- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Cyhyd ag y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff (2), gellir gwneud apêl o dan adran 71(1)(b) neu (c) o'r Ddeddf yn erbyn tynnu'n ôl hysbysiad adfer, neu hepgor neu lacio ei ofynion, a hynny ar unrhyw un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (3).
(2) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)nad yw'r awdurdod perthnasol wedi dyroddi hysbysiad adfer arall mewn perthynas â'r un gwrych neu berth uchel; a
(b)na chydsyniodd y person sy'n dymuno apelio â thynnu'n ôl yr hysbysiad adfer neu (yn ôl y digwydd) â hepgor neu lacio gofynion yr hysbysiad hwnnw.
(3) Dyma'r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —
(a)na fu unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau ers gwneud y gŵyn, y dyroddwyd yr hysbysiad adfer mewn cysylltiad â hi, sef newid a fyddai'n cyfiawnhau tynnu'n ôl yr hysbysiad adfer neu (yn ôl y digwydd) hepgor neu lacio ei ofynion;
(b)bod gofynion yr hysbysiad adfer, fel y maent wedi'u hepgor neu wedi'u llacio, yn annigonol i wneud iawn am effaith andwyol y gwrych neu'r berth uchel ar y mwynhad rhesymol a gaiff yr achwynydd o'r eiddo domestig a bennir yn yr hysbysiad adfer neu i atal ailadrodd yr effaith andwyol honno; neu
(c)yn achos apêl gan berchennog neu feddiannydd y tir cyfagos, bod gofynion yr hysbysiad adfer, fel y maent wedi'u hepgor neu wedi'u llacio, yn fwy na'r hyn sy'n angenrheidiol i wneud iawn am effaith andwyol y gwrych neu'r berth uchel ar y mwynhad rhesymol a gaiff yr achwynydd o'r eiddo domestig a bennir yn yr hysbysiad neu i atal ailadrodd yr effaith andwyol honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: