Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, fel y'u diwygiwyd, ("Rheoliadau 1996") i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny'n ymestyn i Brydain Fawr i gyd.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/67/EC ar labelu bwydydd sy'n cynnwys cwinîn, a bwydydd sy'n cynnwys caffein. Rhaid darllen Cyfarwyddeb 2002/67/EC gyda Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyniad a hysbysebu bwydydd. Mae'r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol rhoi gwybodaeth —

(a)yn rhestru cynwysyddion bwydydd am bresenoldeb unrhyw gwinîn neu gaffein sydd wedi'u hychwanegu neu sydd wedi'u defnyddio fel cyflas (rheoliad 5);

(b)am labelu neu farcio diodydd sy'n cynnwys lefel uchel o gaffein, gyda rhai eithriadau (rheoliad 6).

Bydd y gofynion hyn yn gymwys o 1 Gorffennaf 2004 ymlaen (rheoliad 1(2)). Mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol (rheoliad 7).

3.  Gydag effaith o 13 Chwefror 2004 mae'r Rheoliadau hefyd yn diweddaru rhai cyfeiriadau yn Rheoliadau 1996 ac yn Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000 at Gyfarwyddeb y Cyngor 79/112/EEC a gydgyfnerthwyd gan Gyfarwyddeb 2000/13/EC, fel y'i diwygiwyd (rheoliadau 1(2), 3, 4 ac 8).

4.  Mae asesiad o effaith y rheoliadau wedi'i baratoi ac wedi'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trawsosod yn nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2002/67/EC wedi'u trawsodod yn y rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.