- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
55.—(1) Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs rhan-amser dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.
(2) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas ag ef.
(3) Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (2) yn gymwys—
(a)os daw'r cwrs yn gwrs rhan-amser dynodedig ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y cafodd y cwrs ei ddynodi;
(b)os cydnabuwyd y ceisydd, priod y ceisydd, partner sifil y ceisydd neu riant y ceisydd fel ffoadur neu os rhoddwyd caniatâd iddynt ddod i mewn neu aros fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1 ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y rhoddwyd y gydnabyddiaeth neu'r caniatâd, yn y drefn honno; neu
(c)os yw'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan reoliad 54, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;
(ch)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddo.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes ganddo hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: