- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol roi hysbysiad o'r apêl o fewn 2 wythnos i'r dyddiad cychwyn i unrhyw bersonau, ac eithrio'r partïon, sydd wedi gwneud sylwadau i'r awdurdod perthnasol ynghylch y penderfyniad y mae'r apêl yn ymwneud ag ef.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)—
(a)nodi enw'r apelydd a chyfeiriad y tir lle y mae'r gwrych neu'r berth uchel y mae'r apêl yn ymwneud â hwy wedi'u lleoli;
(b)nodi'r materion yr hysbyswyd y partïon ohonynt gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 10;
(c)disgrifio natur yr apêl a'r seiliau dros wneud yr apêl;
(ch)datgan y bydd copïau o unrhyw sylwadau sydd wedi'u gwneud gan unrhyw berson y crybwyllir ei enw ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn yn cael eu hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ac at bob un o'r partïon;
(d)datgan y caniateir anfon sylwadau ysgrifenedig ychwanegol i'r Cynulliad Cenedlaethol fel y byddant yn dod i law o fewn 6 wythnos i'r dyddiad cychwyn, a phan fo sylwadau o'r fath yn cael eu hanfon, ei bod yn ofynnol anfon tri chopi ohonynt;
(dd)datgan y bydd unrhyw sylwadau o'r fath yn cael eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd yn penderfynu ar yr apêl oni fydd unrhyw berson yn eu tynnu'n ôl o fewn 6 wythnos i'r dyddiad cychwyn; ac
(e)datgan y weithdrefn sydd i'w defnyddio i benderfynu ar yr apêl.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo eu cael, anfon copi o unrhyw sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd o dan baragraff (2)(d) at bob un o'r partïon.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: