- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, fel y'u diwygiwyd, ("Rheoliadau 1996") i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny'n ymestyn i Brydain Fawr i gyd.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/67/EC ar labelu bwydydd sy'n cynnwys cwinîn, a bwydydd sy'n cynnwys caffein. Rhaid darllen Cyfarwyddeb 2002/67/EC gyda Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyniad a hysbysebu bwydydd. Mae'r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol rhoi gwybodaeth —
(a)yn rhestru cynwysyddion bwydydd am bresenoldeb unrhyw gwinîn neu gaffein sydd wedi'u hychwanegu neu sydd wedi'u defnyddio fel cyflas (rheoliad 5);
(b)am labelu neu farcio diodydd sy'n cynnwys lefel uchel o gaffein, gyda rhai eithriadau (rheoliad 6).
Bydd y gofynion hyn yn gymwys o 1 Gorffennaf 2004 ymlaen (rheoliad 1(2)). Mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol (rheoliad 7).
3. Gydag effaith o 13 Chwefror 2004 mae'r Rheoliadau hefyd yn diweddaru rhai cyfeiriadau yn Rheoliadau 1996 ac yn Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000 at Gyfarwyddeb y Cyngor 79/112/EEC a gydgyfnerthwyd gan Gyfarwyddeb 2000/13/EC, fel y'i diwygiwyd (rheoliadau 1(2), 3, 4 ac 8).
4. Mae asesiad o effaith y rheoliadau wedi'i baratoi ac wedi'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trawsosod yn nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2002/67/EC wedi'u trawsodod yn y rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: