- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Nid oes dim yn erthygl 2 nac Atodlenni 1 a 2 sy'n effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth sy'n cael ei wneud gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo.
(2) Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achos cyfreithiol) gael ei barhau gan y Cynulliad neu mewn perthynas â'r Cynulliad os yw—
(a)yn ymwneud ag unrhyw un o swyddogaethau'r Bwrdd neu ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2), a
(b)wrthi'n cael ei wneud gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef pan fo'r swyddogaethau a enwyd yn cael eu trosglwyddo.
(3) Mae unrhyw beth—
(a)a wnaed gan y Bwrdd at ddibenion unrhyw un o'i swyddogaethau neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno neu gan y Bwrdd at ddibenion unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2) neu mewn cysylltiad â hwy; a
(b)sy'n cael effaith yn union cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo,
i gael effaith fel petai wedi'i wneud gan y Cynulliad.
(4) Mae'r Cynulliad yn cael ei roi yn lle'r Bwrdd mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud—
(a)ag unrhyw un o swyddogaethau'r Bwrdd, a
(b)ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2),
ac sydd wedi'u gwneud neu wedi'u cychwyn cyn i'w swyddogaethau gael eu trosglwyddo.
(5) Ar y dyddiad trosglwyddo, bydd rhwymedigaethau'r Bwrdd, y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt isod a gynhywsir yn adran 6 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969(1) yn effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 yn unig ond fel arall diddymir hwy:
(a)rhwymedigaeth y Bwrdd o dan adran 6(1) i baratoi datganiad o gyfrif, gyda'r arbediad bod y rhwymedigaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Cynulliad,
(b)rhwymedigaeth y Cynulliad o dan adran 6(3) i drosglwyddo'r datganiad o gyfrif i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac
(c)rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 6(4) i archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrif a gosod copïau o'r datganiad o gyfrif gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: