(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Hydref 2005 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, o ran Cymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru— gweler adran 211.

Mae effaith y darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel a ganlyn—

  • Mae adrannau 19, 20, 23, 33, 34, 39 ac Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth o ran llywodraethu ysgolion a gynhelir, gan ddisodli amryw o ddarpariaethau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”). Mae adran 19 ac Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir gael corff llywodraethu. Bydd rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi'r gofynion sy'n ymwneud ag aelodaeth o gyrff llywodraethu a gweithdrefnau'r cyrff hynny.

  • Mae adran 20 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir feddu ar offeryn llywodraethu sy'n pennu cyfansoddiad y corff llywodraethu a materion eraill ynglŷn â'r ysgol. Bydd Rheoliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi'r gofynion o ran gwneud offerynnau llywodraethu a chynnwys yr offerynnau hynny.

  • Mae adran 23 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n caniatáu i gyrff llywodraethu gydweithio drwy gyflawni eu swyddogaethau ar y cyd neu drwy gydbwyllgorau.

  • O dan adran 33 rhaid i gorff llywodraethu gynnal cyfarfod blynyddol rhieni. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n nodi o dan ba amgylchiadau y mae corff llywodraethu yn esempt rhag cynnal cyfarfod.

  • Mae adran 34 yn nodi'r trefniadau ar gyfer llywodraethu ysgolion newydd. Mae'n ofynnol i'r AALl sefydlu corff llywodraethu dros dro. Nodir y manylion ynglŷn â'r trefniadau mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

  • Mae adran 39 yn cynnwys diffiniadau. Yn benodol mae'r diffiniad o 'maintained school' yn cynnwys 'maintained nursery school'. Effaith hyn yw bod ysgolion meithrin a gynhelir i gael cyrff llywodraethu.

  • Mae cychwyn adran 52(11) yn golygu bod y darpariaethau ynghylch gwahardd disgyblion o ysgolion a gynhwysir yn adran 52 yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.

  • Mae adran 53 yn diwygio adran 63 o Ddeddf 1998 er mwyn caniatáu i'r Cynulliad gynnwys absenoldebau awdurdodedig yn y targedau y gellir ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu eu pennu drwy reoliadau.