Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn rhoi pwer i'r Ysgrifennydd Gwladol awdurdodi neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw “awdurdod perthnasol” (gan gynnwys awdurdodau tân cyfunol) a bennir yn y Rheoliadau wneud cynllun sy'n darparu ar gyfer talu:

  • wfans sylfaenol; a

  • lwfans cyfrifoldebau arbennig

i aelodau'r awdurdod hwnnw.

Mae'r pŵer hwn bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae adran 100 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynglyn â lwfansau teithio a chynhaliaeth ac ad-dalu treuliau a dynnir gan aelodau unrhyw awdurdodau perthnasol a ragnodir.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tân yng Nghymru wneud cynlluniau ar gyfer talu lwfans sylfaenol (“lwfans awdurdod tân”) a lwfansau cyfrifoldebau arbennig (“lwfans cadeirydd awdurdod tân” a “lwfans is-gadeirydd awdurdod tân”) ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ac yn y blynyddoedd wedi hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hefyd ar gyfer talu lwfans gofal a lwfans teithio a chynhaliaeth.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi awdurdodau tân yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) a (d) o Ddeddf 2000.

Os dirymir cynllun a wnaed o dan y Rheoliadau hyn, mae rheoliad 5 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod sicrhau bod cynllun pellach yn barod i fod yn effeithiol o ddyddiad unrhyw ddirymiad o'r fath.

Mae rheoliad 6 yn rhoi caniatâd i ddiwygio neu i ddirymu cynllun ar unrhyw adeg, ac yn galluogi awdurdodau tân i wneud addasiadau blynyddol i'r lwfansau sy'n daladwy o dan y cynllun, a hynny o'r flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 ymlaen. Cyfyngir ar gyfanswm yr addasiad blynyddol i lwfansau awdurdodau tân, fel nad yw'n fwy na chyfartaledd unrhyw addasiadau a wnaed gan gynghorau cyfansoddol awdurdod tân i'w lwfansau sylfaenol y flwyddyn honno. Cyfyngir ar gyfanswm yr addasiad blynyddol i lwfans cadeirydd awdurdod tân neu lwfans is-gadeirydd awdurdod tân, fel nad yw'n fwy na chyfartaledd unrhyw addasiadau a wnaed gan gynghorau cyfansoddol awdurdod tân i'w lwfansau cyfrifoldebau arbennig y flwyddyn honno.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â lwfans awdurdod tân i bob aelod o awdurdod tân. Un lwfans awdurdod tân yn unig fesul aelod fydd yn daladwy o dan cynllun o'r fath. Mae rheoliad 7 hefyd yn rhagnodi mwyafswm y lwfans awdurdod tân ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, ac yn darparu mwyafsymiau'r lwfans hwnnw mewn blynyddoedd dilynol. O dan reoliad 7, gall awdurdod tân wrthod talu lwfans awdurdod tân i aelod o dan amgylchiadau pan ataliwyd yr aelod dros dro, neu fe'i ataliwyd dros dro yn rhannol, yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno.

Mae Rheoliad 8 yn gofyn i awdurdodau tân ddarparu ar gyfer lwfans cadeirydd awdurdod tân a lwfans is-gadeirydd awdurdod tân. Rhagnodir mwyafswm y ddau lwfans hynny ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, ac mae rheoliad 8 hefyd yn darparu mwyafsymiau'r lwfansau hynny mewn blynyddoedd dilynol. Fel gyda'r lwfans awdurdod tân, caiff awdurdod tân wrthod talu lwfansau cadeirydd awdurdod tân ac is-gadeirydd awdurdod tân o dan amgylchiadau penodol.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol bod cynllun o dan Ran 2 yn pennu swm lwfans awdurdod tân a swm lwfans cadeirydd awdurdod tân a lwfans is-gadeirydd awdurdod tân.

Mae rheoliad 10 yn disgrifio'r amgylchiadau pan gaiff awdurdod tân adennill lwfansau a dalwyd i aelod yr awdurdod hwnnw o dan gynllun.

Rhaid i gynllun o dan Ran 2 gynnwys darpariaeth i ganiatáu i aelod beidio â derbyn unrhyw ran o'r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan y cynllun yn rhinwedd rheoliad 11 ac, o dan reoliad 12, caiff nodi'r amserau ar gyfer talu'r lwfansau (a all fod yn wahanol ar gyfer lwfansau gwahanol).

Mae rheoliad 13 yn rhoi'r disgresiwn i awdurdod tân dalu lwfans gofal. Mae gwahanol symiau lwfansau gofal ar gael i gadeirydd, is-gadeirydd ac aelod sy'n tynnu treuliau wrth drefnu gofal ar gyfer plant neu ddibynyddion tra bo'n ymgymryd â dyletswyddau awdurdod tân. Mae rheoliad 13 yn rhagnodi mwyafsymiau gwahanol y lwfansau gofal sydd ar gael i gadeirydd, is-gadeirydd ac aelod yn ystod y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, ac mae'n nodi mwyafswm y lwfans gofal sy'n daladwy i'r swyddogion hynny mewn blynyddoedd dilynol. Caiff awdurdod tân wrthod talu lwfans gofal i aelod o dan amgylchiadau penodol.

Mae rheoliad 14 yn rhoi'r hawl i awdurdodau tân wneud addasiad blynyddol i swm y lwfans gofal sydd ar gael i gadeirydd, is-gadeirydd ac aelod. Cyfyngir ar gyfanswm yr addasiad.

Mae rheoliad 15 yn darparu ar gyfer talu lwfans costau teithio neu gynhaliaeth i aelodau, yn ôl cyfraddau sydd i'w penderfynu bob blwyddyn. Mae'r cyfraddau hynny i'w cysylltu â'r cyfraddau sy'n daladwy i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau na chaniateir iddynt fod yn fwy na'r cyfraddau y mae Aelodau'r Cynulliad yn eu cael. Mae hawliadau teithio a chynhaliaeth (ac eithrio hawliadau sy'n ymwneud â theithio mewn cerbyd modur preifat) i'w gwneud ar sail “wirioneddol”, rhaid bod derbynebau perthnasol am y gwariant a dynnwyd yn mynd gyda hwy, ac, yn ogystal, rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu gyfyngiad a benderfynir gan awdurdod. Caiff awdurdod tân wrthod talu lwfans teithio neu gynhaliaeth i aelod o dan amgylchiadau penodol.

Mae rheoliad 16 yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff awdurdod tân adennill lwfansau gofal, teithio neu gynhaliaeth a dalwyd i aelod yr awdurdod hwnnw.

Mae rheoliad 17 yn darparu bod yn rhaid i hawliadau gan aelodau awdurdod tân yn unol â'r Rheoliadau hyn gael eu talu gan awdurdod tân y mae'r ceisydd yn aelod ohono. Mae rheoliad 17 hefyd yn darparu bod yn rhaid cynnwys datganiad nad yw'r ceisydd wedi gwneud, ac na fydd yn gwneud, unrhyw hawliad arall ynglyn â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef gyda phob hawliad a wneir am lwfans gofal, lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth.

Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod tân gadw cofnod o unrhyw daliadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn neu unrhyw gynllun a wneir oddi tanynt, gan roi manylion am y derbynnydd a natur y taliad. Dylai'r wybodaeth honno fod ar gael i'w harchwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol yn ardal unrhyw un o awdurdodau cyfansoddol awdurdod tân. Gellir cael copïau o'r wybodaeth drwy dalu ffi resymol i'r awdurdod.

Yn unol â rheoliad 19, rhaid i unrhyw gynllun a wneir o dan y Rheoliadau hyn gael cyhoeddusrwydd yn ardal yr awdurdod cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r cynllun gael ei wneud. Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn y mae cynllun yn ymwneud â hi, rhaid i bob awdurdod gyhoeddi manylion y cyfanswm a dalwyd o dan y cynllun i bob aelod mewn perthynas â lwfans awdurdod tân, lwfans cadeirydd awdurdod tân a lwfans is-gadeirydd awdurdod tân.

Mae rheoliad 19 hefyd yn darparu bod yn rhaid i bob awdurdod tân gyhoeddi manylion y cyfanswm a dalwyd i bob aelod mewn perthynas â'r lwfans gofal.

Mae rheoliad 20 yn datgymhwyso adrannau 174 a 175 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 mewn perthynas ag awdurdodau tân.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources