- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Rhaid i hawliad am daliad drwy lwfans presenoldeb, lwfans colled ariannol, lwfansau ar gyfer mynd i gynadleddau a chyfarfodydd, lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth gynnwys datganiad, neu fod datganiad yn cyd-fynd â'r hawliad, wedi'i lofnodi gan yr aelod nad yw wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef.
(2) Ni wneir taliad i berson o dan unrhyw ddarpariaeth o adran 176 o Ddeddf 1972 mewn perthynas â mater y gwnaed taliad yn ei gylch i'r person hwnnw yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(3) Ni fydd gan berson sydd, yn y cyfnod a grybwyllir yn rheoliad 5 neu reoliad 6 —
(a)yn cyflawni dyletswydd wedi'i chymeradwyo neu ddyletswyddau wedi'u cymeradwyo fel aelod o fwy nag un corff,
(b)yn cyflawni dwy ddyletswydd wedi'i chymeradwyo neu fwy i'r un corff, neu
(c)â hawl i lwfans o dan adran 173 o Ddeddf 1972 ac i daliad o lwfans gymharol o dan unrhyw ddeddfiad arall,
yr hawl i daliadau o dan yr adran honno sydd yn eu cyfanswm yn fwy na'r swm a ragnodir gan reoliadau 5 neu 6 fel y bo'n briodol am y cyfnod hwnnw.
(4) Caiff corff sy'n talu lwfans o dan adran 173 o Ddeddf 1972 i berson am ddyletswydd wedi'i chymeradwyo fel y'i disgrifir ym mharagraff (3) ostwng swm y lwfans hwnnw gan swm unrhyw lwfans arall o dan adran 173 neu unrhyw lwfans cymharol o dan unrhyw ddeddfiad a delir gan gorff arall.
13.—(1) Rhaid i bob awdurdod gadw cofnod o daliadau a wneir ganddo yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i gofnod o'r fath nodi enw'r derbynnydd a swm a natur pob taliad a rhaid trefnu ei fod ar gael, ar bob adeg resymol, i'w archwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol (o fewn ystyr “local government elector” yn adran 270(1) o Ddeddf 1972) yn ardal yr awdurdod.
(3) Caiff person sydd â hawl i archwilio cofnod o dan baragraff (2) ofyn am gopi o unrhyw ran ohono ar ôl talu ffi resymol a all fod yn ofynnol gan yr awdurdod.
14. Cyn gynted ag y bydd yn ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i bob awdurdod wneud trefniadau i gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob aelod mewn perthynas â lwfans presenoldeb a lwfans colled ariannol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: