Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1818 (Cy.146)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

5 Gorffennaf 2005

Yn dod i rym

1 Medi 2005

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Medi 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.

Dirymu a darpariaeth drosiannol

2.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003(3), Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004(4) a rheoliad 4 o Reoliadau Athrawon Ysgol (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004(5) wedi'u dirymu.

(2Mae person sydd ar 1 Medi 2005 yn gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn unol â Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 i gael ei drin fel pe bai'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Dehongli

3.—(1Ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;

ystyr “athro neu athrawes gyflenwi” (“supply teacher”) yw athro neu athrawes a gyflogir yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion goruchwylio neu addysgu disgyblion nad yw eu hathro neu athrawes reolaidd ar gael i'w haddysgu;

ystyr “athro neu athrawes gyflenwi tymor byr” (“short term supply teacher”) yw athro neu athrawes gyflenwi a gyflogir am gyfnod o lai nag un tymor;

ystyr “athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sy'n bodloni'r gofynion sydd wedi'u pennu mewn rheoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 132 o Ddeddf 2002(6);

ystyr “athro neu athrawes raddedig” (“graduate teacher”) yw person a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;

mae “blwyddyn ysgol” (“school year”) yn cynnwys blwyddyn academaidd coleg AB;

ystyr “coleg AB” (“FE college”) yw sefydliad yn y sector addysg bellach yn unol â'r diffiniad yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(7);

mae i “corff llywodraethu” mewn perthynas â choleg AB yr un ystyr ag sydd i “governing body” yn adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw'r corff priodol o dan reoliad 5;

mae “cyflogwr” (“employer”) yn cynnwys awdurdod, corff llywodraethu neu berson arall sy'n cymryd person ymlaen (neu'n gwneud trefniadau i'w gymryd ymlaen) er mwyn darparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, ac mae “cyflogi” (“employed”), “cyflogaeth” (“employment”) ac unrhyw ymadroddion sy'n ymwneud â therfynu cyflogaeth i'w dehongli yn unol â hynny;

mae i “cyfnod allweddol” yr un ystyr ag sydd i “key stage” yn adran 103(1) o Ddeddf 2002;

ystyr “cyfnod ymsefydlu” (“induction period”) yw cyfnod ymsefydlu sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 8 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(8);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(9);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn Neddf Bancio a Deliadau Ariannol 1971(10);

ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) mewn perthynas ag ysgol yw unrhyw ddiwrnod pan fydd sesiwn ysgol yn yr ysgol honno, ac mewn perthynas â choleg AB unrhyw ddiwrnod pan fydd y coleg yn cyfarfod;

mae “pennaeth” (“head teacher”) yn cynnwys pennaeth coleg AB;

ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(11);

ystyr “Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol” (“the School Teachers' Qualifications Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(12);

ystyr “Rheoliadau Ymsefydlu Lloegr” (“England’s Induction Regulations”) yw rheoliadau a wneir o bryd i'w gilydd o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(13) mewn perthynas ag athrawon yn Lloegr;

ystyr “sefydliad” (“institution”) yw ysgol berthnasol, ysgol annibynnol neu goleg AB lle ceir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu o dan y Rheoliadau hyn, yn ôl gofynion y cyd-destun;

mae i “sesiwn ysgol” (“school session”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(14);

mae “tymor ysgol” (“school term”) yn cynnwys tymor coleg AB;

mae i “ysgol arbennig” yr un ystyr ag sydd i “special school” yn adran 337(1) o Ddeddf 1996(15);

ystyr “ysgol arbennig nas cynhelir” (“non-maintained special school”) yw ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig gymunedol nac yn ysgol arbennig sefydledig; ac

ystyr “ysgol berthnasol” (“relevant school”) yw ysgol sy'n cael ei chynnal gan awdurdod neu ysgol arbennig nas cynhelir.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu pan fydd y person hwnnw wedi gwasanaethu cyfnod ymsefydlu o —

(a)tri thymor ysgol, neu

(b)unrhyw hyd arall y mae'r corff priodol wedi penderfynu arno yn unol â rheoliad 8(2) (gan gynnwys dim ond cyfnodau cyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu o dan reoliad 9); a

phan fydd y corff priodol yn ymestyn y cyfnod ymsefydlu yn unol â rheoliad 10, cyfnod yr estyniad hwnnw.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —

(a)rheoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(b)paragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddynt; ac

(c)is-baragraff â Rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.

Torri terfynau amser

4.  Nid yw methiant gan unrhyw berson i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r person hwnnw o'r ddyletswydd honno.

Corff priodol

5.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn —

(a)y corff priodol mewn perthynas ag ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig, neu ysgol feithrin a gynhelir (ym mhob achos o fewn ystyr y termau cyfatebol Saesneg yn Neddf 1998) yw'r awdurdod sy'n ei chynnal;

(b)y corff priodol mewn perthynas ag ysgol arbennig nas cynhelir yw'r awdurdod ar gyfer yr ardal y mae'r ysgol wedi'i lleoli ynddi;

(c)y corff priodol mewn perthynas ag ysgol annibynnol yw —

(i)awdurdod, neu

(ii)unrhyw bersonau neu gorff y caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt, a rhaid i'r personau hynny neu'r corff hwnnw gynnwys cynrychiolydd awdurdod fel aelod; ac

(ch)y corff priodol mewn perthynas â choleg AB yw awdurdod.

(2Mae unrhyw gwestiwn ynglyn â phwy yw'r corff priodol er mwyn arfer unrhyw swyddogaethau a osodir ar gorff priodol neu a roddir i gorff priodol gan y Rheoliadau hyn mewn achos lle mae person yn gwasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn mwy nag un sefydliad i gael ei benderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Gofyniad i wasanaethu cyfnod ymsefydlu

6.  Yn ddarostyngedig i'r eithriadau yn Atodlen 1, nid oes neb i gael ei gyflogi ar neu ar ôl 1 Medi 2005 fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol oni bai bod y person hwnnw wedi cwblhau'n foddhaol gyfnod ymsefydlu yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn mewn ysgol neu goleg AB y mae rheoliad 7(1) yn cyfeirio atynt.

Sefydliadau lle ceir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond yn y canlynol y ceir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu —

(a)ysgol berthnasol yng Nghymru heblaw ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig sydd wedi ei sefydlu mewn ysbyty; neu

(b)o dan yr amgylchiadau a ragnodir ym mharagraff (3) ysgol annibynnol yng Nghymru; neu

(c)o dan yr amgylchiadau a ragnodir ym mharagraff (4) coleg AB yng Nghymru; neu

(ch)ysgol neu goleg AB yn Lloegr y ceir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu ynddynt o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.

(2Ni cheir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn y canlynol —

(a)ysgol yng Nghymru y mae'r amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 15(6)(a) a (b) o Ddeddf 1998 yn gymwys mewn perthynas â hi, oni bai —

(i)bod y person o dan sylw wedi dechrau ei gyfnod ymsefydlu neu wedi'i gyflogi fel athro neu athrawes raddedig neu athro neu athrawes gofrestredig neu ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn yr ysgol ar adeg pan nad oedd amgylchiadau o'r fath yn gymwys, neu

(ii)bod un o Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru wedi ardystio yn ysgrifenedig ei fod yn fodlon bod yr ysgol yn addas at ddibenion darparu goruchwyliaeth a hyfforddiant ymsefydlu; neu

(b)uned cyfeirio disgyblion.

(3Dyma'r amgylchiadau pan gaiff person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn ysgol annibynnol —

(a)yn achos person sy'n cael ei gyflogi i addysgu disgyblion yng nghyfnod allweddol tri neu bedwar, bod cwricwlwm yr ysgol ar gyfer disgyblion y cyfnodau allweddol hynny yn cynnwys yr holl bynciau craidd a'r holl bynciau sylfaen eraill a bennwyd mewn perthynas â chyfnodau allweddol tri a phedwar yn adran 105(2) a (3) ac adran 106(2) a (3) o Ddeddf 2002 y mae'r person hwnnw wedi'i gyflogi i'w haddysgu; a

(b)ym mhob achos, bod y cwricwlwm ar gyfer yr holl ddisgyblion cofrestredig yng nghyfnodau allweddol un a dau yn bodloni gofynion adran 105(1) o Ddeddf 2002 (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru), heblaw mewn perthynas â threfniadau asesu; ac

(c)ym mhob achos, cyn i'r cyfnod ymsefydlu ddechrau, bod perchennog yr ysgol a naill ai awdurdod neu'r personau neu'r corff y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 5(1)(c) wedi cytuno bod yr awdurdod neu'r personau neu'r corff, yn ôl fel y digwydd, i weithredu fel y corff priodol mewn perthynas â'r ysgol.

(4Ni chaiff person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn coleg AB yng Nghymru oni bai bod corff llywodraethu'r coleg ac awdurdod wedi cytuno, cyn i'r cyfnod ymsefydlu ddechrau, fod yr awdurdod i weithredu fel y corff priodol mewn perthynas â'r coleg.

(5Ni chaiff person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn dau neu fwy o sefydliadau ar yr un pryd oni bai bod penaethiaid yr holl sefydliadau wedi cytuno, cyn i'r cyfnod ymsefydlu ddechrau, p'un ohonynt sydd i weithredu fel y pennaeth arweiniol.

(6Yn y rheoliad hwn, mae “cyfnod ymsefydlu” (“induction period”) yn cynnwys rhan o gyfnod ymsefydlu.

Hyd cyfnod ymsefydlu

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), tri thymor ysgol fydd hyd cyfnod ymsefydlu (“y rheol tri thymor”).

(2Nid yw'r rheol tri thymor yn gymwys o dan yr amgylchiadau canlynol —

(a)os yw cyfnod ymsefydlu'n cael ei wasanaethu mewn sefydliad lle nad yw'r flwyddyn ysgol yn cynnwys tri thymor ysgol;

(b)os yw cyfnod ymsefydlu'n cael ei wasanaethu gan berson mewn gwasanaeth rhan-amser;

(c)os yw cyfnod ymsefydlu'n cael ei wasanaethu mewn dau neu fwy o sefydliadau ar yr un pryd;

(ch)os nad yw'n briodol, ym marn y corff priodol, fod y rheol tri thymor yn gymwys.

(3Hyd y cyfnod ymsefydlu pan nad yw'r rheol tri thymor yn gymwys yw unrhyw hyd a bennir gan y corff priodol.

Cyfnodau o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu

9.—(1Dim ond cyfnodau o gyflogaeth sydd wedi'u pennu ym mharagraff (2) ar neu ar ôl 1 Medi 2003 fel athro neu athrawes gymwysedig sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu.

(2At ddibenion paragraff (1), y cyfnodau o gyflogaeth yw:

(a)cyfnod o gyflogaeth mewn sefydliad yng Nghymru y mae rheoliad 7(1) yn gymwys iddo nad yw'n llai nag un tymor ysgol o ran ei hyd;

(b)cyfnod o gyflogaeth mewn sefydliad neu sefydliadau yng Nghymru y mae rheoliad 7(1) yn gymwys iddynt o ddau hanner tymor ysgol olynol (gan anwybyddu gwyliau);

(c)yn achos athro neu athrawes unigol cyfnod o gyflogaeth mewn sefydliad neu sefydliadau yng Nghymru y mae rheoliad 7(1) yn gymwys iddynt o unrhyw hyd arall sy'n briodol ym marn y corff priodol;

(ch)cyfnod o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg AB yn Lloegr os byddai'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.

Ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn ei gwblhau

10.—(1Pan fydd person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn absennol o'r gwaith am gyfanswm o ddeg ar hugain neu fwy o ddiwrnodau ysgol, caiff y corff priodol ymestyn y cyfnod ymsefydlu yn ôl cyfanswm cyfnod yr absenoldebau neu yn ôl unrhyw gyfnod llai sy'n briodol ym marn y corff priodol.

(2Os caiff cyfnod ymsefydlu ei ymestyn o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr a bod y person sy'n gwasanaethu'r cyfnod ymsefydlu yn symud i gyflogaeth mewn sefydliad yng Nghymru, mae'r cyfnod ymsefydlu i gael ei drin fel petai wedi'i ymestyn o dan y rheoliad hwn.

(3Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn y rheoliad hwn ni cheir ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn iddo gael ei gwblhau.

Gwasanaethu mwy nag un cyfnod ymsefydlu

11.  Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 14 neu 17, ni chaiff neb wasanaethu mwy nag un cyfnod ymsefydlu.

Goruchwylio a hyfforddi yn ystod y cyfnod ymsefydlu

12.  Bydd pennaeth sefydliad yng Nghymru lle mae person yn gwasanaethu cyfnod ymsefydlu a'r corff priodol mewn perthynas â'r sefydliad hwnnw yn gyfrifol am oruchwylio a hyfforddi'r person hwnnw yn ystod y cyfnod ymsefydlu.

Y safonau ar gyfer penderfynu a yw person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol

13.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y safonau yr asesir person sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn eu herbyn er mwyn penderfynu a yw'r person hwnnw wedi cwblhau ei gyfnod ymsefydlu yn foddhaol, a caiff benderfynu ar safonau gwahanol mewn perthynas â chategorïau gwahanol o bersonau.

Cwblhau cyfnod ymsefydlu

14.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu —

(a)os yw'r person hwnnw'n cael ei gyflogi mewn sefydliad yng Nghymru pan gwblheir y cyfnod ymsefydlu, neu

(b)os yw sefydliad y pennaeth arweiniol yng Nghymru pan gwblheir cyfnod ymsefydlu sy'n cael ei wasanaethu mewn dau neu fwy o sefydliadau ar yr un pryd.

(2O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad pan gwblhawyd y cyfnod ymsefydlu mae pennaeth y sefydliad lle cyflogir y person adeg cwblhau'r cyfnod ymsefydlu —

(a)yn gorfod gwneud argymhelliad ysgrifenedig i'r corff priodol a yw'r person wedi cyflawni'r safonau a grybwyllwyd yn rheoliad 13 neu beidio, a

(b)yn cael argymell ymestyn y cyfnod ymsefydlu a hyd ymestyniad o'r fath, os yw'n argymell nad yw'r safonau wedi'u cyflawni, ac

(c)yn gorfod anfon ar yr un pryd gopi o'r argymhelliad at y person o dan sylw ac,

(i)yn achos ysgol berthnasol neu goleg AB, at gorff llywodraethu'r ysgol neu'r coleg lle mae'r person yn cael ei gyflogi, neu

(ii)yn achos ysgol annibynnol, at y perchennog.

(3O fewn y cyfnod o ugain diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y daeth argymhelliad y pennaeth o dan baragraff (2) i law, rhaid i'r corff priodol benderfynu —

(a)a yw'r person sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu wedi cyflawni'r safonau a grybwyllwyd yn rheoliad 13 ac felly wedi cwblhau ei gyfnod ymsefydlu yn foddhaol;

(b)a ddylai cyfnod ymsefydlu y person sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu gael ei ymestyn yn unol ag unrhyw gyfnod y bydd y corff priodol yn penderfynu arno; neu

(c)a yw'r person sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu wedi methu â chwblhau ei gyfnod ymsefydlu yn foddhaol.

(4Cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (3) rhaid i'r corff priodol roi sylw i unrhyw sylwadau ysgrifenedig sydd wedi dod i law oddi wrth y person o dan sylw o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y person hwnnw gopi o argymhelliad y pennaeth o dan baragraff (2)(c).

(5O fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y gwnaeth y penderfyniad o dan baragraff (3), rhaid i'r corff priodol —

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad —

(i)i'r person o dan sylw,

(ii)yn achos ysgol berthnasol neu goleg AB, i gorff llywodraethu'r ysgol neu'r coleg lle mae'r person yn cael ei gyflogi,

(iii)yn achos ysgol annibynnol, i'r perchennog,

(iv)i bennaeth y sefydliad lle'r oedd yn cael ei gyflogi ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu,

(v)os nad yw'r person hwnnw yn cael ei gyflogi gan y corff priodol, i'w gyflogwr (os nad oes hawl gan y cyflogwr i gael hysbysiad o dan baragraff (ii) neu (iii) uchod), a

(vi)i'r Cyngor; a

(b)os gwnaeth y corff priodol benderfyniad sy'n dod o fewn paragraff (3)(b) neu (c), rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person o dan sylw ynglyn â'r canlynol —

(i)ei hawl i apelio at y Cyngor yn erbyn y penderfyniad,

(ii)cyfeiriad y Cyngor, a

(iii)y cyfnod amser ar gyfer apelio.

(6Caiff hysbysiad o dan baragraff (5) gael ei roi i berson drwy ffacsimili, post electronig neu ddulliau cyffelyb eraill sy'n gallu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun y cyfathrebiad, a bernir bod hysbysiad sy'n cael ei anfon drwy ddull o'r fath wedi'i roi pan fydd wedi dod i law mewn ffurf ddarllenadwy.

Ymestyn cyfnod ymsefydlu yn unol â phenderfyniad gan y corff priodol neu'r Cyngor

15.—(1Mae Rheoliadau 7, 9 i 14, 16 a 17 ac Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas â pherson sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i ymestyn wedi iddo gael ei gwblhau drwy benderfyniad gan y corff priodol o dan reoliad 14 neu drwy benderfyniad gan y Cyngor o dan reoliad 17 fel y mae'r darpariaethau hynny yn gymwys mewn perthynas â'r cyfnod ymsefydlu cychwynnol.

(2Mae Rheoliadau 7, 9 i 14, 16 a 17 ac Atodlen 2 yn gymwys hefyd mewn perthynas â pherson sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i ymestyn, wedi iddo gael ei gwblhau, o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr os yw'r person hwnnw wedyn yn cael ei gyflogi mewn sefydliad yng Nghymru, fel y mae'r darpariaethau hynny yn gymwys mewn perthynas â chyfnod ymsefydlu cychwynnol.

Terfynu cyflogaeth yn dilyn methiant i gwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol

16.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson a gyflogir fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru sydd wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol, boed yng Nghymru ynteu yn Lloegr.

(2Rhaid i gyflogwr person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo sicrhau bod cyflogaeth y person hwnnw fel athro neu athrawes yn cael ei therfynu —

(a)os nad yw'n apelio at y Cyngor yn erbyn penderfyniad y corff priodol; neu

(b)os yw ei apêl at y Cyngor, neu at y corff apelio o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr, yn cael ei gwrthod.

(3Rhaid i gyflogwr gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod cyflogaeth person sy'n cael ei therfynu o dan yr amgylchiadau a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) yn cael ei therfynu fel y bydd y terfyniad yn cael effaith o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad —

(a)y cafodd y cyflogwr hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth berson o'r fath nad oedd ganddo fwriad i apelio at y Cyngor; neu

(b)y daeth y terfyn amser ar gyfer apelio sy'n cael ei osod gan baragraff 2(1) o Atodlen 2 i ben.

(4Rhaid i'r cyflogwr gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod cyflogaeth person sy'n cael ei therfynu o dan yr amgylchiadau a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(b) yn cael ei therfynu fel y bydd y terfyniad yn cael effaith o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad pan gafodd y cyflogwr hysbysiad o ganlyniad gwrandawiad yr apêl.

(5Nid oes rheidrwydd ar gyflogwr person —

(a)y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, a

(b)sy'n apelio at y Cyngor yn erbyn penderfyniad y corff priodol neu sy'n apelio at y corff apelio o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr,

sicrhau bod cyflogaeth person o'r fath fel athro neu athrawes yn cael ei therfynu tra arhosir am ganlyniad yr apêl, ar yr amod bod y cyflogwr yn sicrhau mai dim ond y dyletswyddau addysgu cyfyngedig y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd â hwy.

Apelau

17.—(1Os yw'r corff priodol yn penderfynu o dan reoliad 14 —

(a)y dylid ymestyn cyfnod ymsefydlu person; neu

(b)bod person wedi methu â chwblhau'r cyfnod ymsefydlu yn foddhaol,

caiff y person hwnnw apelio at y Cyngor yn erbyn y penderfyniad.

(2Mae gan Atodlen 2 effaith mewn perthynas ag apelau o dan y rheoliad hwn.

(3Os bydd person yn apelio yn erbyn penderfyniad i ymestyn cyfnod ymsefydlu, caiff y Cyngor —

(a)caniatáu'r apêl;

(b)gwrthod yr apêl; neu

(c)gosod ymestyniad am gyfnod gwahanol yn lle'r ymestyniad.

(4Os bydd person yn apelio yn erbyn penderfyniad ei fod wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol, caiff y Cyngor —

(a)caniatáu'r apêl;

(b)gwrthod yr apêl; neu

(c)ymestyn y cyfnod ymsefydlu i'r person hwnnw fel y gwêl y Cyngor yn dda.

Swyddogaethau eraill y corff priodol

18.  Caiff y corff priodol ddarparu —

(a)canllawiau, cefnogaeth a chymorth i ysgolion a cholegau AB; a

(b)hyfforddiant i athrawon,

mewn cysylltiad â darparu hyfforddiant, goruchwyliaeth ac asesiadau ymsefydlu o dan y Rheoliadau hyn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os yw'n fodlon ei bod yn briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth amgylchiadau a effeithiodd yn sylweddol ar allu person i wasanaethu cyfnod ymsefydlu, mae corff priodol sy'n awdurdod yn cael awdurdodi person nad yw mwyach yn gallu cael ei gyflogi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i gael ei gyflogi fel athro neu athrawes gyflenwi tymor byr.

(3Yn y lle cyntaf, dim ond yn ystod cyfnod o ddeuddeg mis sy'n dechrau ar y dyddiad y mae'n cael ei gyflogi fel hyn gyntaf (gan unrhyw gyflogwr) y caiff person gael ei gyflogi yn athro neu athrawes gyflenwi tymor byr yn unol â pharagraff (2), ac ar ôl y cyfnod hwnnw dim ond os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cydsynio i awdurdodiad y corff priodol.

Taliadau

19.  Caiff corff priodol mewn perthynas ag ysgol annibynnol neu goleg AB godi tâl rhesymol (nad yw'n fwy na chost darparu'r gwasanaeth) ar gorff llywodraethu ysgol neu goleg AB y mae'n gorff priodol iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Canllawiau gan y Cynulliad Cenedlaethol

20.  Rhaid i berson neu gorff sy'n arfer swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn roi sylw i unrhyw ganllawiau sy'n cael eu rhoi gan y Cynulliad Cenedlaethol o bryd i'w gilydd ynghylch arfer y swyddogaeth honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(16)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2005

Rheoliad 6

ATODLEN 1ACHOSION LLE CEIR CYFLOGI PERSON FEL ATHRO NEU ATHRAWES MEWN YSGOL BERTHNASOL HEB FOD WEDI CWBLHAU CYFNOD YMSEFYDLU YN FODDHAOL

1.  Person sydd ar 1 Ebrill 2003 yn athro neu athrawes gymwysedig.

2.  Person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu (gan gynnwys cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i ymestyn cyn iddo gael ei gwblhau o dan reoliad 10 neu ar ôl iddo gael ei gwblhau o dan reoliad 14 neu 17).

3.  Person sydd wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol ac y mae cyfyngiad ar ei gyflogaeth o dan reoliad 16(5) tra arhosir am ganlyniad apêl.

4.  Person sydd wedi'i gyflogi fel athro neu athrawes gyflenwi tymor byr yn ystod cyfnod o bum mlynedd ar ôl y dyddiad y daeth yn athro neu athrawes gymwysedig.

5.  Person sydd wedi'i gyflogi fel athro neu athrawes gyflenwi tymor byr yn rhinwedd rheoliad 18(2).

6.  Person nad yw mwyach yn gallu cael ei gyflogi o dan baragraff 4 ond sy'n cael ei gyflogi fel athro neu athrawes gyflenwi tymor byr wrth wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn gwasanaeth rhan-amser.

7.  Person sy'n athro neu athrawes ysgol o fewn ystyr adran 122(5) o Ddeddf 2002(17).

8.  Person sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.

9.  Person sydd wedi cael, neu sy'n gymwys i gael, ei gofrestru'n llawn fel athro neu athrawes addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

10.  Person —

(a)sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus y cyfnod ymsefydlu ar gyfer addysg athrawon yng Ngogledd Iwerddon, neu

(b)a gyflogwyd fel athro neu athrawes yng Ngogledd Iwerddon ar unrhyw adeg cyn i gyfnod ymsefydlu hyfforddiant athrawon yng Ngogledd Iwerddon gael ei gyflwyno.

11.  Person sydd, mewn perthynas â phroffesiwn athrawon ysgol, yn dod o fewn Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC(18) ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau o leiaf dair blynedd o addysg a hyfforddiant proffesiynol, fel y cafodd ei hymestyn gan Gytundeb Ardal Economaidd Ewrop a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(19) fel y cafodd ei addasu gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(20), ac fel y cafodd ei ddiwygio gan y Cytundeb ar Ryddid i Bobl Symud a wnaed rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar un llaw a Chydffederasiwn y Swistir ar y llaw arall a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002(21).

12.  Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod prawf ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Gyfarwyddwr Addysg Gibraltar.

13.  Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus Raglen Ymsefydlu Taleithiau Jersey ar gyfer Athrawon sydd Newydd Gymhwyso.

14.  Person sydd wedi'i gymeradwyo gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey fel person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod ymsefydlu ar gyfer athrawon.

15.  Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod ymsefydlu ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Adran Addysg Ynys Manaw.

16.  Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus Raglen Ymsefydlu Ysgolion Addysg Plant y Lluoedd yn yr Almaen neu yng Nghyprus.

17.  Person a oedd ar neu cyn 1 Ebrill 2003 —

(a)yn cael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru neu Loegr; a

(b)naill ai —

(i)wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad addysgol yn yr Alban, neu

(ii)wedi'i gofrestru fel athro neu athrawes addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

18.  Person a oedd ar neu cyn 1 Ebrill 2003 —

(a)yn cael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru neu Loegr; a

(b)naill ai —

(i)wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad addysgol yng Ngogledd Iwerddon, neu

(ii)wedi cael cadarnhad ei fod yn cael ei gydnabod fel athro neu athrawes mewn ysgolion yng Ngogledd Iwerddon gan Adran Addysg Gogledd Iwerddon, a'r cadarnhad hwnnw heb gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg wedi iddo gael ei ddyfarnu.

19.  Person sy'n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 12 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 10 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999.

20.  Person sy'n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 13 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999.

21.  Person y ceir ei gyflogi o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yn Lloegr heb fod wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol.

22.  Person sydd —

(a)wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynol ar gyfer athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac a gydnabyddir felly gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno;

(b)â dim llai na dwy flynedd o brofiad o addysgu amser-llawn, neu brofiad cyfatebol, yn y Deyrnas Unedig neu mewn man arall;

(c)yn athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 9 neu 10 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 7 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999; ac

(ch)wedi'i asesu gan berson a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel person sy'n bodloni'r safonau a grybwyllwyd yn rheoliad 13.

23.  Person sydd —

(a)yn athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 10 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny, ac a ddaeth yn athro neu athrawes gymwysedig o'r fath drwy fodloni gofynion cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth heblaw drwy gwblhau'n llwyddiannus gyfnod o hyfforddiant ar y cynllun; a

(b)wedi'i asesu gan berson a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel person sy'n bodloni'r safonau a grybwyllwyd yn rheoliad 13.

Rheoliad 17

ATODLEN 2Y WEITHDREFN AR GYFER APELIO YN ERBYN PENDERFYNIAD GAN Y CORFF PRIODOL

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon —

ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person sy'n dwyn apêl yn unol â rheoliad 17 yn erbyn penderfyniad gan y corff priodol o dan reoliad 14;

ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw'r corff priodol a wnaeth y penderfyniad sy'n destun apêl;

ystyr “penderfyniad sy'n cael ei herio” (“disputed decision”) yw'r mater y mae'r apelydd yn apelio at y Cyngor mewn perthynas ag ef; ac

ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw'r person a benodir gan y Cyngor i gyflawni dyletswyddau swyddog priodol o dan yr Atodlen hon.

Yr amser a'r dull ar gyfer apelio

2.—(1Mae apêl i'w gwneud drwy anfon hysbysiad apêl at y swyddog priodol fel ei fod yn dod i law o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd yr apelydd hysbysiad o dan reoliad 14(5)(a) o'r penderfyniad sy'n cael ei herio.

(2Caiff y Cyngor ymestyn y terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1), p'un a yw eisoes wedi dod i ben neu beidio, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny oni bai ei fod yn fodlon y byddai peidio ag ymestyn y terfyn amser yn arwain at anghyfiawnder sylweddol.

(3Os yw'r apelydd o'r farn ei bod yn debygol y daw hysbysiad apêl i law y tu allan i'r terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1) ceir cyflwyno gyda hysbysiad yr apêl ddatganiad o'r rhesymau y dibynnir arnynt i gyfiawnhau'r oedi a rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw ddatganiad o'r fath wrth benderfynu a ddylid ymestyn y terfyn amser neu beidio.

Hysbysiad yr apêl

3.—(1Rhaid i hysbysiad yr apêl ddatgan —

(a)enw a chyfeiriad yr apelydd;

(b)enw a chyfeiriad yr ysgol lle'r oedd yr apelydd yn cael ei gyflogi ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu;

(c)enw a chyfeiriad cyflogwr yr apelydd, os oes un, ar ddyddiad yr apêl;

(ch)seiliau'r apêl;

(d)enw, cyfeiriad a phroffesiwn y person (os oes un) sy'n cynrychioli'r apelydd, a ph'un a ddylai'r Cyngor anfon dogfennau sy'n ymwneud â'r apêl at y cynrychiolydd yn hytrach nag at yr apelydd; ac

(dd)a yw'r apelydd yn gofyn i'r apêl gael ei phenderfynu mewn gwrandawiad llafar.

(2Rhaid i hysbysiad yr apêl gael ei lofnodi gan yr apelydd.

(3Rhaid i'r apelydd gynnwys copi o'r canlynol fel atodiadau i'r hysbysiad —

(a)yr hysbysiad a roddwyd i'r apelydd gan y corff priodol o dan reoliad 14(5)(a) sy'n ymwneud â'r penderfyniad sy'n cael ei herio;

(b)unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a roddwyd i'r apelydd gan y corff priodol yn rhoi rhesymau dros benderfyniad y corff priodol; ac

(c)pob dogfen arall y mae'r apelydd yn dibynnu arni at ddibenion yr apêl.

Dogfennau ychwanegol, diwygio'r apêl a'i thynnu yn ôl

4.—(1Ar unrhyw adeg cyn cael hysbysiad o'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu hysbysiad o benderfyniad gan y Cyngor o dan baragraff 11, caiff yr apelydd —

(a)anfon copïau o unrhyw ddogfennau ychwanegol y mae'n dymuno dibynnu arnynt at ddibenion yr apêl at y swyddog priodol;

(b)diwygio neu dynnu'r apêl yn ôl, neu unrhyw ran ohoni; neu

(c)diwygio unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd i ategu'r apêl neu ei dynnu yn ôl.

(2Ar unrhyw adeg caiff yr apelydd gymryd unrhyw gam a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.

(3Pan fydd apelydd yn tynnu apêl yn ôl ni chaiff ddwyn apêl newydd mewn perthynas â'r penderfyniad sy'n cael ei herio.

(4Caiff apêl gael ei diwygio neu ei thynnu yn ôl drwy anfon hysbysiad apêl diwygiedig neu hysbysiad yn datgan bod yr apêl yn cael ei thynnu yn ôl, yn ôl fel y digwydd, at y swyddog priodol.

Cydnabod yr apêl a rhoi gwybod amdano

5.—(1O fewn deg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Cyngor hysbysiad yr apêl, rhaid i'r swyddog priodol —

(a)anfon cydnabyddiaeth at yr apelydd bod hysbysiad yr apêl wedi dod i law;

(b)anfon copi o hysbysiad yr apêl ac unrhyw ddogfennau sy'n cyd-fynd ag ef at y corff priodol;

(c)os oes person neu gorff heblaw'r corff priodol wedi'i enwi fel cyflogwr yr apelydd yn hysbysiad yr apêl, anfon copi o hysbysiad yr apêl at y person neu'r corff hwnnw; ac

(ch)anfon copi o hysbysiad yr apêl at bennaeth yr ysgol neu'r coleg AB lle'r oedd yr apelydd yn cael ei gyflogi pan gwblhawyd y cyfnod ymsefydlu.

(2O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Cyngor oddi wrth yr apelydd unrhyw ddogfennau ychwanegol, seiliau diwygiedig dros apelio, dogfennau diwygiedig a gyflwynwyd i ategu'r apêl neu hysbysiad bod apêl yn cael ei thynnu'n ôl, rhaid i'r swyddog priodol anfon copi at y corff priodol.

Cais am ragor o ddeunydd

6.—(1Os yw'r Cyngor o'r farn y gellid penderfynu ar yr apêl yn decach ac yn fwy effeithlon pe bai'r apelydd yn darparu rhagor o ddeunydd, caiff anfon hysbysiad at yr apelydd sy'n gwahodd yr apelydd i gyflenwi'r deunydd o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar ddyddiad yr hysbysiad.

(2Os yw'r Cyngor yn anfon hysbysiad o dan is-baragraff (1) rhaid i'r swyddog priodol ar yr un pryd hysbysu'r corff priodol ei fod wedi gwneud hynny.

(3O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Cyngor ragor o ddeunydd o dan is-baragraff (1) rhaid i'r swyddog priodol anfon copi ohono at y corff priodol.

Ateb gan y corff priodol

7.—(1Rhaid i'r corff priodol anfon ateb at y swyddog priodol sy'n bodloni gofynion paragraff 8 fel ei fod yn dod i law o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y corff priodol gopi o hysbysiad yr apêl.

(2Caiff y Cyngor ymestyn y terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1) p'un a yw eisoes wedi dod i ben neu beidio.

(3Rhaid i'r Cyngor ganiatáu'r apêl os yw'r corff priodol yn datgan yn ei ateb, neu yn datgan yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg, nad yw'n bwriadu cadarnhau'r penderfyniad sy'n cael ei herio, a rhaid i'r Cyngor wneud hynny o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Cyngor hysbysiad nad oedd y corff priodol yn bwriadu cadarnhau'r penderfyniad sy'n cael ei herio.

Cynnwys yr ateb

8.—(1Rhaid i'r ateb ddatgan —

(a)enw a chyfeiriad y corff priodol;

(b)a yw'r corff priodol yn bwriadu cadarnhau'r penderfyniad sy'n cael ei herio neu beidio; ac

(c)mewn achosion lle mae'r corff priodol yn bwriadu cadarnhau'r penderfyniad sy'n cael ei herio —

(i)ateb y corff priodol i bob un o'r seiliau dros yr apêl a roddwyd gan yr apelydd,

(ii)a yw'r corff priodol yn gwneud cais am wrandawiad llafar neu beidio, a

(iii)enw, cyfeiriad a phroffesiwn y person (os oes un) sy'n cynrychioli'r corff priodol, a ph'un a ddylai'r Cyngor anfon dogfennau sy'n ymwneud â'r apêl at y cynrychiolydd hwnnw yn hytrach nag at y corff priodol.

(2Rhaid i'r corff priodol gynnwys y canlynol fel atodiadau i'r ateb —

(a)copi o unrhyw ddogfen y mae'n dymuno dibynnu arni at ddibenion gwrthwynebu'r apêl; a

(b)os nad yw'r apelydd wedi anfon at y swyddog priodol gopi o ddatganiad ysgrifenedig a roddwyd i'r apelydd gan y corff priodol yn rhoi rhesymau dros benderfyniad y corff priodol, ddatganiad sy'n rhoi rhesymau dros y penderfyniad.

Dogfennau ychwanegol, diwygio'r ateb a'i dynnu yn ôl

9.—(1Ar unrhyw adeg cyn iddo gael hysbysiad o'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu hysbysiad o benderfyniad y Cyngor o dan baragraff 11, caiff y corff priodol —

(a)anfon copïau o unrhyw ddogfennau ychwanegol y mae'n dymuno dibynnu arnynt at ddibenion gwrthwynebu'r apêl at y swyddog priodol;

(b)diwygio neu dynnu ei ateb yn ôl, neu unrhyw ran ohono;

(c)diwygio unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd i ategu'r ateb neu ei dynnu yn ôl.

(2Ar unrhyw adeg caiff y corff priodol gymryd unrhyw gam a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.

(3Caiff ateb gael ei ddiwygio neu ei dynnu yn ôl drwy anfon ateb diwygiedig neu hysbysiad yn datgan bod yr ateb yn cael ei dynnu yn ôl, yn ôl fel y digwydd, at y swyddog priodol.

Cydnabod yr ateb a rhoi gwybod amdano

10.—(1O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Cyngor yr ateb, rhaid i'r swyddog priodol —

(a)anfon cydnabyddiaeth at y corff priodol bod yr ateb wedi dod i law; a

(b)anfon copi o'r ateb ac unrhyw ddogfennau sy'n cyd-fynd ag ef at yr apelydd.

(2O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Cyngor oddi wrth y corff priodol unrhyw ddogfennau ychwanegol, ateb diwygiedig, dogfennau diwygiedig a gyflwynwyd i ategu ateb, neu hysbysiad bod ateb yn cael ei dynnu'n ôl, rhaid i'r swyddog priodol anfon copi at yr apelydd.

Pŵer i benderfynu ar yr apêl heb wrandawiad

11.—(1Os nad yw'r apelydd na'r corff priodol wedi gwneud cais am wrandawiad llafar ar ôl i'r cyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r corff priodol anfon ei ateb ddod i ben, ac nad yw'r Cyngor o'r farn bod angen gwrandawiad llafar, caiff y Cyngor benderfynu ar yr apêl heb wrandawiad llafar.

(2Os yw'r cyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r corff priodol anfon ei ateb wedi dod i ben ac nad yw'r corff priodol wedi gwneud hynny, caiff y Cyngor ganiatáu'r apêl heb wrandawiad llafar.

(3Os yw'r Cyngor yn penderfynu ar yr apêl heb wrandawiad llafar, rhaid iddo anfon hysbysiad o'i benderfyniad yn unol â'r gofynion ym mharagraff 17 fel bod yr hysbysiad yn dod i law'r apelydd a'r corff priodol o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y diwrnod sy'n dilyn y diwrnod y daeth y terfyn amser ar gyfer anfon ateb i ben.

Gwrandawiad apêl

12.  Mae paragraffau 13 i 16 yn gymwys os yw'r apêl i gael ei phenderfynu ar sail gwrandawiad llafar.

Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad

13.—(1Rhaid i'r Cyngor bennu dyddiad ar gyfer y cyfarfod —

(a)o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y diwrnod yn dilyn y dyddiad y daeth yr amser ar gyfer anfon ateb i ben; a

(b)nid cyn y diwrnod yn dilyn y dyddiad y daeth y cyfnod ar gyfer anfon ateb i ben.

(2Ar yr un diwrnod ag y bydd y Cyngor yn pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad, rhaid i'r swyddog priodol anfon at yr apelydd a'r corff priodol hysbysiad —

(a)yn eu hysbysu am amser a lleoliad gwrandawiad yr apêl;

(b)yn rhoi canllawiau ynghylch y weithdrefn a fydd yn gymwys i'r gwrandawiad;

(c)yn eu hysbysu am ganlyniadau peidio â bod yn bresennol yn y gwrandawiad; ac

(ch)yn eu hysbysu am eu hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig os na fyddant yn bresennol yn y gwrandawiad.

(3Rhaid i'r dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad beidio â bod yn llai na 15 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad.

Y camau sydd i'w dilyn gan yr apelydd a'r corff priodol ar ôl i'r hysbysiad am y gwrandawiad ddod i law

14.—(1Heb fod yn llai na deg diwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad mae'r apelydd a'r corff priodol —

(a)yn gorfod hysbysu'r swyddog priodol a ydynt yn bwriadu ymddangos neu gael eu cynrychioli yn y gwrandawiad neu beidio;

(b)yn gorfod hysbysu'r swyddog priodol pa dystion, os oes rhai, y maent yn bwriadu eu galw yn y gwrandawiad;

(c)os nad ydynt yn bwriadu ymddangos neu gael eu cynrychioli yn y gwrandawiad, yn cael anfon at y swyddog priodol unrhyw sylwadau ysgrifenedig i ategu'r deunydd sydd eisoes wedi'i anfon at y swyddog priodol.

(2O fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y daw sylwadau i law, rhaid i'r swyddog priodol anfon at y naill barti a'r llall gopi o unrhyw sylwadau a ddaeth i law'r swyddog priodol oddi wrth y parti arall o dan y paragraff hwn.

Newid lleoliad neu amser y gwrandawiad

15.—(1Caiff y Cyngor newid lleoliad neu amser y gwrandawiad o dan unrhyw amgylchiadau sydd ym marn y Cyngor yn briodol, ar yr amod nad yw'r dyddiad newydd ar gyfer y gwrandawiad yn gynharach na'r dyddiad gwreiddiol.

(2Os yw'r Cyngor yn newid lleoliad neu amser y gwrandawiad, rhaid i'r swyddog priodol anfon hysbysiad at yr apelydd a'r corff priodol yn eu hysbysu o'r newid a hynny yn ddi-oed a beth bynnag o fewn tri diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y newid ei wneud.

Y weithdrefn yn y gwrandawiad

16.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, rhaid i'r Cyngor benderfynu ar y weithdrefn yn ystod gwrandawiad yr apêl.

(2Rhaid i wrandawiad yr apêl gael ei gynnal yn gyhoeddus oni bai bod y Cyngor yn penderfynu ei bod yn deg ac yn rhesymol i'r gwrandawiad neu unrhyw ran ohono gael ei gynnal yn breifat.

(3Caiff yr apelydd a'r corff priodol ymddangos yn y gwrandawiad a gallant gael eu cynrychioli neu eu cynorthwyo gan unrhyw berson.

(4Os yw'r apelydd neu'r corff priodol yn methu â bod yn bresennol yn y gwrandawiad, caiff y Cyngor wrando'r apêl yn absenoldeb y parti hwnnw a phenderfynu arni, ar yr amod bod y Cyngor wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y parti o dan sylw o dan baragraff 14.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), caiff yr apelydd a'r corff priodol roi tystiolaeth, galw tystion, holi unrhyw dystion ac annerch y Cyngor ar y dystiolaeth ac yn gyffredinol ar destun yr apêl.

(6Ar unrhyw adeg yn ystod y gwrandawiad, caiff y Cyngor gyfyngu ar hawliau'r naill barti neu'r llall o dan is-baragraff (5) ar yr amod bod y Cyngor wedi'i fodloni na fydd gwneud hynny yn atal yr apêl rhag cael ei phenderfynu'n deg.

(7Caiff y Cyngor ohirio'r gwrandawiad, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny oni bai ei fod wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny er mwyn i'r apêl gael ei phenderfynu'n deg.

(8Rhaid i amser a lleoliad gwrandawiad sydd wedi'i ohirio naill ai cael eu cyhoeddi cyn y gohiriad neu rhaid i'r Cyngor anfon hysbysiad at yr apelydd a'r corff priodol yn eu hysbysu am amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig yn ddi-oed, a beth bynnag o fewn tri diwrnod gwaith sy'n dechrau ar ddyddiad y gohiriad.

Penderfyniad y Cyngor

17.—(1Caiff penderfyniad y Cyngor gael ei wneud a'i gyhoeddi ar ddiwedd y gwrandawiad, ond beth bynnag fo'r achos, p'un a fu gwrandawiad neu beidio, rhaid i'r penderfyniad gael ei gofnodi yn union wedi iddo gael ei wneud a hynny mewn dogfen y mae'n rhaid iddi gynnwys hefyd ddatganiad o'r rhesymau dros y penderfyniad ac y mae'n rhaid ei llofnodi a'i dyddio gan berson a awdurdodir gan y Cyngor.

(2O fewn y cyfnod o bum diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y gwnaed y penderfyniad, rhaid i'r Cyngor —

(a)anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) at yr apelydd, y corff priodol a phennaeth yr ysgol neu'r coleg AB lle'r oedd yr apelydd yn cael ei gyflogi pan gafodd y cyfnod ymsefydlu ei gwblhau; a

(b)os oes person neu gorff heblaw'r corff priodol wedi'i enwi fel cyflogwr yr apelydd yn yr hysbysiad apêl, hysbysu'r corff neu'r person hwnnw o'i benderfyniad.

Afreoleidd-dra

18.—(1Ni fydd unrhyw afreoleidd-dra sy'n deillio o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Atodlen hon cyn i'r Cyngor gyrraedd ei benderfyniad ynddo'i hun yn dirymu'r achos.

(2Os daw unrhyw afreoleidd-dra o'r fath i sylw'r Cyngor, fe gaiff y Cyngor roi unrhyw gyfarwyddiadau sydd ym marn y Cyngor yn gyfiawn, cyn dod i'w benderfyniad, i unioni neu anwybyddu'r afreoleidd-dra, a rhaid iddo wneud hynny os yw o'r farn bod y naill barti neu'r llall wedi'u rhagfarnu gan yr afreoleidd-dra.

Dogfennau

19.—(1Caiff unrhyw beth y mae'n ofynnol ei anfon at berson at ddibenion apêl o dan yr Atodlen hon —

(a)cael ei drosglwyddo i'r person hwnnw yn bersonol; neu

(b)cael ei anfon at y person hwnnw yn ei gyfeiriad priodol drwy'r post; neu

(c)cael ei anfon ato drwy ffacsimili neu bost electronig neu ddulliau cyffelyb eraill sy'n gallu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun y cyfathrebiad, ac os felly bernir bod y ddogfen wedi'i hanfon pan fydd wedi dod i law mewn ffurf ddarllenadwy.

(2Cyfeiriad priodol person yw'r cyfeiriad sydd wedi'i ddatgan yn hysbysiad yr apêl neu'r ateb, neu unrhyw gyfeiriad arall a gaiff ei hysbysu wedi hynny i'r swyddog priodol.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd. I raddau helaeth, mae darpariaethau Rheoliadau 2003 yn cael eu hailddeddfu, ac eithrio fel yr esbonnir isod.

Mae'n rhaid i bersonau sydd wedi eu cymhwyso'n athrawon ar ôl 1 Ebrill 2003 gwblhau cyfnod ymsefydlu cyn cael eu cyflogi yn athrawon mewn ysgol sy'n cael ei chynnal gan AALl neu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly (“ysgol berthnasol”).

Nid yw'r gofyniad hwn yn gymwys i'r personau sydd wedi'u pennu yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys athrawon sydd wrthi'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu; athrawon nad yw'n ofynnol iddynt fod yn athrawon cymwysedig; athrawon sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus neu gyfnod prawf mewn man arall yn y Deyrnas Unedig; rhai athrawon sydd wedi cymhwyso yn rhinwedd cyflogaeth fel athrawon mewn ysgolion annibynnol neu mewn colegau addysg bellach; athrawon nad yw'n ofynnol iddynt wasanaethu cyfnod ymsefydlu o dan y rheoliadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr; athrawon cymwysedig o'r Undeb Ewropeaidd, Norwy, Liechtenstein, Gwlad yr Iâ neu'r Swistir; athrawon o wledydd tramor a gymhwysodd dros y môr, y mae ganddynt o leiaf ddwy flynedd o brofiad o addysgu ac a gymhwysodd ar y cynllun hyfforddiant athrawon ar sail cyflogaeth ac yr aseswyd eu bod yn bodloni'r safonau ymsefydlu.

Mae eithriad newydd yn cael ei ychwanegu at Atodlen 1, a fydd yn cwmpasu rhai athrawon profiadol o'r sector addysg bellach ac ysgolion annibynnol. Athrawon yw'r rhain a gymhwysodd ar y cynllun hyfforddiant athrawon ar sail cyflogaeth ac yr aseswyd o dan y cynllun eu bod yn bodloni'r safonau ar gyfer athrawon cymwysedig heb ofyniad i ymgymryd â hyfforddiant pellach o dan y cynllun, ac yr aseswyd eu bod yn bodloni'r safonau ymsefydlu.

Mae'r darpariaethau mewn perthynas ag athrawon cyflenwi tymor byr hefyd wedi'u diwygio. Erbyn hyn, bydd person yn gallu gweithio fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi tymor byr heb wasanaethu cyfnod ymsefydlu am gyfnod o bum mlynedd o'r dyddiad y cymhwysodd. Ar ôl y cyfnod hwnnw, bydd corff priodol yn gallu awdurdodi person i weithio am 12 mis arall fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi tymor byr heb wasanaethu cyfnod ymsefydlu os yw amgylchiadau wedi effeithio'n sylweddol ar allu'r person i wasanaethu cyfnod ymsefydlu. Pan fydd y 12 mis ar ben, bydd corff priodol yn gallu awdurdodi rhagor o gyflogaeth fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi tymor byr ond dim ond gyda chydsyniad y Cynulliad.

Caiff cyfnod ymsefydlu gael ei wasanaethu mewn ysgol berthnasol (heblaw ysgol mewn ysbyty) neu mewn ysgol annibynnol ar yr amod bod ei chwricwlwm yn bodloni rhai o ofynion penodol y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Ni all cyfnod ymsefydlu gael ei wasanaethu mewn uned cyfeirio disgyblion nac mewn ysgol y mae angen mesurau arbennig ar ei chyfer oni bai bod y person o dan sylw wedi dechrau ar y cyfnod ymsefydlu neu mewn cyflogaeth ar raglen hyfforddi ar sail cyflogaeth cyn y dyfarniad bod ar yr ysgol angen mesurau arbennig, neu oni bai bod un o Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru yn ardystio bod yr ysgol yn addas i ddarparu cyfnod ymsefydlu. Mae darpariaeth newydd yn cael ei gwneud i ganiatáu i gyfnod ymsefydlu gael ei wasanaethu mewn coleg addysg bellach. Dim ond mewn coleg chweched dosbarth y gallai cyfnod ymsefydlu gael ei wasanaethu o'r blaen.

Mae darpariaethau diwygiedig yn cael eu gwneud yn rheoliadau 8 a 9 mewn perthynas â hyd y cyfnod ymsefydlu a'r cyfnodau cyflogaeth sy'n gallu cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu. Fel rheol gyffredinol, mae'n rhaid i gyfnod ymsefydlu bara am dri thymor ysgol, ond does dim angen iddo wneud hynny os nad yw'r flwyddyn ysgol mewn ysgol neu goleg yn cynnwys tri thymor, os yw person yn gwasanaethu cyfnod ymsefydlu ar sail ran-amser neu os nad yw'r corff priodol o'r farn ei bod yn briodol defnyddio'r rheol tri thymor. Yn yr achosion hyn, mae gan y corff priodol ddisgresiwn i bennu pa mor hir fydd y cyfnod ymsefydlu.

Fel rheol gyffredinol, mae'n rhaid i berson weithio am dymor llawn er mwyn i'r cyfnod cyflogaeth hwnnw gyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu. Nid yw'r rheol tymor llawn yn gymwys os yw'r person yn cael ei gyflogi am ddau hanner tymor olynol neu os yw'r corff priodol o'r farn ei bod yn briodol cyfrif cyfnod cyflogaeth arall tuag at gyfnod ymsefydlu.

Mae darpariaeth ddiwygiedig yn cael ei gwneud hefyd yn rheoliad 10 mewn perthynas ag ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn iddo gael ei gwblhau. Mae pŵer yn cael ei roi i'r corff priodol i ymestyn cyfnod ymsefydlu os bydd person wedi bod yn absennol o'r gwaith am 30 diwrnod ysgol neu fwy.

Mae'r gofynion manwl ynglyn â goruchwylio a hyfforddi wedi'u tynnu o'r rheoliadau.

Mae pŵer yn cael ei roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bennu'r safonau y mae athrawon sy'n gwasanaethu cyfnodau ymsefydlu i gael eu hasesu yn eu herbyn er mwyn penderfynu a ydyn nhw wedi cwblhau eu cyfnodau ymsefydlu'n llwyddiannus. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi safonau o'r fath ac mae modd eu gweld yn www.dysgu.cymru.gov.uk.

Ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu, mae pennaeth yr ysgol neu'r coleg lle cyflogir yr athro neu'r athrawes yn gwneud argymhelliad i'r corff priodol, ac mae'r corff hwnnw'n penderfynu a yw'r person wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus, a ddylai cyfnod ymsefydlu'r person gael ei ymestyn neu a yw'r person wedi methu â chwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus. Gall person y mae ei gyfnod ymsefydlu wedi'i ymestyn neu sydd wedi methu â chwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus apelio at Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Mae Atodlen 2 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer apelau o'r fath.

Rhaid i unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn roi sylw i ganllawiau sy'n cael eu cyhoeddi gan y Cynulliad. Mae'r canllawiau hyn i'w gweld yn www.dysgu.cymru.gov.uk. Yn benodol, mae canllawiau'n cael eu rhoi ar arfer y disgresiwn newydd sy'n cael ei roi i gyrff priodol yn rheoliadau 8, 9, 10 a 18, ac ar gyflawni'r ddyletswydd sy'n cael ei gosod yn rheoliad 12 ar benaethiaid a'r cyrff priodol mewn perthynas â goruchwylio a hyfforddi person yn ystod y cyfnod ymsefydlu.

(1)

1998 p.30; diwygiwyd adran 19 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, adran 139 ac Atodlen 11, a Deddf Addysg 2002, Atodlen 21, paragraff 85. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(6)

Y Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1729 (Cy.173).

(10)

1971 p.80.

(13)

Y rheoliadau mewn grym ar gyfer Lloegr adeg gwneud y Rheoliadau hyn oedd Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cydgrynhoad) (Lloegr) 2001 (O.S. 2001/2897) fel y'u diwygiwyd gan O.S.2001/3938, O.S. 2002/2063 ac O.S. 2003/2148.

(15)

1996 p.56. Mae adran 337(1) wedi'i ddiwygio gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(16)

1998 p.38.

(17)

Gweler Gorchymyn Addysg (Cymwysterau Rhagnodedig Athrawon Ysgol, etc) 2003, O.S. 2003/1709.

(18)

O.J. Rhif L19, 24.1.89, t.16.

(19)

Cm. 2073.

(20)

Cm. 2183.

(21)

Cm. 4904.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources