad i brynu mangre a gyflwynwyd o dan adran 300(2)(a) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n hysbysiad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i hysbysiad o benderfyniad—
(a)sydd wedi dod yn weithredol o dan adran 268(2) o Ddeddf 1985(1) cyn y dyddiad cychwyn; neu
(b)y mae apêl ynglŷn ag ef wedi'i dwyn o dan adran 269 o'r Deddf honno cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan adran 48(2) o Ddeddf 2004, a pharagraffau 13, 14, 20, 21, 26 a 27 o Atodlen 15 iddi, yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad o benderfyniad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
7.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gynigion a gyflwynwyd i awdurdod tai lleol o dan is-adran (1) o adran 308 o Ddeddf 1985 (cymeradwyo cynigion perchennog ar gyfer ailddatblygu) cyn y dyddiad cychwyn.
(2) Pan na fydd hysbysiad o dan is-adran (2) o'r adran honno wedi'i roi cyn y dyddiad hwnnw, bydd yr awdurdod yn peidio â bod yn ddarostyngedig i ofynion yr is-adran honno ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), bydd unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan yr is-adran honno cyn y dyddiad hwnnw yn peidio â bod yn effeithiol ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad ag ef cyn y dyddiad hwnnw.
(4) Os bydd yr awdurdod, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn ystyried cymryd camau o fath a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r fangre y mae'r hysbysiad hwnnw'n ymwneud â hi, rhaid i'r awdurdod, pan fydd yn gwneud ei benderfyniad, gymryd i ystyriaeth yr hysbysiad ac i ba raddau y bwriwyd ymlaen â'r ailddatblygu yn unol â'r cynigion ac o fewn y terfynau amser a bennwyd yn yr hysbysiad (yn ddarostyngedig i unrhyw amrywiad neu estyniad a gymeradwywyd gan yr awdurdod cyn y dyddiad hwnnw).
8.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd unrhyw gynigion a gyflwynwyd gan berchennog, neu dystysgrif a ddyroddwyd gan awdurdod tai lleol, o dan adran 310 o Ddeddf 1985 (gwelliannau neu newidiadau gan berchennog) cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â hwy cyn y dyddiad hwnnw.
(2) Ni fydd diddymu adran 311(2) o Ddeddf 1985 (cynigion sydd i'w trin fel gwrthwynebiad i orchymyn prynu gorfodol) yn effeithiol mewn perthynas â chynigion—
(a)a gyflwynwyd gan berchennog o dan adran 310 o'r Deddf honno; a
(b)a drosglwyddwyd gan yr awdurdod tai lleol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 311(1) o'r Deddf honno,
cyn y dyddiad cychwyn.
9. Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan adran 48(5) o Ddeddf 2004, a pharagraffau 25 i 27 o Atodlen 15 iddi, yn effeithiol mewn perthynas â chais a wnaed i'r llys o dan adran 318 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), bydd unrhyw hysbysiad gohirio gweithredu a gyflwynwyd o dan adran 81 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (“Deddf 1996”) cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r hysbysiad cyn y dyddiad hwnnw.
(2) Ni fydd diddymu adran 86 o Ddeddf 1996 (anffitrwydd i breswyliad dynol etc: pŵer i wella gweithdrefnau gorfodi) yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw apêl a ddygir o dan adran 191 (hysbysiadau trwsio) neu 269 (gorchmynion cau a gorchmynion dymchwel) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn.
(3) Ni fydd diddymu adrannau 87 (anffitrwydd i breswyliad dynol etc: pŵer i godi tâl am gamau gorfodi) ac 88 (adennill tâl am gamau gorfodi) yn effeithiol mewn perthynas â'r canlynol—
(a)unrhyw gamau a grybwyllir yn adran 87(1) o'r Deddf honno ac sydd wedi'u cymryd cyn y dyddiad cychwyn ; neu
(b)apêl fel a grybwyllir yn adran 87(6) o'r Deddf honno, a honno'n apêl sydd wedi'i dwyn cyn y dyddiad hwnnw.
Mae adran 300(2)(b) o Ddeddf Tai 1985 yn cymhwyso adrannau 268(2) a 269(1), (2), (3) a (6) o'r Deddf honno i hysbysiad o dan adran 300 fel y maent yn gymwys i orchymyn dymchwel neu orchymyn cau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: