- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Hydref 2005 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, o ran Cymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru— gweler adran 211.
Mae effaith y darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel a ganlyn—
Mae adrannau 19, 20, 23, 33, 34, 39 ac Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth o ran llywodraethu ysgolion a gynhelir, gan ddisodli amryw o ddarpariaethau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”). Mae adran 19 ac Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir gael corff llywodraethu. Bydd rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi'r gofynion sy'n ymwneud ag aelodaeth o gyrff llywodraethu a gweithdrefnau'r cyrff hynny.
Mae adran 20 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir feddu ar offeryn llywodraethu sy'n pennu cyfansoddiad y corff llywodraethu a materion eraill ynglŷn â'r ysgol. Bydd Rheoliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi'r gofynion o ran gwneud offerynnau llywodraethu a chynnwys yr offerynnau hynny.
Mae adran 23 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n caniatáu i gyrff llywodraethu gydweithio drwy gyflawni eu swyddogaethau ar y cyd neu drwy gydbwyllgorau.
O dan adran 33 rhaid i gorff llywodraethu gynnal cyfarfod blynyddol rhieni. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n nodi o dan ba amgylchiadau y mae corff llywodraethu yn esempt rhag cynnal cyfarfod.
Mae adran 34 yn nodi'r trefniadau ar gyfer llywodraethu ysgolion newydd. Mae'n ofynnol i'r AALl sefydlu corff llywodraethu dros dro. Nodir y manylion ynglŷn â'r trefniadau mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae adran 39 yn cynnwys diffiniadau. Yn benodol mae'r diffiniad o 'maintained school' yn cynnwys 'maintained nursery school'. Effaith hyn yw bod ysgolion meithrin a gynhelir i gael cyrff llywodraethu.
Mae cychwyn adran 52(11) yn golygu bod y darpariaethau ynghylch gwahardd disgyblion o ysgolion a gynhwysir yn adran 52 yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.
Mae adran 53 yn diwygio adran 63 o Ddeddf 1998 er mwyn caniatáu i'r Cynulliad gynnwys absenoldebau awdurdodedig yn y targedau y gellir ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu eu pennu drwy reoliadau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: