- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“y Ddeddf”) yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol i ymdrin â chwynion ynghylch gwrychoedd neu berthi uchel sy'n effeithio'n andwyol ar y mwynhad a gaiff cymydog o'i eiddo.
Caiff perchennog neu feddiannydd eiddo domestig (yr “achwynydd”) wneud cwyn ar y sail bod uchder gwrych neu berth sydd wedi'u lleoli ar dir y mae person arall yn berchen arno neu'n ei feddiannu yn effeithio'n andwyol ar y mwynhad rhesymol a gaiff yr achwynydd o'r eiddo. Rhaid gwneud cwyn i'r awdurdod lleol y mae'r tir y mae'r gwrych neu'r berth wedi'u lleoli arno yn ei ardal a rhaid amgáu gyda'r gŵyn ffi a bennir gan yr awdurdod lleol (yn ddarostyngedig i uchafswm a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru).
Mae adran 71 o'r Ddeddf yn nodi'r amrywiol hawliau i apelio yn erbyn penderfyniadau awdurdod lleol o dan adran 68 o'r Ddeddf (gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion) ac o dan adran 70 o'r Ddeddf (tynnu'n ôl, hepgor neu lacio hysbysiadau adfer) ac yn erbyn unrhyw hysbysiad adfer a ddyroddir gan yr awdurdod lleol. Mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, rhaid gwneud apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol (“yr awdurdod apelau”).
Yn ei swyddogaeth fel yr awdurdod apelau mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, mae adran 72 o'r Ddeddf yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i wneud rheoliadau—
(a)i ddarparu gweithdrefn ar gyfer ymdrin ag apelau o dan Ran 8 o'r Ddeddf (gan gynnwys pennu ar ba seiliau y caniateir i apelau gael eu gwneud);
(b)i benodi person arall i wrando ar apelau a phenderfynu arnynt (“person penodedig”); ac
(c)i fynnu bod person penodedig yn cyflawni holl swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw rai ohonynt mewn perthynas ag apelau o'r fath.
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu neu wrthod apêl, yn llwyr neu'n rhannol. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn caniatáu apêl, caiff ddiddymu neu amrywio'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn berthnasol iddo a chaiff hefyd ddyroddi hysbysiad adfer os bydd yr awdurdod lleol, pan oedd yn ymdrin â'r gŵyn wreiddiol, wedi penderfynu peidio â gwneud hynny. Ni waeth beth fydd ei benderfyniad ar yr apêl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gywiro unrhyw ddiffyg, camgymeriad neu gamddisgrifiad yn yr hysbysiad adfer gwreiddiol os yw o'r farn na fydd hynny'n peri anghyfiawnder.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: