Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 4Lwfansau Eraill

Lwfansau gofal

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff awdurdod tân ddarparu ar gyfer talu lwfans (“lwfans gofal”) i aelod ar gyfer unrhyw dreuliau o ran gofalu am blant neu ddibynyddion sy'n angenrheidiol eu tynnu wrth i'r aelod hwnnw gyflawni ei ddyletswyddau fel aelod.

(2Wrth ddarparu o dan baragraff (1), rhaid i awdurdod tân beidio â darparu ar gyfer talu—

(a)lwfans gofal i aelod y mae ganddo hawl i gael lwfans cadeirydd awdurdod tân neu lwfans is-gadeirydd awdurdod tân sy'n ffurfio swm sy'n fwy na'r cyfanswm a bennir o dro i dro yn ysgrifenedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)lwfans gofal mewn perthynas ag unrhyw blentyn dros bymtheg oed neu ddibynnydd onid yw'r aelod yn bodloni'r awdurdod tân bod angen goruchwyliaeth ar y plentyn neu'r dibynnydd a bod hynny wedi peri i'r aelod dynnu treuliau a oedd yn angenrheidiol mewn perthynas â gofal y plentyn hwnnw neu'r dibynnydd hwnnw wrth gyflawni dyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod;

(c)lwfans gofal i fwy nag un aelod ynglyn â gofalu am yr un plentyn neu ddibynnydd; neu

(ch)mwy nag un lwfans gofal i unrhyw aelod nad yw'n gallu dangos, er bodlonrwydd rhesymol yr awdurdod, fod yr aelod wedi gorfod gwneud trefniadau ar wahân i ofalu am blant neu ddibynyddion gwahanol.

(3At ddibenion y flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, ac sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005—

(a)ni fydd cyfanswm y lwfans gofal sy'n daladwy i gadeirydd yn fwy na £678;

(b)ni fydd cyfanswm y lwfans gofal sy'n daladwy i is-gadeirydd yn fwy na £529; ac

(c)ni fydd cyfanswm y lwfans gofal sy'n daladwy i aelod yn fwy na £185.

(4Yn ddarostyngedig i reoliad 14, ni fydd cyfanswm y lwfans gofal sy'n daladwy—

(a)i gadeirydd ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 yn fwy na £1,344;

(b)i is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 yn fwy na £1,050; ac

(c)i aelod ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 yn fwy na £366.

(5At ddibenion y blynyddoedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, ni fydd cyfanswm y lwfans gofal sy'n daladwy i gadeirydd, is-gadeirydd neu aelod (yn ddarostyngedig i reoliad 14) yn fwy na chyfanswm y lwfans hwnnw a oedd yn daladwy i'r swydd honno yn y flwyddyn flaenorol.

(6Pan fo cyfnod swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod yn para am ran o flwyddyn yn unig, bydd hawl y cadeirydd, yr is-gadeirydd neu'r aelod yn hawl i gael tâl am y gyfran honno o'r lwfans gofal sy'n daladwy i'r swydd honno sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y daliwyd y swydd honno yn ystod y flwyddyn o'i chymharu â nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.

(7Pan fo aelod yn cael ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o'i gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau fel cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod, yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno, ni fydd yr awdurdod tân yn talu'r lwfans gofal sy'n daladwy i'r swydd honno am y cyfnod yr oedd y cadeirydd, yr is-gadeirydd neu'r aelod wedi'i atal dros dro, neu wedi'i atal dros dro yn rhannol.

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff awdurdod tân ddarparu ar gyfer addasiad blynyddol i lwfans gofal am y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 a blynyddoedd dilynol.

(2Ni fydd addasiad blynyddol i lwfans gofal sy'n daladwy gan awdurdod tân i gadeirydd, is-gadeirydd neu aelod yn fwy na'r cyfanswm sy'n cynrychioli cyfartaledd yr holl addasiadau blynyddol a wnaed (os gwnaed addasiadau) gan ei awdurdodau cyfansoddol i'r lwfans gofal(1) sy'n daladwy gan yr awdurdodau hynny y flwyddyn honno o dan Reoliadau 2002.

(3Pan fo awdurdod tân i addasu swm lwfans gofal, caiff yr awdurdod hwnnw ddarparu bod yr hawl i'r lwfans fel y'i addaswyd yn gymwys o ddechrau'r flwyddyn y gwneir yr addasiad ynddi.

(4Pan nad yw awdurdod tân yn darparu bod yr hawl i gael lwfans gofal sydd wedi'i addasu yn gymwys o ddechrau blwyddyn, fel a ddisgrifir ym mharagraff (3)—

(a)bydd yr addasiad yn effeithiol o ddyddiad yr addasu; a

(b)bydd yr hawl i gael y lwfans gofal hwnnw fel y'i addaswyd yn hawl i gael tâl am y gyfran honno o'r lwfans hwnnw sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y mae'r lwfans yn effeithiol yn ystod y flwyddyn honno o'i chymharu â nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.

Lwfansau teithio a chynhaliaeth

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd gan aelod hawl i gael taliadau ar ffurf lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth yn ôl cyfraddau y penderfynir arnynt gan yr awdurdod tân ar gyfer pob blwyddyn pan fydd gwariant ar deithio neu gynhaliaeth yn cael ei dynnu o raid gan yr aelod hwnnw wrth iddo gyflawni dyletswydd a gymeradwywyd fel aelod.

(2Rhaid i gyfraddau'r lwfans a benderfynir am flwyddyn o dan baragraff (1) ar gyfer teithio mewn cerbyd modur preifat beidio â bod yn fwy na chyfraddau'r lwfansau cyfatebol sy'n daladwy am y flwyddyn honno i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3Rhaid i dderbynebau sy'n profi beth oedd y gwariant gwirioneddol fynd gydag unrhyw hawliad am lwfansau teithio a chynhaliaeth o dan y Rhan hon (ac eithrio hawliadau am deithio mewn cerbyd modur preifat) ac, yn ogystal, rhaid cydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu gyfyngiad a benderfynir gan awdurdod.

(4Pan fo aelod yn cael ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o gyfrifoldebau a dyletswyddau'r aelod hwnnw yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000, neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno, caiff yr awdurdod tân wrthod talu'r gyfran honno o'r lwfans teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn perthynas â'r cyfnod yr ataliwyd ef dros dro neu ataliwyd ef dros dro yn rhannol.

Adennill lwfansau

16.  Pan dalwyd lwfans yn barod o dan y Rhan hon o ran unrhyw gyfnod pan fo'r aelod dan sylw—

(a)wedi'i atal dros dro neu wedi'i atal dros dro yn rhannol o'i gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau fel aelod, cadeirydd neu is-gadeirydd yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno;

(b)wedi peidio â bod yn aelod o'r awdurdod tân; neu

(c)yn anghymwys mewn unrhyw ffordd i dderbyn y lwfans yn ystod y cyfnod hwnnw,

caiff yr awdurdod tân ddarparu y caiff ofyn am gael adennill y gyfran honno o'r lwfans sy'n ymwneud ag unrhyw gyfnod felly (a chaiff dull yr adennill gynnwys bod yr awdurdod tân yn peidio â thalu swm o'r lwfans perthnasol i'r aelod yn y dyfodol, boed yn rhannol neu'n gyfan).

(1)

Gweler rheoliad 10 o O.S. 2002/1895 (Cy.196).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources